Masnachau Proses (Setliad Byd-eang)
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â phrosesau ym myd masnach. Mae'n cwmpasu gwaith cipio masnach. Mae'n cynnwys monitro cyfarwyddiadau sy'n dod i law ynghylch masnach electronig, a'u hatgyweirio yn ôl y galw. Rhaid hefyd i unrhyw gyfarwyddiadau ymarferol ynghylch sicrwydd gael eu prosesu'n gywir, gan ofyn am sefydlu asedau yn ôl y gofyn. Mae rheoli amser yn effeithiol yn allweddol i'r uned hon, a rhaid monitro pob tasg yn effeithiol er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu cwblhau'n brydlon. Bydd angen i chi gasglu a rheoli gwybodaeth yn effeithiol, yn effeithlon ac yn foesegol, gan roi sylw i fanylion sy'n hanfodol i'ch gwaith.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Monitro cyfarwyddiadau a dderbynnir yn electronig, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Atgyweirio cyfarwyddiadau pan fydd angen, i sicrhau eu bod yn gyflawn ac yn cael eu prosesu'n unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Prosesu cyfarwyddiadau elfennau sicrwydd ymarferol, gan wirio bod cofnodion cleientiaid yn gyflawn, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Gofyn am sefydlu asedau, pan fydd angen, i sicrhau bod yr holl fasnach a dderbynnir yn gallu cael ei brosesu, a bod amcanion yr adran yn cael eu cyflawni
- Olrhain perfformiad pob un o'r tasgau a neilltuwyd i chi, er mwyn sicrhau eu bod yn gweithredu'n unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Gwirio bod manylion unrhyw broblemau neu oedi wrth brosesu cyfarwyddiadau yn cael eu hadrodd i'r awdurdod perthnasol
- Adrodd am yr holl waith sydd heb ei brosesu ac sy'n cael ei gario drosodd yn feunyddiol, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Cydymffurfio â gofynion cyfreithiol, rheoliadau'r diwydiant, gan gynnwys safonau moesegol, polisïau sefydliadol a chodau ymarfer proffesiynol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1. Y fframwaith rheoliadol mewn perthynas â phrosesu masnach
2. Pwysigrwydd prosesu masnach yn gywir i'ch cleientiaid ac i'ch cwmni
3. Pwysigrwydd y canlynol a sut mae dangos dealltwriaeth ohonynt:
3.1 sylw i fanylion
3.2 awydd am ragoriaeth
3.3 agwedd gydwybodol
3.4 agwedd ragweithiol at eich gwaith
3.5 defnyddio'r disgresiwn sy'n ddisgwyliedig gennych yn eich swydd
3.6 trefnu eich gwaith a chanolbwyntio eich sylw er mwyn cadw at derfynau amser caeth a chyflawni disgwyliadau cleientiaid
3.7 gweithio fel aelod o dîm
3.8 hyblygrwydd o ran cyflawni eich gwaith
3.9 etheg gref o ran gwasanaeth i gleientiaid
4. Y meddalwedd a ddefnyddir yn eich swydd
5. Y risgiau gweithrediadol ac o ran enw da sy'n gysylltiedig â'r gwaith rydych chi'n ei wneud a sut mae eu hosgoi
6. Y gweithdrefnau adrannol y mae'n rhaid i chi eu dilyn
7. Gweithdrefnau eich cwmni ar gyfer cyfathrebu ag adrannau eraill ac adrodd iddyn nhw
8. Y cofnodion y mae'n rhaid i chi eu cadw a'r terfynau amser y mae'n rhaid i chi adrodd oddi mewn iddynt
9. Sut mae gofynion eich sefydliad yng nghyswllt cymhwyso codau, cyfreithiau a gofynion rheoliadol, gan gynnwys safonau moesegol, yn effeithio ar eich gweithgareddau
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
- Rydych yn ymfalchïo mewn cyflawni gwaith o ansawdd uchel
- Rydych yn gweithredu oddi mewn i derfynau eich awdurdod
- Rydych yn gweithio mewn modd proffesiynol, cydweithredol, gan gefnogi'ch gilydd