Awdurdodi ceisiadau am daliadau yn erbyn pensiynau bywyd a chontractau buddsoddi
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud ag awdurdodi ceisiadau am daliadau yn erbyn contractau bywyd, pensiynau a buddsoddi. Mae'n ymwneud â sicrhau bod dogfennaeth sy'n ymwneud â cheisiadau am daliadau o dan gontract yn cael eu cyflwyno'n gywir a bod taliadau dilynol yn gywir. Rydych chi'n sicrhau bod y rhesymau dros wneud y cais am daliad wedi cael eu nodi a'u cofnodi'n gywir, bod yr holl ddogfennau a'r cyfrifiadau'n gywir, a bod gweithdrefnau eich sefydliad wedi'u cyflawni'n llwyr cyn cyflwyno'r dogfennau. Byddwch yn sicrhau bod yr holl ddogfennaeth a'r cyfrifiadau'n gyflawn ac yn gywir, a bod y gweithdrefnau o ran eich ffurflenni wedi cael eu cyflawni cyn gwneud y trefniadau angenrheidiol ar gyfer y taliad. Bydd angen i chi roi sylw i fanylion sy'n hanfodol i'ch gwaith.
Efallai bydd y safon hon
yn addas i chi os ydych chi'n gweithio i yswiriwr neu ddarparwr cynnyrch arall,
neu ar eu rhan.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Gwirio bod y rheswm dros y cais am daliad wedi cael ei nodi a'i gofnodi'n gywir, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Nodi unrhyw elfennau anghywir neu sydd wedi'u hepgor yn yr wybodaeth, y dogfennau neu'r cyfrifiadau, a'u cywiro pan fo angen
- Cyfeirio ceisiadau am daliadau nad oes gennych awdurdod i ddelio gyda nhw at y bobl briodol, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Nodi ceisiadau am daliadau lle na ddilynwyd polisïau a gweithdrefnau eich sefydliad, a chymryd camau yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Awdurdodi setlo'r cais am daliad, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Cydymffurfio â gofynion cyfreithiol, rheoliadau'r diwydiant, safonau moesegol, polisïau sefydliadol a chodau proffesiynol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Yr egwyddorion a'r rheoliadau cyfreithiol perthnasol sy'n effeithio ar eich gweithgareddau
- Strwythur y farchnad yswiriant a sicrwydd a rolau a chyfrifoldebau'r amrywiol bartïon sy'n rhan ohoni sy'n effeithio ar eich gweithgareddau
- Safonau a gweithdrefnau gwasanaeth cwsmeriaid eich sefydliad, gan gynnwys delio gyda chwynion
- Ffynonellau cyngor a gwybodaeth yn y gwaith
- Gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer delio gyda cheisiadau am daliadau yn erbyn contractau bywyd, pensiynau a buddsoddi
- Sut mae delio gyda dogfennau contract coll, os bydd angen
- Yr yswiriant a ddarperir gan gynnyrch cyfredol ac anghyfredol eich sefydliad sy'n berthnasol i'ch rôl
- Polisi a gweithdrefnau eich sefydliad ynghylch cyfathrebu â chwsmeriaid
- Yr wybodaeth a'r dogfennau sy'n ofynnol i brosesu ceisiadau cymhleth am daliadau yn erbyn contractau bywyd, pensiynau a buddsoddi
- Terfynau eich awdurdod a'r camau sy'n ofynnol i dansgrifennu risg y tu allan i'ch awdurdod
- Rolau a swyddogaethau'r partïon eraill sy'n ymwneud â cheisiadau am daliadau
- Systemau a gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer cofnodi ac addasu gwybodaeth
- Sut mae adnabod a delio gyda thwyll neu dwyll posibl mewn ceisiadau am daliadau
- Gofynion eich sefydliad yng nghyswllt cymhwyso codau, cyfreithiau a gofynion rheoliadol, gan gynnwys safonau moesegol sy'n cael effaith ar eich gweithgareddau
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
- Rydych yn wyliadwrus ynghylch risgiau posibl
- Rydych yn arddangos uniondeb, tegwch a chysondeb yn y penderfyniadau a wnewch
- Rydych yn darparu gwybodaeth i'r rhai sydd ei hangen ac sydd â hawl i'w derbyn yn unig