Prosesu taliadau sy'n ymwneud â thrafodion neu gyfrifon buddsoddi rhanddeiliaid

URN: FSPIO12
Sectorau Busnes (Suites): Gweithrediadau Buddsoddi
Datblygwyd gan: Skills for Justice
Cymeradwy ar: 01 Maw 2017

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â phrosesu taliadau sy'n gysylltiedig â thrafodion neu gyfrifon buddsoddi rhanddeiliaid. Efallai bydd y safon hon yn addas i chi os yw eich gwaith yn golygu eich bod yn derbyn taliadau gan randdeiliaid, ac yn monitro taliadau cwsmeriaid. Pan fyddwch chi'n derbyn arian gan randdeiliaid ac yn gwneud taliadau iddynt, mae'n bwysig sicrhau bod cyfrifiadau a dogfennau'n gywir a bod yr holl weithdrefnau (gan gynnwys y rhai ar gyfer cadw arian a gwybodaeth yn ddiogel) yn cael eu cyflawni. Byddwch hefyd yn gyfrifol am wirio bod taliadau cwsmeriaid yn cael eu gwneud yn brydlon. Bydd rhaid i chi nodi ac adrodd os daw taliad i law yn hwyrach na’r terfynau amser a bennwyd, neu os bydd unrhyw anghysondebau yn y dogfennau.  Bydd angen i chi roi sylw i fanylion sy'n hanfodol i'ch gwaith.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. Monitro taliadau sy'n ddyledus gan neu i randdeiliaid yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  2. Casglu'r holl wybodaeth briodol neu'r dogfennau sy'n ofynnol i brosesu'r taliad, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  3. Egluro unrhyw wybodaeth sy'n aneglur a chasglu gwybodaeth ychwanegol lle bo angen
  4. Prosesu'r wybodaeth a dderbynnir yn gywir oddi mewn i'r terfynau amser gofynnol, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  5. Nodi problemau posibl gyda thaliadau a chymryd camau yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  6. Adrodd am broblemau sydd y tu allan i'ch awdurdod i'r bobl briodol, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  7. Cadw cofnodion cywir wedi'u diweddaru o'r holl gamau a gymerwyd, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  8. Cynnal diogeledd a chyfrinachedd gwybodaeth bob amser, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  9. Cydymffurfio â gofynion cyfreithiol, rheoliadau'r diwydiant, gan gynnwys safonau moesegol, polisïau sefydliadol a chodau ymarfer proffesiynol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. Ffynonellau gwybodaeth a chyngor o fewn eich sefydliad
  2. Systemau cyfrifiadurol eich sefydliad
  3. Gweithdrefnau gwasanaeth cwsmeriaid eich sefydliad (gan gynnwys delio gyda chwynion)
  4. Terfynau eich awdurdod eich hun a'r camau gweithredu sy'n ofynnol ar gyfer sefyllfaoedd sydd y tu hwnt i'ch awdurdod
  5. Sut mae cael mynediad i gofnodion busnes sydd eisoes yn bodoli
  6. Gweithdrefnau eich sefydliad a'r terfynau amser ar gyfer taliadau
  7. Gweithdrefnau taliadau cwsmeriaid
  8. Dulliau gwahanol o dderbyn gwybodaeth ariannol
  9. Gofynion eich sefydliad yng nghyswllt cymhwyso codau, cyfreithiau a gofynion rheoliadol, gan gynnwys safonau moesegol sy'n cael effaith ar eich gweithgareddau

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau

  1. Rydych yn rhoi perfformiad cyson a dibynadwy yn y gwaith
  2. Rydych yn dangos parch at eraill yn eich ymwneud â nhw

Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Maw 2022

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Partneriaeth Sgiliau Ariannol

URN gwreiddiol

FSPIO12

Galwedigaethau Perthnasol

Cyllid

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Gweithrediadau Buddsoddi; gweinyddiaeth buddsoddiadau; y farchnad fuddsoddi; data buddsoddiadau; data'r farchnad; buddsoddiadau; perfformiad buddsoddiadau; perfformiad y farchnad; asedau; cwmni buddsoddi; rheoli cronfeydd; gwasanaethau ariannol; daliadau ariannol; cydymffurfio; buddsoddwyr