Awdurdodi tansgrifennu contractau bywyd, pensiynau a buddsoddi
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud ag awdurdodi
tansgrifennu busnes newydd neu addasiadau arfaethedig sy'n dderbyniol i
gontractau bywyd, pensiynau a buddsoddi. Byddwch yn sicrhau bod penderfyniad
cywir wedi'i wneud ynghylch cais y cwsmer, bod yr holl ddogfennau, cofnodion a
chyfrifiadau'n gywir, a bod y cais busnes newydd neu'r addasiad a gynigir yn
cydymffurfio â'r gyfraith, cyfyngiadau rheoleiddio, a pholisïau a gweithdrefnau
eich sefydliad. Wedyn byddwch yn awdurdodi'r addasiad. Rydych yn nodi unrhyw
fylchau neu wallau wrth dansgrifennu ac yn cymryd y camau priodol. Bydd angen i
chi roi sylw i fanylion sy'n hanfodol i'ch gwaith a defnyddio gwybodaeth yn
effeithiol, yn effeithlon ac yn foesegol.
Efallai bydd y safon hon yn addas i chi os ydych chi'n gweithio i
yswiriwr neu ddarparwr cynnyrch arall, neu ar eu rhan.**
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Gwirio bod ceisiadau am fusnes newydd neu addasiadau wedi cael eu pennu'n gywir, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Cywiro unrhyw elfennau anghywir yn y dogfennau, y cofnodion, neu gymhwysiad y meini prawf tansgrifennu
- Gwirio bod busnes newydd arfaethedig neu addasiadau'n cydymffurfio â therfynau neu gyfyngiadau a nodwyd gan y gyfraith, rheoliadau, a pholisïau a gweithdrefnau eich sefydliad
- Nodi busnes newydd neu addasiadau lle na ddilynwyd polisïau a gweithdrefnau eich sefydliad, a chymryd camau ynghylch hynny
- Awdurdodi busnes newydd neu addasiadau yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad a therfynau eich awdurdod
- Rhoi gwybod i bobl briodol o fewn eich sefydliad am eich penderfyniad
- Cadw cofnodion cywir a chyflawn yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Cydymffurfio â gofynion cyfreithiol, rheoliadau'r diwydiant, safonau moesegol, polisïau sefydliadol a chodau ymarfer proffesiynol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Yr egwyddorion a'r rheoliadau cyfreithiol perthnasol sy'n effeithio ar eich gweithgareddau
- Strwythur y farchnad yswiriant a sicrwydd a rolau a chyfrifoldebau'r amrywiol bartïon sy'n rhan ohoni sy'n effeithio ar eich gweithgareddau
- Safonau a gweithdrefnau gwasanaeth cwsmeriaid eich sefydliad, gan gynnwys delio gyda chwynion
- Ffynonellau cyngor a gwybodaeth yn y gwaith
- Systemau a gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer cyrchu, cofnodi ac addasu gwybodaeth
- Yr yswiriant sy'n cael ei ddarparu gan y polisïau rydych chi'n delio gyda nhw, gan gynnwys estyniadau a chyfyngiadau safonol ac ansafonol
- Polisi a gweithdrefnau eich sefydliad ynghylch cyfathrebu â chwsmeriaid
- Polisïau a gweithdrefnau tansgrifennu eich sefydliad
- Yr wybodaeth neu'r ddogfennaeth sy'n ofynnol i dansgrifennu addasiadau i gontractau presennol
- Terfynau eich awdurdod a'r camau sy'n ofynnol i dansgrifennu risg y tu allan i'ch awdurdod
- Y camau sy'n ofynnol os nad yw addasiad yn bodloni'r meini prawf derbyn
- Gofynion eich sefydliad yng nghyswllt cymhwyso codau, cyfreithiau a gofynion rheoliadol, gan gynnwys safonau moesegol sy'n cael effaith ar eich gweithgareddau
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
- Rydych yn darparu gwybodaeth i'r rhai sydd ei hangen
ac sydd â hawl i'w derbyn yn unig