Cyfleu ymarfer ac egwyddorion bancio Islamaidd i gwsmeriaid a chydweithwyr

URN: FSPIFP01
Sectorau Busnes (Suites): Cyfrifon Banc
Datblygwyd gan: Skills for Justice
Cymeradwy ar: 01 Maw 2017

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â chyfleu ymarfer ac egwyddorion bancio Islamaidd i gwsmeriaid a chydweithwyr. Mae'n cwmpasu'r cymwyseddau allweddol i weithio gyda systemau a chynnyrch bancio Islamaidd. Mae contractau Islamaidd mewn gwasanaethau ariannol yn cael eu darparu mewn banciau Islamaidd ac mewn rhai sefydliadau ariannol confensiynol ymhlith gwasanaethau eraill.  Yn y naill achos neu'r llall, os ydych chi'n delio gyda'r gwasanaethau a'r cynnyrch hynny, rhaid i chi fod mewn sefyllfa i rannu eich dealltwriaeth gyda chwsmeriaid a chydweithwyr. Datblygwyd y safon i gydymffurfio â chyllid Islamaidd, a chael ei defnyddio yn y cyd-destun hwnnw. Y bwriad yw ei bod yn eistedd ochr yn ochr â'r safonau cenedlaethol galwedigaethol a gymhwyswyd mewn cyd-destun bancio adwerthu confensiynol. Bydd angen i chi ddefnyddio gwybodaeth yn effeithiol, yn effeithlon ac yn foesegol, gan roi sylw i fanylion sy'n hollbwysig i'ch gwaith.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. Disgrifio i gwsmeriaid neu gydweithwyr nodweddion allweddol y canllawiau a'r awdurdod ar gyfer bancio Islamaidd, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  2. Esbonio wrth gwsmeriaid neu gydweithwyr pam mae dulliau confensiynol o ennill llog wedi'u gwahardd mewn bancio Islamaidd
  3. Esbonio wrth gwsmeriaid neu gydweithwyr pam mae ansicrwydd diangen a hapfasnachu wedi'u gwahardd mewn bancio Islamaidd
  4. Esbonio wrth gwsmeriaid neu gydweithwyr sut mae banc Islamaidd yn partneru gydag unigolyn i ddarparu cyllid hirdymor er mwyn prynu ased cyfalaf
  5. Esbonio wrth gwsmeriaid neu gydweithwyr sut mae banc Islamaidd yn partneru gydag entrepreneur i ddarparu cyllid ecwiti hirdymor ar gyfer busnes
  6. Esbonio wrth gwsmeriaid neu gydweithwyr sut mae banc Islamaidd yn contractio gyda busnes i ddarparu cyllid tymor byr ar gyfer masnach
  7. Esbonio wrth gwsmeriaid neu gydweithwyr sut mae banc Islamaidd yn contractio gyda sefydliad neu unigolyn i ddarparu cyllid prydlesu
  8. Esbonio wrth gwsmeriaid neu gydweithwyr sut mae banc Islamaidd yn partneru gydag entrepreneuriaid i godi cyllid ar ffurf elfennau sy'n cyfateb i fondiau
  9. Esbonio wrth gwsmeriaid neu gydweithwyr sut mae sefydliad cyllid Islamaidd yn llunio contract ar gyfer darparu cyllid buddsoddi
  10. Esbonio wrth gwsmeriaid neu gydweithwyr rôl bwrdd goruchwylio Sharia'a wrth gymeradwyo contractau ariannol
  11. Cydymffurfio â gofynion cyfreithiol, rheoliadau'r diwydiant, safonau moesegol, polisïau sefydliadol a chodau proffesiynol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. Arwyddocâd y ffynonellau cyfreithiol sy'n darparu sylfaen ar gyfer egwyddorion cyllid Islamaidd
  2. Nodweddion allweddol canllawiau ac awdurdod sy'n ymwneud â materion ariannol Islamaidd
  3. Pwysigrwydd addasu eich esbonio ynghylch bancio Islamaidd wrth eu hegluro i gwsmeriaid neu gydweithwyr
  4. Pam mae riba yn waharddedig
  5. Beth yw'r diffiniad o gharar a maisir a pham maent yn waharddedig
  6. Pa nodweddion ac asedau all olygu bod trafodion ariannol yn cael eu gwahardd fel rhai anfoesegol
  7. Y prif ffynonellau crefyddol y mae bancio Islamaidd wedi'i seilio arnynt
  8. Y mathau o asedau y gellir eu hystyried fel offerynnau buddsoddi anfoesegol
  9. Sut mae cyfrifon banc yn gweithredu mewn bancio Islamaidd
  10. Contractau Mudaraba a sut maen nhw'n darparu ffurf amgen ar gyfrif adnau
  11. Contractau Istisn'a a sut maen nhw'n darparu cyllid ar gyfer prosiectau busnes
  12. Contractau Musharaka a sut maen nhw'n darparu cyllid ecwiti ar gyfer busnes
  13. Contractau Murabaha i ddarparu cyllid heblaw ecwiti ar gyfer busnes
  14. Contractau Ijara a sut maen nhw'n darparu cyllid prydlesu
  15. Egwyddorion sukuk a'r farchnad bondiau Islamaidd
  16. Rôl bwrdd goruchwylio sharia'a yn llywodraethiant corfforaethol banc Islamaidd
  17. Deddfwriaeth a rheoliadau perthnasol sy'n effeithio ar eich busnes
  18. Gofynion eich sefydliad yng nghyswllt cymhwyso codau, cyfreithiau a gofynion rheoliadol, gan gynnwys safonau moesegol sy'n cael effaith ar eich gweithgareddau

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau

  1. Rydych yn arddangos uniondeb, tegwch a chysondeb wrth ddefnyddio eich gwybodaeth
  2. Rydych yn esbonio pethau fel bod eraill yn deall

Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Maw 2022

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Partneriaeth Sgiliau Ariannol

URN gwreiddiol

FSPIFP01

Galwedigaethau Perthnasol

Cyllid

Cod SOC


Geiriau Allweddol

bancio Islamaidd; cyfraith sharia'a; cyfathrebu; cwsmeriaid; cydweithwyr; cynnyrch; egwyddorion; ymarfer; ffynonellau crefyddol; cyllid ecwiti; prydlesu; bwrdd goruchwylio