Trefnu setliad trafodion buddsoddi
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â threfnu setliad trafodion buddsoddi. Gall perfformiad ddigwydd â llaw neu ar gyfrifiadur, er y rhagwelir y bydd y rhan fwyaf o setliadau'n digwydd trwy'r systemau marchnad sefydledig. Mae'r safon yn pwysleisio'r angen am gynnal y maes perfformiad hwn yn gywir a chan gadw at derfynau amser caeth, er mwyn i setliadau fedru cael eu gwneud yn unol â'r terfynau amser gofynnol. Gall gweithgaredd setliadau ddatgelu achosion o ddiffyg cydymffurfio. Dylid adrodd am y rhain, a rhaid ymchwilio i unrhyw wallau neu anghysondebau a'u datrys. Mae'r agwedd arall ar berfformiad sy'n cael ei chwmpasu gan y safon yn ymwneud â phrosesu cofrestriadau ar ran buddsoddwyr, a'r angen o ganlyniad am gyfathrebu â chofrestryddion, ceidwaid, rheolwyr cronfeydd ac ati. Bydd angen hefyd i chi roi sylw i fanylion sy'n hanfodol i'ch gwaith.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Cysoni cyfarwyddiadau buddsoddi'n gywir â thrafodion marchnad
- Cadw a chynnal cofnodion wedi'u diweddaru o asedau, ynghyd ag arian sy'n ddyledus neu sydd i'w hawlio gan fasnachwyr neu fuddsoddwyr
- Trefnu setliad ar gyfer prynu neu werthu asedau a chynnal y setliad oddi mewn i derfynau amser penodedig
- Gwirio bod cyfarwyddiadau i brosesu taliadau yn gywir ac oddi mewn i'r terfynau amser a ganiateir, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Gwirio bod adroddiadau setliad yn gyflawn ac wedi'u cytuno gyda'r awdurdod priodol, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Gwirio bod cofnodion trafodion yn cynnwys manylion nifer a theitl yr elfennau sicrwydd sydd i'w cofrestru yn enw'r buddsoddwr
- Gwirio bod manylion buddsoddwyr ar gyfer cofrestru sicrwydd yn gyflawn ac yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Darparu gwybodaeth sy'n ymwneud â chaffael stociau a chyfranddaliadau a gweddillion sy'n ddyledus i'r sefydliad neu ganddo i bobl berthnasol
- Nodi gwallau neu anghysondebau, ymchwilio iddynt a'u datrys yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Storio dogfennau sy'n nodi'r hyn y gellir ei hawlio yn y lleoliad cywir, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Nodi ac ymateb i achosion gwirioneddol neu bosibl o beidio â chydymffurfio â rheoliadau ac adrodd amdanynt i'r awdurdod perthnasol lle bo hynny'n briodol
- Cydymffurfio â gofynion cyfreithiol, rheoliadau'r diwydiant, gan gynnwys safonau moesegol, polisïau sefydliadol a chodau ymarfer proffesiynol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Y fframwaith cyfreithiol a rheoleiddiol mewn perthynas â setliad trafodion yn y Deyrnas Unedig ac mewn marchnadoedd perthnasol dramor, ac effaith hynny ar eich gwaith
- Strwythur y farchnad fuddsoddi, gan gynnwys rôl eich sefydliad eich hun, a phartïon a sefydliadau allanol wrth setlo trafodion
- Yr amrywiaeth o systemau setliad a ddefnyddir yn y farchnad a diben y systemau hynny
- Rheolau setliadau yn y Deyrnas Unedig a marchnadoedd perthnasol dramor (er enghraifft, gofynion treth, treth stamp, comisiynau ac ati)
- Gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer defnyddio systemau setliad
- Unigolion a thimau eraill sy'n ymwneud â'r broses setliad a'r effaith maen nhw'n ei chael ar eich rôl chithau yn cynnal proses y setliad
- Yr amrywiaeth o fathau o drafodion a chyfnodau setliad yr ydych yn debygol o ddod ar eu traws wrth eich gwaith
- Gweithdrefnau trafodion sydd wedi methu a'ch rôl yn y gweithdrefnau hynny
- Gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer adrodd am wallau neu anghysondebau yn y broses setliad, a'ch rôl chithau yn y broses honno
- Sut mae sefydlu a chynnal perthnasoedd effeithiol gyda chleientiaid, gan gynnwys defnyddio sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu a chysyniadau darparu gwasanaeth o ansawdd
- Sut mae gofynion eich sefydliad yng nghyswllt cymhwyso codau, cyfreithiau a gofynion rheoliadol, gan gynnwys safonau moesegol yn effeithio ar eich gweithgareddau
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
- Rydych yn ymfalchïo mewn cyflawni gwaith o ansawdd uchel
- Rydych yn cyflwyno gwybodaeth yn glir ac yn gryno
- Rydych yn darparu gwybodaeth i'r rhai sydd ei hangen ac sydd â hawl i'w derbyn yn unig