Rheoli a datblygu'r berthynas â'r cwsmer er mwyn gwella llif busnes gwasanaethau ariannol
URN: FSPLPI06
Sectorau Busnes (Cyfresi): Bywyd, Pensiynau a Buddsoddiadau
Datblygwyd gan: Skills for Justice
Cymeradwy ar:
2017
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â rheoli a datblygu'r berthynas â'r cwsmer er mwyn gwella llif busnes gwasanaethau ariannol. Byddwch yn mynd ati'n rhagweithiol i greu a chynnal cofnodion ynghylch cwsmeriaid a'u gweithgareddau o fewn eu cyfrifon. Byddwch yn creu ac yn gweithredu cynllun gweithgaredd i ddatblygu'r berthynas â'r cwsmer a chynyddu gwerthiant cynnyrch neu wasanaethau ariannol. Byddwch yn gwerthuso ac yn adolygu eich cynllun yn rheolaidd er mwyn monitro ei lwyddiant.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Gwirio bod manylion cwsmeriaid yn gyflawn, yn gywir ac wedi'u storio'n ddiogel, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Diweddaru manylion cwsmeriaid i adlewyrchu newidiadau yn eu hamgylchiadau
- Monitro a diweddaru cofnodion gweithgaredd, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Defnyddio gwybodaeth am gwsmeriaid, cystadleuwyr ym maes gwasanaethau ariannol a'r farchnad gwasanaethau ariannol i wneud penderfyniadau gwybodus ynghylch rheoli'r berthynas gyda'ch cwsmeriaid
- Nodi a gwerthuso ystod, natur ac amlder y gweithgareddau sy'n angenrheidiol i gyflawni targedau busnes newydd sy'n ymwneud â gwerthu cynnyrch a gwasanaethau ariannol
- Creu a gweithredu cynlluniau gweithgaredd yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Nodi'r gofynion allweddol o ran adnoddau ar gyfer gweithredu eich cynlluniau, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Nodi problemau posibl a allai godi i herio cyflawniad eich cynlluniau, a chael hyd i atebion iddynt, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Monitro a gwerthuso eich cynlluniau ar gyfer llwyddiant a nodi camau gweithredu priodol i sicrhau bod eich cynllun yn dychwelyd i'r llwybr cywir lle bo angen
- Cydymffurfio â gofynion cyfreithiol, rheoliadau'r diwydiant, safonau moesegol, polisïau sefydliadol a chodau ymarfer proffesiynol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Yr egwyddorion a'r rheoliadau cyfreithiol perthnasol sy'n effeithio ar eich gweithgareddau
- Strwythur y farchnad yswiriant a sicrwydd a rolau a chyfrifoldebau'r amrywiol bartïon sy'n rhan ohoni sy'n effeithio ar eich gweithgareddau
- Safonau a gweithdrefnau gwasanaeth cwsmeriaid eich sefydliad, gan gynnwys delio gyda chwynion
- Ffynonellau cyngor a gwybodaeth yn y gwaith
- Prosesau sefydliadol ar gyfer cadw cofnodion a gweithdrefnau ar gyfer cynnal cofnodion cwsmeriaid, gan gynnwys defnyddio systemau TG perthnasol
- Mathau a nodweddion, telerau ac amodau'r cynnyrch neu'r gwasanaethau ariannol a gynigir gan eich sefydliad
- Sut mae sefydlu a chynnal perthnasoedd effeithiol gyda chwsmeriaid a chydweithwyr, gan gynnwys defnyddio sgiliau rhyngbersonol a chysyniad darparu gwasanaeth o ansawdd
- Pwysigrwydd datblygu cynlluniau tymor byr, canolig a thymor hir
- Egwyddorion cynllunio gweithgaredd datblygu
- Gweithgaredd y farchnad a chystadleuwyr a datblygiadau yn eich diwydiant neu eich sector
- Gweledigaeth, strategaeth ac amcanion eich sefydliad
- Strategaethau marchnata a gwerthiant eich sefydliad
- Y rhwystrau posibl wrth gynllunio gweithgaredd datblygu a sut mae eu goresgyn
- Sut mae perthnasoedd mewnol â chwsmeriaid yn effeithio ar weithrediad llwyddiannus eich cynllun gweithgaredd datblygu
- Sut mae monitro a gwerthuso cynllun gweithgaredd datblygu
- Modelau a thempledi ar gyfer gweithgareddau gwerthiant
- Sut mae gofynion eich sefydliad yng nghyswllt cymhwyso codau, cyfreithiau a gofynion rheoliadol, gan gynnwys safonau moesegol a iechyd a diogelwch, yn cael effaith ar eich gweithgareddau
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
- Rydych yn defnyddio gwybodaeth yn effeithiol, yn effeithlon ac yn foesegol
- Rydych yn arddangos dealltwriaeth o bobl eraill ac yn delio gyda nhw mewn modd proffesiynol
- Rydych yn darparu gwybodaeth i'r rhai sydd ei hangen ac sydd â hawl i'w derbyn yn unig
- Rydych yn rhoi sylw i fanylion sy'n hanfodol i'ch gwaith
- Rydych yn ymfalchïo mewn cyflawni rhyngweithio ansawdd uchel gyda golwg ar werthiant
- Rydych chi'n rhoi blaenoriaeth i'ch llwyth gwaith ac yn defnyddio gwybodaeth i roi eich cynlluniau busnes ar waith yn effeithiol
- Rydych yn cydweithio'n agos â'ch rheolwr llinell i sicrhau bod eich cynlluniau a'ch targed busnes newydd yn cael eu cyflawni
- Rydych yn cymryd cyfleoedd pan fyddant yn codi i gyflawni targedau ac amcanion o ran busnes newydd
- Rydych yn adolygu, yn myfyrio ar y gweithgareddau yn eich cynllun, ac yn eu diwygio ar sail mesur cyflawniad targedau
- Rydych yn cyflawni tasgau gan roi sylw dyledus i bolisïau a gweithdrefnau eich sefydliad, gan gynnwys y rhai sy'n ymdrin â safonau moesegol a iechyd a diogelwch yn y gwaith
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
2022
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Partneriaeth Sgiliau Ariannol
URN gwreiddiol
FSPLPI06
Galwedigaethau Perthnasol
Cyllid
Cod SOC
Geiriau Allweddol
Swyddfa bywyd; tansgrifennu; busnes newydd; contract; dogfennaeth; cynnyrch ariannol; gwasanaethau ariannol; newidiadau i'r contract; risg; gwasanaeth cwsmeriaid