Cynnal cystodaeth asedau ar ran y buddsoddwr
URN: FSPIO04
Sectorau Busnes (Suites): Gweithrediadau Buddsoddi
Datblygwyd gan: Skills for Justice
Cymeradwy ar:
01 Maw 2017
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â chynnal cystodaeth ar asedau ar ran y buddsoddwr. Mae'n cwmpasu diogelu'r stoc neu'r arian a gedwir ar ran buddsoddwyr gan y sefydliad. Mae hefyd yn ymwneud â chytuno ar drefniadau a'u dilyn ar gyfer trosglwyddo cyllid er mwyn sicrhau y telir am drafodion yn gywir ar yr adeg briodol. Ymhlith y trafodion mae angen eu monitro mae croniadau, pwrcasau a gwerthiannau. Mae'r safon hefyd yn gofyn bod yr unigolyn yn mynd ar ôl gwallau neu anghysondebau a nodir, ac yn trosglwyddo problemau i'r arbenigwyr priodol yn ddioed. Bydd angen i chi ddefnyddio gwybodaeth yn effeithiol, yn effeithlon ac yn foesegol, gan roi sylw i fanylion sy'n hanfodol i'ch gwaith.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Cytuno ar drefniadau ar gyfer trosglwyddo asedau, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad, a'u cofnodi
- Gwirio'r asedau a ddelir ar ran buddsoddwyr a threfnu eu bod yn cael eu hadneuo mewn cyfrifon awdurdodedig
- Cadw cofnodion cyflawn ac wedi'u diweddaru o asedau'r buddsoddwr, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Darparu gwybodaeth i fuddsoddwyr ynghylch cofnodion asedau yn y fformat gofynnol ac ar yr adegau y cytunwyd arnynt
- Monitro gweithgaredd y farchnad a chysoni trafodion ag asedau a gedwir mewn cystodaeth ar ran buddsoddwyr
- Trefnu i drosglwyddo asedau oddi mewn i derfynau amser penodedig, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Nodi gwallau ac anghysondebau mewn cofnodion a thrafodion, ymchwilio iddynt a'u datrys, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Rhoi gwybod i fuddsoddwyr am unrhyw faterion sy'n ymwneud â'u cyfrifon, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Nodi ac ymateb i achosion gwirioneddol neu bosibl o beidio â chydymffurfio â rheoliadau ac adrodd amdanynt i'r awdurdod perthnasol lle bo hynny'n briodol
- Cydymffurfio â gofynion cyfreithiol, rheoliadau'r diwydiant, gan gynnwys safonau moesegol, polisïau sefydliadol a chodau ymarfer proffesiynol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Y fframwaith rheoliadol ar gyfer cystodaeth ar asedau buddsoddwyr a goblygiadau'r fframwaith rheoliadol ar gyfer eich rôl gwaith chithau
- Strwythur y farchnad fuddsoddi, gan gynnwys rôl eich sefydliad eich hun, a phartïon a sefydliadau allanol o ran cystodaeth asedau
- Mecaneg cystodaeth, gan gynnwys systemau ffisegol ac electronig
- Gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer cynnal cystodaeth asedau a chanfod a datrys gwallau neu anghysondebau
- Gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer trosglwyddo cyllid a gwneud taliadau, gan gynnwys gweithdrefnau awdurdodi a dulliau o ddilysu cyfarwyddiadau
- Lefel eich awdurdod a'ch cyfrifoldeb personol mewn perthynas â delio gyda buddsoddwyr, cysylltiadau allweddol a chydweithwyr
- Pwy yw'r cysylltiadau allweddol yn y sefydliadau partner
- Sut mae sefydlu a chynnal perthnasoedd effeithiol gyda chleientiaid, gan gynnwys defnyddio sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu a chysyniadau darparu gwasanaeth o ansawdd
- Sut mae gofynion eich sefydliad yng nghyswllt cymhwyso codau, cyfreithiau a gofynion rheoliadol, gan gynnwys safonau moesegol, yn effeithio ar eich gweithgareddau
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
- Rydych yn gweithredu oddi mewn i derfynau eich cyfrifoldeb
- Rydych yn esbonio pethau fel bod eraill yn deall
- Rydych yn darparu gwybodaeth i'r rhai sydd ei hangen ac sydd â hawl i'w derbyn yn unig
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
01 Maw 2022
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Partneriaeth Sgiliau Ariannol
URN gwreiddiol
FSPIO04
Galwedigaethau Perthnasol
Cyllid
Cod SOC
Geiriau Allweddol
Gweithrediadau Buddsoddi; gweinyddiaeth buddsoddiadau; y farchnad fuddsoddi; data buddsoddiadau; data'r farchnad; buddsoddiadau; perfformiad buddsoddiadau; perfformiad y farchnad; asedau; cwmni buddsoddi; rheoli cronfeydd; gwasanaethau ariannol; daliadau ariannol; cydymffurfio; buddsoddwyr