Mesur a dadansoddi perfformiad buddsoddiadau
URN: FSPIO06
Sectorau Busnes (Suites): Gweithrediadau Buddsoddi
Datblygwyd gan: Skills for Justice
Cymeradwy ar:
01 Maw 2017
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â mesur a dadansoddi perfformiad buddsoddiadau. Mae'n cwmpasu casglu gwybodaeth am berfformiad, ynghyd â dadansoddi a chyflwyno'r wybodaeth honno. Cesglir gwybodaeth am berfformiad buddsoddiadau, er enghraifft, o symudiadau prisiau a thueddiadau'r farchnad, y mae modd eu dadansoddi wedyn yn erbyn amcanion y gronfa neu'r cyfrif. Mae angen cyfleu canlyniadau'r dadansoddiad hwn, mewn fformat cyflwyno derbyniol, i reolwyr cronfeydd, rheolwyr buddsoddi ac ati. Bydd angen i chi ddefnyddio gwybodaeth yn effeithiol, yn effeithlon ac yn foesegol, gan roi sylw i fanylion sy'n hanfodol i'ch gwaith.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Casglu a dadansoddi gwybodaeth ynghylch perfformiad cronfeydd neu gyfrifon, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Mesur perfformiad yn erbyn amcanion a meini prawf eraill dilys, gan ddefnyddio profion derbyniol
- Cymharu a chyferbynnu perfformiad gwirioneddol a phosibl cronfeydd neu gyfrifon
- Gwirio bod gwybodaeth ynghylch perfformiad cronfeydd neu gyfrifon yn gyflawn, yn gywir ac yn cael ei chyflwyno'n unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Adrodd canlyniadau yn y fformat gofynnol i'r bobl briodol, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Cyflwyno dadansoddiad o berfformiad, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad. Gwirio bod canlyniadau mesur perfformiad yn arwydd o berfformiad i'r dyfodol ac argymhellion ar gyfer gweithredu yn y dyfodol
- Cydymffurfio â gofynion cyfreithiol, rheoliadau'r diwydiant, gan gynnwys safonau moesegol, polisïau sefydliadol a chodau ymarfer proffesiynol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Strwythur y farchnad fuddsoddi ac effaith tueddiadau'r farchnad ar berfformiad cronfeydd neu gyfrifon
- Ffynonellau allweddol o wybodaeth ddibynadwy a pherthnasol mewn perthynas â pherfformiad cronfeydd neu gyfrifon
- Defnydd o fodelau ystadegol i ddadansoddi gwybodaeth am berfformiad cronfeydd neu gyfrifon
- Gofynion rheoliadol o ran union berfformiad cronfeydd a rhagfynegi perfformiad cronfeydd
- Defnydd o systemau priodol ar gyfer mesur perfformiad cronfeydd neu gyfrifon oddi mewn i'ch sefydliad eich hun
- Amcanion cyffredinol cronfeydd neu gyfrifon yr ydych chi'n ymwneud â nhw
- Cydweithwyr sy'n berthnasol i'r gwaith sy'n cael ei wneud, eu rolau gwaith, a'u cyfrifoldebau
- Sut mae sefydlu a chynnal perthnasoedd effeithiol gyda chleientiaid, gan gynnwys defnyddio sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu a chysyniadau darparu gwasanaeth o ansawdd
- Ffynonellau data ar gyfer perfformiad cronfeydd neu gyfrifon, gan gynnwys perfformiad cystadleuwyr
- Sut mae gofynion eich sefydliad yng nghyswllt cymhwyso codau, cyfreithiau a gofynion rheoliadol, gan gynnwys safonau moesegol, yn effeithio ar eich gweithgareddau
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
- Rydych yn sylwi ar newid amgylchiadau'n brydlon ac yn cymryd hynny i ystyriaeth yn eich gwaith
- Rydych yn cyflwyno gwybodaeth yn glir ac yn gryno
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
01 Maw 2022
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Partneriaeth Sgiliau Ariannol
URN gwreiddiol
FSPIO06
Galwedigaethau Perthnasol
Cyllid
Cod SOC
Geiriau Allweddol
Gweithrediadau Buddsoddi; gweinyddiaeth buddsoddiadau; y farchnad fuddsoddi; data buddsoddiadau; data'r farchnad; buddsoddiadau; perfformiad buddsoddiadau; perfformiad y farchnad; asedau; cwmni buddsoddi; rheoli cronfeydd; gwasanaethau ariannol; daliadau ariannol; cydymffurfio; buddsoddwyr