Cyflwyno gwybodaeth am y farchnad fuddsoddi i randdeiliaid
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â darparu gwybodaeth gyfnodol i fuddsoddwyr, megis datganiadau rheolaidd, adroddiadau perfformiad, gwerthoedd cronfeydd a gwybodaeth y gofynnwyd amdani gan y rhanddeiliaid, er enghraifft ynghylch eu daliadau neu eu sefyllfa ariannol yng nghyswllt talu trafodion ac ati. Gall y rhain fod yn ymholiadau cyffredinol neu'n gwestiynau penodol. Gall fod angen i chi gasglu gwybodaeth o amrywiaeth o ffynonellau, gan gynnwys ymchwil pen desg a chan bartïon eraill megis rheolwyr cwmnïau buddsoddi, rheolwyr neu geidwaid buddsoddiadau. Mae'n bwysig eich bod yn gwirio'r wybodaeth a gasglwch, yn darparu ar gyfer cywirdeb, ac yn ei storio'n ddiogel. Rhaid i chi gydymffurfio â deddfwriaeth a rheoliadau wrth gyflawni pob agwedd ar yr uned hon. Bydd angen i chi ddefnyddio gwybodaeth yn effeithiol, yn effeithlon ac yn foesegol, gan roi sylw i fanylion sy'n hanfodol i'ch gwaith
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Nodi anghenion gwybodaeth rhanddeiliaid a chasglu gwybodaeth briodol o ffynonellau perthnasol i ddiwallu eu hanghenion
- Paratoi gwybodaeth ar gyfer rhanddeiliaid sy'n gyflawn, yn gywir ac yn berthnasol i'w hanghenion
- Cyflwyno gwybodaeth yn y fformat angenrheidiol, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Delio gydag ymholiadau gan randdeiliaid ynghylch yr wybodaeth rydych wedi'i darparu, gan eu bodloni yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Cynnal diogeledd a chyfrinachedd gwybodaeth bob amser, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Cadw cofnodion cyflawn neu gopïau o wybodaeth a ddarparwyd i randdeiliaid a'u storio'n unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Cydymffurfio â gofynion cyfreithiol, rheoliadau'r diwydiant, gan gynnwys safonau moesegol, polisïau sefydliadol a chodau ymarfer proffesiynol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Cydymffurfio a materion cyfreithiol wrth baratoi a chyflwyno gwybodaeth am y farchnad i randdeiliaid
- Sut bydd cyflwyniad gwybodaeth yn amrywio yn ôl anghenion gwahanol fathau o randdeiliaid
- Prosesau a gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer cynhyrchu gwybodaeth am y farchnad i randdeiliaid
- Yr wybodaeth allweddol ynghylch y farchnad, er enghraifft, prisiau, enillion, mynegeion
- Safonau a chonfensiynau sefydliadol ar gyfer cyflwyno gwybodaeth yn fewnol i'r sefydliad a hefyd i randdeiliaid y tu allan
- Prif nodweddion mathau allweddol o gynnyrch
- Pwysigrwydd perthnasoedd effeithiol gyda buddsoddwyr yn yr holl wasanaethau a ddarperir
- Sut mae sefydlu a chynnal perthnasoedd effeithiol gyda rhanddeiliaid, gan gynnwys defnyddio sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu a chysyniadau darparu gwasanaeth o ansawdd
- Gwahanol ddulliau cyfathrebu a'u priodoldeb ar gyfer amrywiaeth o amgylchiadau
- Arddull tŷ a safonau eich sefydliad ar gyfer cyfathrebu llafar a geiriol
- Sut mae gofynion eich sefydliad yng nghyswllt cymhwyso codau, cyfreithiau a gofynion rheoliadol, gan gynnwys safonau moesegol, yn effeithio ar eich gweithgareddau
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
- Rydych yn dadansoddi ac yn strwythuro gwybodaeth i ddatblygu gwybodaeth y gellir ei rhannu gyda buddsoddwyr
- Rydych yn cyflwyno gwybodaeth yn glir, yn gryno, yn gywir ac mewn ffyrdd sy'n hybu dealltwriaeth