Prosesu'r dogfennau ar gyfer contractau bywyd, pensiynau a buddsoddi uniongyrchol
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â phrosesu dogfennaeth ar gyfer contractau bywyd, pensiynau a buddsoddi uniongyrchol. Bydd eich gwaith yn golygu eich bod yn darparu polisi neu ddogfennau eraill i gwsmeriaid yn dystiolaeth ynghylch y contract. Ar ôl i fusnes newydd neu addasiadau gael eu prosesu, rydych yn paratoi ac yn cyflwyno'r dogfennau angenrheidiol i'r cwsmer. Byddwch fel arfer yn delio gyda dogfennaeth ar gyfer polisïau sydd â geiriad safonol, h.y., y polisïau neu'r cynnyrch hynny sy'n cael eu gyrru gan y system, heb ganiatáu fawr ddim cyfle, os o gwbl, i wneud penderfyniad unigol i amrywio'r telerau a'r amodau. Bydd angen i chi ddefnyddio gwybodaeth yn effeithiol, yn effeithlon ac er lles pennaf eich cwsmer, gan roi sylw i fanylion sy'n hollbwysig i'ch gwaith.
Efallai bydd y safon hon
yn addas i chi os ydych chi'n gweithio i yswiriwr neu ddarparwr cynnyrch arall,
neu ar eu rhan.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Nodi'r wybodaeth gywir yn y man priodol, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Cynhyrchu'r dogfennau cywir, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Datrys unrhyw anghysondebau neu elfennau nad ydynt yn cyfateb yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Cyflwyno dogfennau i'r rhai sydd eu hangen, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Ymgorffori cymalau a geiriad safonol yn gywir, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Cadw cofnodion cywir a chyflawn bob cam, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Gwirio bod dogfennau'n gywir, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Datgelu gwybodaeth dim ond i'r rhai sydd ei hangen, ac sydd â hawl i'w derbyn yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Cydymffurfio â gofynion cyfreithiol, rheoliadau'r diwydiant, safonau moesegol, polisïau sefydliadol a chodau ymarfer proffesiynol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Yr egwyddorion a'r rheoliadau cyfreithiol perthnasol sy'n effeithio ar eich gweithgareddau
- Strwythur y farchnad yswiriant a sicrwydd a rolau a chyfrifoldebau'r amrywiol bartïon sy'n rhan ohoni sy'n effeithio ar eich gweithgareddau
- Safonau a gweithdrefnau gwasanaeth eich sefydliad, gan gynnwys delio gyda chwynion
- Ffynonellau gwybodaeth a chyngor a ble mae eu cyrchu
- Systemau a gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer cofnodi ac addasu gwybodaeth
- Polisi a gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer cyfathrebu â chwsmeriaid
- Gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer paratoi polisïau neu ddogfennau eraill, gan gynnwys unrhyw wybodaeth gysylltiedig hanfodol sy'n ofynnol gan y cwsmer
- Gweithdrefnau a therfynau amser eich sefydliad ar gyfer cyflwyno polisïau neu ddogfennau eraill
- Gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer canslo yng nghanol y cyfnod
- Terfynau eich awdurdod a'r camau sy'n ofynnol i dansgrifennu risg y tu allan i'ch awdurdod
- Gofynion eich sefydliad yng nghyswllt cymhwyso codau, cyfreithiau a gofynion rheoliadol, gan gynnwys safonau moesegol sy'n cael effaith ar eich gweithgareddau
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
- Rydych yn cyflwyno gwybodaeth yn glir ac yn gryno
- Rydych yn arddangos dealltwriaeth o bobl eraill ac yn delio gyda nhw mewn modd proffesiynol