Meithrin perthnasoedd effeithiol gyda chleientiaid mewn amgylchedd gwasanaethau ariannol
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â sut mae meithrin perthnasoedd effeithiol gyda chleientiaid trwy ddefnyddio eich gwybodaeth am gynnyrch a gwasanaethau ariannol. Rhaid i rôl eich swydd olygu eich bod yn delio'n uniongyrchol gyda chleientiaid, naill ai wyneb yn wyneb neu dros y ffôn. Mae eich cwsmeriaid am fod yn sicr bod y gwasanaeth a dderbyniant yn cyflawni eu disgwyliadau. Yn ogystal â bod yn dda gyda phobl, bydd angen i chi ddefnyddio eich gwybodaeth am gynnyrch a gwasanaethau ariannol a systemau gwasanaeth eich sefydliad i gyflawni disgwyliadau cwsmeriaid, a rhagori arnynt lle bynnag y bo modd. Yn eich gwaith bydd llawer o enghreifftiau o sut rydych yn cyfuno eich gwybodaeth, eich agwedd a'ch ymddygiad â systemau eich sefydliad. Mae angen i chi baratoi ar gyfer pob trafodyn gyda chwsmer, delio gyda gwahanol fathau o gwsmeriaid mewn gwahanol amgylchiadau, a gwirio bod yr hyn rydych chi wedi'i wneud wedi cyflawni disgwyliadau cwsmeriaid.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Sicrhau eich bod yn diweddaru eich gwybodaeth am gynnyrch a gwasanaethau ariannol eich sefydliad yn gyson
- Paratoi popeth fydd ei angen arnoch i ddelio gyda'ch cleientiaid cyn i'ch cyfnod gwaith gychwyn
- Defnyddio eich gwybodaeth am gynnyrch neu wasanaethau ariannol a gynigir gan eich sefydliad i feithrin perthnasoedd effeithiol gyda'ch cleientiaid
- Defnyddio eich gwybodaeth am gynnyrch neu wasanaethau ariannol i sicrhau bod y gwasanaeth a ddarparwch yn cydbwyso anghenion eich cleientiaid a'ch sefydliad
- Sicrhau bod cleientiaid yn derbyn yr wybodaeth ddiweddaraf ynghylch darpariaeth cynnyrch neu wasanaethau ariannol
- Sylweddoli pan fydd anghenion neu ddisgwyliadau eich cleientiaid ynghylch cynnyrch neu wasanaethau ariannol wedi newid, ac addasu eich gwasanaeth i ymateb i'w gofynion newydd
- Cyfeirio unrhyw sefyllfaoedd nad oes gennych awdurdod i ddelio gyda nhw at y bobl briodol
- Gwirio bod y gwasanaeth a roddwyd gennych yn cyflawni anghenion a disgwyliadau eich cleient
- Cydymffurfio â gofynion cyfreithiol, rheoliadau'r diwydiant, gan gynnwys safonau moesegol, polisïau sefydliadol a chodau ymarfer proffesiynol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Y fframwaith rheoliadol ar gyfer rhyngweithio â chleientiaid ac effaith hynny ar eich rôl gwaith chithau
- Gweithdrefnau a systemau eich sefydliad ar gyfer darparu gwasanaeth cwsmeriaid
- Sut mae ymateb i gleientiaid pan fo amgylchiadau annisgwyl yn effeithio ar ddarparu cynnyrch neu wasanaethau ariannol
- Dulliau neu systemau ar gyfer mesur effeithiolrwydd sefydliad wrth ddarparu gwasanaeth i gwsmeriaid
- Gweithdrefnau a systemau eich sefydliad ar gyfer gwirio'r gwasanaeth a ddarperir
- Y mathau o gynnyrch neu wasanaethau ariannol sy'n cael eu cynnig gan eich sefydliad
- Gofynion eich sefydliad yng nghyswllt cymhwyso codau, cyfreithiau a gofynion rheoliadol, gan gynnwys safonau moesegol sy'n cael effaith ar eich gweithgareddau
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
- Rydych yn ymfalchïo mewn gwaith o ansawdd uchel
- Rydych yn arddangos dealltwriaeth o gwsmeriaid ac yn delio gyda nhw mewn modd proffesiynol
- Rydych yn defnyddio arddulliau cyfathrebu sy'n briodol ar gyfer gwahanol bobl a sefyllfaoedd
- Rydych yn ymateb yn gyflym i broblemau posibl