Tansgrifennu addasiadau polisi uniongyrchol
URN: FSPGI26
Sectorau Busnes (Suites): Yswiriant Cyffredinol
Datblygwyd gan: Skills for Justice
Cymeradwy ar:
01 Maw 2017
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â thansgrifennu addasiadau polisi uniongyrchol. Bydd eich gwaith yn cynnwys egluro gyda chwsmeriaid natur yr addasiad arfaethedig, gofyn am unrhyw wybodaeth bellach y gall fod ei hangen arnoch, penderfynu a ellir derbyn yr addasiad, a mynd ati i brosesu'r addasiad. Mae delio gyda cheisiadau am addasiadau canol tymor i fusnes presennol ar ran yr yswiriwr yn galw am ganfod pa newid sy'n ofynnol i'r polisi, os o gwbl, a chyfrifo premiwm diwygiedig lle bo angen hynny.
Bydd y safon hon yn addas i chi os ydych chi'n gweithio i yswiriwr neu ganolwr, neu sefydliad arall sydd ag awdurdod dirprwyedig.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Delio gyda cheisiadau am addasiadau, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Gwirio bod gennych chi ddigon o fanylion ynghylch y cais i ganiatáu i chi symud ymlaen yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Nodi ac egluro unrhyw geisiadau ansafonol, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Egluro unrhyw wybodaeth sy'n aneglur a chasglu gwybodaeth ychwanegol lle bo angen, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Datgelu gwybodaeth gyfrinachol dim ond i'r rhai sydd wedi'u hawdurdodi i'w derbyn, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Nodi gwybodaeth briodol o gofnodion cyfredol cwsmeriaid, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Cymhwyso'r holl feini prawf tansgrifennu, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Delio gyda'r addasiadau hynny sydd o fewn eich lefel chi o awdurdod, a chyfeirio pob un arall at bobl sydd wedi'u hawdurdodi i ddelio gyda nhw
- Hysbysu cwsmeriaid eich bod wedi rhoi yswiriant, cyn gynted ag y bydd y newidiadau wedi'u derbyn, a chadarnhau unrhyw amodau arbennig
- Gwirio bod cwsmeriaid yn derbyn unrhyw ddogfennau angenrheidiol i ddiwallu eu hanghenion a'u gofynion cyfreithiol
- Cydymffurfio â gofynion cydymffurfio cyfreithiol a rheoliadol, rheoliadau'r diwydiant, polisïau sefydliadol a chodau ymarfer proffesiynol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Egwyddorion a rheoliadau yswiriant a chyfreithiol perthnasol sy'n effeithio ar eich gweithgareddau
- Strwythur y farchnad yswiriant a rolau a chyfrifoldebau'r amrywiol bartïon sy'n rhan ohoni sy'n effeithio ar eich gweithgareddau
- Cwmpas y polisi, y telerau a'r amodau sy'n berthnasol i'ch gwaith, gan gynnwys estyniadau neu gyfyngiadau safonol
- Ffynonellau gwybodaeth a chyngor
- Terfynau eich awdurdod a'r camau sy'n ofynnol i dansgrifennu risg y tu allan i'ch awdurdod
- Safonau a gweithdrefnau gwasanaeth cwsmeriaid eich sefydliad, gan gynnwys delio gyda chwynion
- Polisi a gweithdrefnau eich sefydliad ynghylch cyfathrebu â chwsmeriaid
- Sut mae cael mynediad i gofnodion cwsmeriaid busnes sydd eisoes yn bodoli
- Gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer prosesu addasiadau ganol tymor a dychwelyd dogfennaeth, lle bo hynny'n briodol
- Sut mae cymhwyso meini prawf tansgrifennu gan ddefnyddio systemau wedi'u hawtomeiddio neu â llaw
- Gofynion eich sefydliad yng nghyswllt cymhwyso codau, cyfreithiau a gofynion rheoliadol sy'n cael effaith ar eich gweithgareddau
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
- Rydych yn gwerthuso materion yn effeithiol er mwyn gwneud penderfyniadau priodol
- Rydych yn defnyddio gwybodaeth yn effeithiol, yn effeithlon ac er lles pennaf eich cwsmer
- Rydych yn arddangos dealltwriaeth o bobl eraill ac yn delio gyda nhw mewn modd proffesiynol
- Rydych yn datgelu gwybodaeth dim ond i'r rhai sydd ei hangen ac sydd â hawl i'w derbyn
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
01 Maw 2022
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Partneriaeth Sgiliau Ariannol
URN gwreiddiol
FSPGI26
Galwedigaethau Perthnasol
Cyllid
Cod SOC
Geiriau Allweddol
Hawliad yswiriant; polisi yswiriant; polisïau; hawliad; hawlydd; setliad; wedi'i yswirio; heb ei yswirio; hysbysiad