Canfod pris asedau a buddsoddiadau neu unedau
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â chanfod pris asedau a buddsoddiadau neu unedau, sy'n amrywio o gasglu gwybodaeth am werth asedau i bennu eu pris. Gall asedau gynnwys eiddo a nwyddau, yn ogystal â stociau a chyfranddaliadau y rhoddwyd pris arnynt, neu rai na nodwyd pris ar eu cyfer. Bydd angen i'r wybodaeth gymryd i ystyriaeth agweddau megis incwm neu fewnbynnau dyddiol a gwerthoedd cyfalaf. Mae angen i'r rhai sy'n ymwneud â phrisio nodi'n glir rychwant y prisiau a chyfiawnhau eu detholiad o ran y farchnad a'r elw posibl i'r sefydliad. Mae'n bosibl iawn y bydd systemau prisio cyfrifiadurol yn cael eu defnyddio, er bod rhai achosion lle defnyddir cyfrifiadau â llaw. Bydd angen i chi ddefnyddio gwybodaeth yn effeithiol, yn effeithlon ac yn foesegol, gan roi sylw i fanylion sy'n hanfodol i'ch gwaith.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Casglu a dadansoddi gwybodaeth ynghylch gwerth asedau a buddsoddiadau'n ddyddiol, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Defnyddio systemau prisio yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Trosglwyddo gwybodaeth ynghylch gwerth asedau i'r bobl briodol, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Ymchwilio i elfennau anghymharus ac anghysondebau a'u datrys, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Pennu prisiau gan ddefnyddio gwybodaeth berthnasol sy'n ymwneud â gwerth asedau
- Nodi prisiau prynu a gwerthu buddsoddiadau neu unedau'n glir ac yn gywir, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Gwirio bod y gwahaniaeth rhwng y pris prynu a gwerthu yn optimeiddio'r budd i'r sefydliad, a bod modd ei gyfiawnhau o ran y farchnad
- Gwirio bod yr holl gyfrifiadau pris yn gywir a rhoi gwybod i'r bobl berthnasol, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Cydymffurfio â gofynion cyfreithiol, rheoliadau'r diwydiant, gan gynnwys safonau moesegol, polisïau sefydliadol a chodau ymarfer proffesiynol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Diben a defnydd systemau prisio a'r berthynas rhwng prisio a pherfformiad y sefydliad
- Y fframwaith rheoliadol mewn perthynas â phrisio asedau a buddsoddiadau neu unedau
- Y ffynonellau data y mae prisiau wedi'u seilio arnynt, ac sy'n berthnasol i'ch rôl gwaith eich hun
- Systemau a gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer canfod gwerth asedau a buddsoddiadau
- Cyfyngiadau sefydliadol a rheoliadol ar fuddsoddiadau a phwerau benthyca, ac effaith torri'r cyfyngiadau hynny
- Goblygiadau esemptiadau pris a therfynau pris ar eich gwaith
- Unigolion a thimau eraill sy'n ymwneud â'r broses brisio a'u heffaith ar eich rôl chithau
- Sut mae sefydlu a chynnal perthnasoedd effeithiol gyda rhanddeiliaid, gan gynnwys defnyddio sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu a chysyniadau darparu gwasanaeth o ansawdd
- Systemau a gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer cyflwyno data prisiau a phwysigrwydd cadw atynt
- Sut mae gofynion eich sefydliad yng nghyswllt cymhwyso codau, cyfreithiau a gofynion rheoliadol, gan gynnwys safonau moesegol, yn effeithio ar eich gweithgareddau
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
- Rydych yn cyflwyno gwybodaeth yn glir ac yn gryno