Prosesu dyfynbrisiau uniongyrchol ar gyfer busnes bywyd, pensiynau a buddsoddi newydd
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â phrosesu dyfynbrisiau uniongyrchol ar gyfer busnes bywyd, pensiynau a buddsoddi newydd. Mae'n ymwneud â delio gyda cheisiadau safonol am fusnes newydd a'u prosesu. Byddwch yn penderfynu a ellir prosesu dyfynbris, ac os gellir, yn ei ddosbarthu i'r cwsmer. Byddwch yn gwirio'r wybodaeth a ddarparwyd i gwblhau'r dyfynbris a bod yr wybodaeth yn bodloni'r gofynion cymhwystra. Byddwch yn hysbysu'r cwsmer ynghylch y penderfyniad. Bydd angen i chi ddefnyddio gwybodaeth yn effeithiol, yn effeithlon ac yn foesegol, gan roi sylw i fanylion sy'n hollbwysig i'ch gwaith.
Efallai bydd y safon hon yn addas i chi os ydych chi'n gweithio i yswiriwr neu ddarparwr cynnyrch arall, neu ar eu rhan.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Gwirio bod gennych chi fanylion digonol ynghylch yr addasiad i'ch galluogi i symud ymlaen
- Prosesu ceisiadau gan fwydo gwybodaeth gywir a chyflawn i'r system berthnasol, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Sicrhau eglurhad ynghylch gwybodaeth anghyflawn neu anghyson gyda chleientiaid, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Cymhwyso meini prawf tansgrifennu, gan gynnwys estyniadau safonol a chyfyngiadau, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Rhoi gwybod i gwsmeriaid beth yw'r telerau a'r amodau, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Trefnu bod dogfennau'n cael eu cyflwyno o fewn y terfynau amser perthnasol
- Gwirio bod y bobl berthnasol yn cymryd y camau dilynol ar ôl pob dyfynbris
- Cydymffurfio â gofynion cyfreithiol, rheoliadau'r diwydiant, safonau moesegol, polisïau sefydliadol a chodau ymarfer proffesiynol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Yr egwyddorion a'r rheoliadau cyfreithiol perthnasol sy'n effeithio ar eich gweithgareddau
- Strwythur y farchnad yswiriant a sicrwydd a rolau a chyfrifoldebau'r amrywiol bartïon sy'n rhan ohoni sy'n effeithio ar eich gweithgareddau
- Safonau a gweithdrefnau gwasanaeth cwsmeriaid eich sefydliad, gan gynnwys delio gyda chwynion
- Ffynonellau cyngor a gwybodaeth yn y gwaith
- Yr yswiriant sy'n cael ei ddarparu gan y polisïau rydych chi'n delio gyda nhw, gan gynnwys estyniadau a chyfyngiadau safonol
- Polisi a gweithdrefnau eich sefydliad ynghylch cyfathrebu â chwsmeriaid
- Cwestiynau safonol ynghylch ceisiadau neu ymholiadau ac atebion derbyniol
- Terfynau eich awdurdod a'r camau sy'n ofynnol i dansgrifennu risg y tu allan i'ch awdurdod
- Sut mae cymhwyso meini prawf tansgrifennu gan ddefnyddio systemau wedi'u hawtomeiddio
- Y camau sy'n ofynnol os nad yw cais neu ymholiad yn bodloni'r meini prawf derbyn
- Systemau a gweithdrefnau ar gyfer cofnodi a chyrchu gwybodaeth cwsmeriaid
- Gofynion eich sefydliad yng nghyswllt cymhwyso codau, cyfreithiau a gofynion rheoliadol, gan gynnwys safonau moesegol sy'n cael effaith ar eich gweithgareddau
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
- Rydych yn arddangos dealltwriaeth o bobl eraill ac yn delio gyda nhw mewn modd proffesiynol
- Rydych yn darparu gwybodaeth i'r rhai sydd ei hangen ac sydd â hawl i'w derbyn yn unig
- Rydych yn gweithredu o fewn eich awdurdod