Goruchwylio systemau a phrosesau gweithrediadau buddsoddi
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â goruchwylio systemau a phrosesau sy'n galluogi gweithrediadau buddsoddi i gael eu cynnal yn effeithlon, yn effeithiol a chan wneud elw. Mae cydymffurfio'n agwedd bwysig ar berfformiad. Yn yr achos hwn, mae disgwyl i'r goruchwyliwr sicrhau bod y systemau'n hwyluso gweithrediadau sy'n cydymffurfio. Mae datrys problemau hefyd yn bwysig wrth gyflawni'r safon hon, gan fod disgwyl i'r goruchwyliwr ymchwilio i broblemau a'u datrys mewn perthynas â systemau a phrosesau ar gyfer gweithrediadau buddsoddi. Mae disgwyl hefyd i'r goruchwyliwr argymell newidiadau a gwelliannau fel rhan o brosesau adolygu parhaus, a lle profwyd problemau ac anawsterau wrth weithredu systemau a phrosesau a'u rhoi ar waith. Bydd angen i chi roi sylw i fanylion sy'n hanfodol i'ch gwaith.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Casglu gwybodaeth ynghylch perthnasedd ac effeithlonrwydd systemau a phrosesau gweithrediadau buddsoddi gan yr holl bobl berthnasol
- Monitro systemau a phrosesau gweithrediadau buddsoddi i sicrhau eu bod yn dal i fedru hwyluso allbynnau gwaith effeithiol a chynnal boddhad buddsoddwyr
- Asesu dealltwriaeth a chymhwysedd defnyddwyr y system gweithrediadau buddsoddi, a rhoi datblygiad ar waith lle bo angen i unioni unrhyw ddiffygion
- Nodi a datrys meysydd trafferthus sy'n ymwneud â systemau a phrosesau gweithrediadau buddsoddi, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Rhybuddio unigolion a thimau am feysydd trafferthus wrth ddefnyddio systemau gweithrediadau buddsoddi penodol
- Gwirio bod manylion problemau sy'n ymwneud â systemau a phrosesau gweithrediadau buddsoddi yn gywir ac yn cael eu trosglwyddo'n brydlon i'r bobl briodol
- Gwerthuso systemau a phrosesau gweithrediadau buddsoddi amgen posibl yn erbyn y systemau a'r prosesau a ddefnyddir yn eich sefydliad ar hyn o bryd a chymharu effeithlonrwydd a chost-effeithiolrwydd
- Pennu newidiadau sy'n diweddaru systemau a phrosesau gweithrediadau buddsoddi er mwyn ymateb i ofynion newidiol
- Cyflwyno gwybodaeth ynghylch gwelliannau posibl i systemau a phrosesau gweithrediadau buddsoddi, gan nodi'n glir yr amcanion, yr ystyriaethau gweithredol a'r costau gweithredu
- Ceisio adborth ynghylch argymhellion ar gyfer newidiadau i systemau a phrosesau gweithrediadau buddsoddi gan yr holl bobl berthnasol
- Cydymffurfio â gofynion cyfreithiol, rheoliadau'r diwydiant, gan gynnwys safonau moesegol, polisïau sefydliadol a chodau ymarfer proffesiynol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Diben monitro oddi mewn i'r system a'r broses gweithrediadau buddsoddi
- Y fframwaith rheoliadol a'r gofynion o ran monitro a goruchwyliaeth
- Rôl goruchwylio effeithiol wrth gynnal allbynnau gwaith o ansawdd
- Manylebau systemau a phrosesau gweinyddol sefydliadol
- Canllawiau sefydliadol ar gyfer monitro a goruchwylio
- Rheoliadau cydymffurfio sy'n ymwneud â systemau a phrosesau gweithrediadau buddsoddi
- Llinellau adrodd yng nghyswllt gwella systemau a phrosesau gweithrediadau buddsoddi
- Ffynonellau cymorth a chefnogaeth technegol o fewn y sefydliad
- Sut mae gofynion eich sefydliad yng nghyswllt cymhwyso codau, cyfreithiau a gofynion rheoliadol, gan gynnwys safonau moesegol yn cael effaith ar eich gweithgareddau
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
- Rydych yn cyflwyno gwybodaeth yn glir ac yn gryno
- Rydych yn chwilio am ffyrdd mwy effeithlon o weithio
- Rydych yn arddangos chwilfrydedd i ddysgu a rhoi cynnig ar bethau newydd
- Rydych yn ymateb yn gyflym i broblemau posibl