Prosesu ceisiadau uniongyrchol am daliadau yn erbyn contractau bywyd, pensiynau a buddsoddi
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud ag awdurdodi ceisiadau uniongyrchol am daliadau yn erbyn contractau bywyd, pensiynau a buddsoddi. Mae'r cais am daliad yn cael ei brosesu a'i dalu cyhyd â'i fod yn ddilys, bod y dogfennau'n gywir, a bod yr holl ofynion eraill wedi'u bodloni. Rhaid i chi gofnodi manylion cywir ynghylch y cais am daliad, a nodi'r holl bolisïau perthnasol. Wedyn byddwch yn gofyn am yr holl wybodaeth ofynnol ar gyfer pob polisi dan sylw. Byddwch yn casglu'r holl ddogfennau a gwybodaeth angenrheidiol i ddilysu'r cais am daliad. Ar ôl i chi dderbyn yr wybodaeth benodedig a'r dogfennau gofynnol, byddwch yn trefnu unrhyw daliadau, gan ganfod gan bwy mae'r teitl lle bo hynny'n briodol, a diweddaru systemau gwybodaeth. Bydd angen i chi ddefnyddio gwybodaeth yn effeithiol, yn effeithlon ac yn foesegol, gan roi sylw i fanylion sy'n hollbwysig i'ch gwaith.
Efallai bydd y safon hon yn addas i chi os ydych chi'n gweithio i yswiriwr neu ddarparwr cynnyrch arall, neu ar eu rhan.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Cofnodi manylion ceisiadau uniongyrchol am daliadau, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Casglu'r holl wybodaeth a dogfennaeth gofynnol ar gyfer pob polisi
- Nodi'r holl bolisïau a allai effeithio ar y cais am daliad neu fod yn berthnasol iddo
- Cyfeirio ceisiadau am daliadau nad oes gennych awdurdod i ddelio gyda nhw at y bobl briodol, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Canfod ym meddiant pwy mae'r teitl a phwy sydd â'r hawl i dderbyn taliad, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Gwirio bod y systemau a ddefnyddir i fonitro cynnydd ceisiadau uniongyrchol am daliadau yn cael eu diweddaru'n gyson, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Cyfrifo setliad yn unol â thelerau'r contract
- Darparu gwybodaeth i hawlwyr neu eu cynrychiolwyr, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Trefnu taliadau awdurdodedig yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Cadw cofnodion cywir a chyflawn yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Cydymffurfio â gofynion cyfreithiol, rheoliadau'r diwydiant, safonau moesegol, polisïau sefydliadol a chodau ymarfer proffesiynol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Yr egwyddorion a'r rheoliadau cyfreithiol perthnasol sy'n effeithio ar eich gweithgareddau
- Strwythur y farchnad yswiriant a sicrwydd a rolau a chyfrifoldebau'r amrywiol bartïon sy'n rhan ohoni sy'n effeithio ar eich gweithgareddau
- Gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer delio gyda cheisiadau uniongyrchol am daliad yn erbyn contract bywyd, pensiynau a buddsoddi
- Sut mae delio gyda dogfennau contract coll
- Safonau a gweithdrefnau gwasanaeth cwsmeriaid eich sefydliad, gan gynnwys delio gyda chwynion
- Ffynonellau cyngor a gwybodaeth yn y gwaith
- Yr yswiriant a ddarperir gan gynnyrch cyfredol ac anghyfredol eich sefydliad sy'n berthnasol i'ch rôl
- Polisi a gweithdrefnau eich sefydliad ynghylch cyfathrebu â chwsmeriaid
- Yr wybodaeth a'r dogfennau sy'n ofynnol i brosesu ceisiadau uniongyrchol am daliadau yn erbyn contractau bywyd, pensiynau a buddsoddi
- Terfynau eich awdurdod a'r camau sy'n ofynnol i dansgrifennu risg y tu allan i'ch awdurdod
- Rolau a swyddogaethau'r partïon eraill sy'n ymwneud â cheisiadau am daliadau. Systemau a gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer cofnodi ac addasu gwybodaeth
- Gofynion eich sefydliad yng nghyswllt cymhwyso codau, cyfreithiau a gofynion rheoliadol, gan gynnwys safonau moesegol sy'n cael effaith ar eich gweithgareddau
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
- Rydych yn arddangos uniondeb, tegwch a chysondeb yn y penderfyniadau a wnewch
- Rydych yn wyliadwrus ynghylch risgiau posibl