Asesu a defnyddio gwybodaeth ariannol i gysoni cyfrifon buddsoddi rhanddeiliaid
URN: FSPIO10
Sectorau Busnes (Suites): Gweithrediadau Buddsoddi
Datblygwyd gan: Skills for Justice
Cymeradwy ar:
01 Maw 2017
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud ag asesu a defnyddio gwybodaeth ariannol a datrys cwestiynau sy'n deillio o wybodaeth a gawsoch er mwyn cysoni cyfrifon buddsoddi rhanddeiliaid. Mae cysoni cyfrifon yn gofyn eich bod yn gallu paru gwybodaeth â chyfrifon ariannol a chanfod unrhyw anghysondebau, a chymryd y camau priodol i'w datrys. Dylech hefyd fedru cyfeirio ymholiadau heb eu datrys at y person priodol o blith eich cyflogwyr. Gallai hyn olygu nad yw'r taliad wedi dod i law eto, bod y symiau anghywir wedi cael eu prosesu, neu bod manylion y cofnod heb eu prosesu eto. Bydd angen i chi roi sylw i fanylion sy'n hanfodol i'ch gwaith.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Delio gyda gwybodaeth ariannol yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Derbyn gwybodaeth ariannol a pharu'r manylion â chyfrifon rhanddeiliaid, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Nodi unrhyw elfennau nad ydynt yn cyfateb, ymchwilio iddynt a'u datrys, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Ymateb i ohebiaeth a darparu gwybodaeth reolaidd i'r bobl briodol ynghylch cynnydd ymholiadau ynghylch cyfrifon, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Nodi ymholiadau sydd heb eu datrys a'u trosglwyddo i'r bobl briodol, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Casglu gwybodaeth ynghylch ymholiadau a chymryd camau priodol yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Prosesu ymholiadau pan gânt eu datrys a diweddaru'r wybodaeth am gyfrifon yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Cadarnhau bod cyfrifon rhanddeiliaid wedi'u cysoni a'u diweddaru a'u storio yn y fformat cytunedig
- Cydymffurfio â gofynion cyfreithiol, rheoliadau'r diwydiant, gan gynnwys safonau moesegol, polisïau sefydliadol a chodau ymarfer proffesiynol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Y fframwaith rheoliadol mewn perthynas â chysoni cyfrifon
- Ffynonellau gwybodaeth a chyngor o fewn eich sefydliad
- Systemau cyfrifiadurol eich sefydliad
- Terfynau eich awdurdod eich hun a'r camau sy'n ofynnol os bydd rhaid gweithredu mewn modd sydd y tu hwnt i'ch awdurdod
- Sut mae cael mynediad i gofnodion busnes sydd eisoes yn bodoli
- Gweithdrefnau eich sefydliad a'r terfynau amser ar gyfer taliadau
- Dulliau gwahanol o dderbyn gwybodaeth ariannol
- Gweithdrefnau esgaladu wrth ddelio gyda thaliadau hwyr
- Gofynion eich sefydliad yng nghyswllt cymhwyso codau, cyfreithiau a gofynion rheoliadol, gan gynnwys safonau moesegol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
- Rydych yn gweithredu oddi mewn i derfynau eich cyfrifoldeb
- Rydych yn dangos parch at eraill yn eich ymwneud â nhw
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
01 Maw 2022
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Partneriaeth Sgiliau Ariannol
URN gwreiddiol
FSPIO10
Galwedigaethau Perthnasol
Cyllid
Cod SOC
Geiriau Allweddol
Gweithrediadau Buddsoddi; gweinyddiaeth buddsoddiadau; y farchnad fuddsoddi; data buddsoddiadau; data'r farchnad; buddsoddiadau; perfformiad buddsoddiadau; perfformiad y farchnad; asedau; cwmni buddsoddi; rheoli cronfeydd; gwasanaethau ariannol; daliadau ariannol; cydymffurfio; buddsoddwyr