Cysoni trafodion y farchnad fuddsoddi
URN: FSPIO03
                    Sectorau Busnes (Cyfresi): Gweithrediadau Buddsoddi
                    Datblygwyd gan: Skills for Justice
                    Cymeradwy ar: 
2017                        
                    
                Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â chysoni trafodion y farchnad fuddsoddi. Mae'n ymwneud â phrynu neu werthu stoc, neu drafodion ariannol a'r gofyniad i'r unigolyn gysoni gwargedau'r buddsoddwr, y rhanddeiliad neu'r cyfrif banc â'r trafodion a wnaed. Mae'r safon hefyd yn ymwneud â monitro a datrys gwallau ac anghysondebau a allai fod yn niweidiol i'r buddsoddwr neu'r rhanddeiliad neu i'ch sefydliad eich hun. Mae cyfathrebu ag eraill, megis arbenigwyr ar gydymffurfio neu geidwaid, hefyd yn elfen bwysig o berfformiad yn y safon. Bydd angen i chi ddefnyddio gwybodaeth yn effeithiol, yn effeithlon ac yn foesegol, gan roi sylw i fanylion sy'n hanfodol i'ch gwaith.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Cysoni pob cofnod o drafodion stoc neu arian, gwargedau cyfrifon a manylion asedau a ddelir yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
 - Delio gyda gwaith cysoni yn ôl y flaenoriaeth sy'n ofynnol gan weithdrefnau eich sefydliad
 - Ymchwilio i anghysondebau neu broblemau a nodwyd wrth gysoni, a'u datrys, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
 - Cyfeirio anghysondebau neu broblemau na allwch eu datrys at yr awdurdod priodol, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
 - Nodi ac ymateb i achosion gwirioneddol neu bosibl o beidio â chydymffurfio â rheoliadau, ac adrodd amdanynt i'r awdurdod perthnasol, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
 - Paratoi gwybodaeth ynghylch daliadau neu gronfeydd sy'n gyflawn, yn gywir ac wedi'i chyflwyno yn y fformat priodol, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
 - Cydymffurfio â gofynion cyfreithiol, rheoliadau'r diwydiant, gan gynnwys safonau moesegol, polisïau sefydliadol a chodau ymarfer proffesiynol
 
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Y fframwaith rheoliadol mewn perthynas â chysoni trafodion y farchnad fuddsoddi a beth yw goblygiadau gwallau cysoni o ran y sefydliad a'r buddsoddwr neu'r rhanddeiliad
 - Strwythur y farchnad fuddsoddi a rolau a chyfrifoldebau'r amrywiol bartïon sy'n rhan ohoni
 - Prif nodweddion mathau allweddol o gynnyrch
 - Proses gysoni'r sefydliad, gan gynnwys y gweithdrefnau ar gyfer canfod gwahaniaethau a'ch rôl eich hunan yn y broses
 - Strwythur adrodd y sefydliad a'ch cyfrifoldeb chithau oddi mewn iddo
 - Safonau gwasanaeth y sefydliad a'r angen am eu cynnal
 - Ffynonellau data allweddol mewn perthynas â'r broses gysoni (er enghraifft, rhestrau stoc, digwyddiadau cwmni, ac ati)
 - Lefel eich awdurdod personol ac at bwy y dylai anghysondebau neu broblemau gael eu cyfeirio
 - Sut mae gofynion eich sefydliad yng nghyswllt cymhwyso codau, cyfreithiau a gofynion rheoliadol, gan gynnwys safonau moesegol yn effeithio ar eich gweithgareddau
 
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
- Rydych yn cyflwyno gwybodaeth yn glir ac yn gryno
 - Rydych yn gweithredu oddi mewn i derfynau eich cyfrifoldeb
 - Rydych yn nodi ac yn codi pryderon o fewn yr amgylchedd gweithio
 
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
2022        
    
Dilysrwydd
        Ar hyn o bryd
        
    
Statws
        Gwreiddiol
        
    
Sefydliad Cychwynnol
        Partneriaeth Sgiliau Ariannol
        
    
URN gwreiddiol
        FSPIO03
        
    
Galwedigaethau Perthnasol
Cyllid        
    
Cod SOC
Geiriau Allweddol
            Gweithrediadau Buddsoddi; gweinyddiaeth buddsoddiadau; y farchnad fuddsoddi; data buddsoddiadau; data'r farchnad; buddsoddiadau; perfformiad buddsoddiadau; perfformiad y farchnad; asedau; cwmni buddsoddi; rheoli cronfeydd; gwasanaethau ariannol; daliadau ariannol; cydymffurfio; buddsoddwyr