Rheoli'r berthynas fusnes gyda chleientiaid mewn amgylchedd gwasanaethau ariannol
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â rheoli perthnasoedd busnes gyda chleientiaid trwy ddefnyddio eich gwybodaeth am y marchnadoedd gwasanaethau ariannol a chynnyrch a gwasanaethau ariannol yn effeithiol. Rhaid i rôl eich swydd olygu eich bod yn delio'n uniongyrchol gyda chleientiaid, naill ai wyneb yn wyneb neu dros y ffôn. P'un a yw eich rôl yn cynnwys cyfrifoldebau goruchwylio neu reoli neu beidio, bydd disgwyl i chi dderbyn cyfrifoldeb am yr adnoddau a'r systemau rydych chi'n eu defnyddio sy'n cynnal y gwasanaeth rydych chi'n ei roi. Mae angen i chi ddefnyddio eich gwybodaeth am gynnyrch a gwasanaethau ariannol a gweithrediad y farchnad fuddsoddi i gynnal a gwella llif busnes gwasanaethau ariannol. Yn eich gwaith mae rhaid i chi fod yn effro i ymateb cleientiaid i'r cynnyrch neu'r gwasanaethau ariannol rydych chi'n eu cynnig, a gwybod sut mae modd eu defnyddio i wella'r gwasanaeth rydych chi'n ei roi.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Sicrhau eich bod yn diweddaru eich gwybodaeth am y farchnad gwasanaethau ariannol a chynnyrch a gwasanaethau buddsoddi eich sefydliad yn gyson
- Trefnu eich gwaith er mwyn rhoi'r sylw angenrheidiol i gleientiaid, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Defnyddio eich gwybodaeth am y farchnad gwasanaethau ariannol a'r cynnyrch neu'r gwasanaethau ariannol a gynigir gan eich sefydliadau i reoli disgwyliadau cleientiaid
- Rheoli'r berthynas â'ch cleientiaid i wella llif busnes gwasanaethau ariannol, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Ymateb i lwyth gwaith a sefyllfaoedd annisgwyl yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Cyflawni disgwyliadau eich cleientiaid, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Ymateb i'ch cleientiaid pan fyddant yn trafod cynnyrch neu wasanaethau ariannol rydych chi'n eu cynnig, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Rhybuddio eraill ynghylch unrhyw sylwadau neu arsylwadau a wnaed gan eich cleientiaid ynghylch cynnyrch neu wasanaethau ariannol rydych chi'n eu cynnig, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Cadw cofnodion cywir wedi'u diweddaru o'r holl gamau a gymerwyd, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Cydymffurfio â gofynion cyfreithiol, rheoliadau'r diwydiant, gan gynnwys safonau moesegol, polisïau sefydliadol a chodau ymarfer proffesiynol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Y fframwaith rheoliadol ar gyfer rhyngweithio â chleientiaid ac effaith hynny ar eich rôl gwaith chithau
- Strwythur y farchnad fuddsoddi a rolau a chyfrifoldebau'r amrywiol bartïon sy'n rhan ohoni
- Sut mae sefydlu a chynnal perthnasoedd effeithiol gyda chleientiaid, gan gynnwys defnyddio sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu a chysyniadau darparu gwasanaeth o ansawdd
- Gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer sefyllfaoedd annisgwyl a'ch rôl chi oddi mewn iddynt
- Pwysigrwydd meddu ar wybodaeth ddibynadwy a chyflym ar gyfer eich cleientiaid a'ch sefydliad
- Gweithdrefnau a systemau sefydliadol ar gyfer darparu gwasanaeth i gwsmeriaid
- Sut mae adnabod adborth defnyddiol gan gleientiaid a phenderfynu ar sail pa adborth y dylid gweithredu
- Sut mae cyfleu adborth cleientiaid i eraill
- Gweithdrefnau a systemau sefydliadol ar gyfer cofnodi, storio, adalw a chyflenwi gwybodaeth cleientiaid.
- Gofynion eich sefydliad yng nghyswllt cymhwyso codau, cyfreithiau a gofynion rheoliadol, gan gynnwys safonau moesegol sy'n cael effaith ar eich gweithgareddau
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
- Rydych yn dangos dealltwriaeth i gwsmeriaid ac yn delio gyda nhw mewn modd proffesiynol
- Rydych yn defnyddio arddulliau cyfathrebu sy'n briodol ar gyfer gwahanol bobl a sefyllfaoedd
- Rydych yn ceisio deall anghenion a symbyliad pobl
- Rydych yn nodi goblygiadau a chanlyniadau sefyllfaoedd
- Rydych yn blaenoriaethu amcanion ac yn cynllunio gwaith i wneud y defnydd gorau o amser ac adnoddau