Adolygu penderfyniadau tansgrifennu i dderbyn risgiau
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud ag adolygu penderfyniadau tansgrifennu i dderbyn risg. Bydd eich gwaith yn cynnwys gwirio'r dyfynbrisiau a roddwyd i gwsmeriaid. Mae dyfynbrisiau a ddarparwyd yn cael eu gwirio i sicrhau bod canllawiau'r tansgrifennwr wedi'u cymhwyso'n gywir, nad ydych wedi mynd y tu hwnt i'r awdurdod tansgrifennu, a bod y dyfynbris yn ddilys. Lle bo dyfynbris yn dibynnu ar y cwsmer yn cyflenwi dogfennau neu dystiolaeth arall, mae hynny hefyd yn cael ei wirio, a bydd unrhyw wahaniaethau rhwng y ffeithiau pwysig a gyflenwyd gan y cwsmer ar adeg y dyfynbris a'r wybodaeth a ddarparwyd gan y dystiolaeth yn cael eu hatgyfeirio at y person sy'n gallu delio gyda nhw.
Bydd y safon hon yn addas i chi os ydych chi'n gweithio i yswiriwr neu ganolwr, neu sefydliad arall sydd ag awdurdod dirprwyedig.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Adolygu dyfynbrisiau sy'n syrthio o fewn eich awdurdod, a throsglwyddo eraill i'r person priodol
- Cadarnhau bod gennych yr holl ddogfennau a gwybodaeth angenrheidiol i symud ymlaen, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Nodi unrhyw wahaniaethau yn y manylion a gafwyd gan gwsmeriaid a'r ffeithiau pwysig y seiliwyd y dyfynbris arnynt
- Adnabod dyfynbrisiau sy'n syrthio y tu allan i ganllawiau eich sefydliad, a chymryd camau priodol, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Cyfeirio unrhyw sefyllfaoedd y tu allan i lefel eich awdurdod at y bobl neu'r adrannau priodol, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Penderfynu a yw'r canllawiau tansgrifennu wedi'u cymhwyso'n gywir, ac nad ydych wedi mynd y tu hwnt i'r awdurdod tansgrifennu
- Dilysu dyfynbrisiau sy'n cyflawni'r gofynion, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Cydymffurfio â gofynion cydymffurfio cyfreithiol a rheoliadol, rheoliadau'r diwydiant, polisïau sefydliadol a chodau ymarfer proffesiynol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Egwyddorion a rheoliadau yswiriant a chyfreithiol perthnasol sy'n effeithio ar eich gweithgareddau
- Strwythur y farchnad yswiriant a rolau a chyfrifoldebau'r amrywiol bartïon sy'n rhan ohoni sy'n effeithio ar eich gweithgareddau
- Cwmpas y polisi, y telerau a'r amodau sy'n berthnasol i'ch gwaith, gan gynnwys estyniadau neu gyfyngiadau safonol ac ansafonol
- Ffynonellau cyngor a gwybodaeth
- Terfynau eich awdurdod a'r camau sy'n ofynnol pan fydd dyfynbris yn syrthio y tu allan i'r terfynau hynny
- Safonau a gweithdrefnau gwasanaeth cwsmeriaid eich sefydliad, gan gynnwys y rhai ar gyfer delio gyda chwynion
- Y meini prawf tansgrifennu ar gyfer y dyfynbrisiau mae gennych chi awdurdod i'w hadolygu
- Gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer rhoi yswiriant, cyhyd â bod yr amodau'n cael eu derbyn
- Sut mae cael mynediad i gofnodion cwsmeriaid sydd eisoes yn bodoli
- Polisi a gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer cyfathrebu â chwsmeriaid
- Sut mae penderfynu a yw cynnig yn cydweddu â phroffil arfaethedig eich sefydliad o ran risg dderbyniol
- Sut mae gwirio bod y premiwm cywir wedi cael ei godi
- Gofynion eich sefydliad yng nghyswllt cymhwyso codau, cyfreithiau a gofynion rheoliadol sy'n cael effaith ar eich gweithgareddau
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
- Rydych yn gwerthuso materion yn effeithiol ac yn gwneud penderfyniadau priodol
- Rydych yn defnyddio gwybodaeth yn effeithiol, yn effeithlon ac er lles pennaf y cwsmer
- Rydych yn dangos ymwybyddiaeth o'r risgiau posibl sy'n gysylltiedig ag unrhyw gynnig
- Rydych yn mabwysiadu agwedd ymchwilgar i gasglu manylion gofynnol sy'n hanfodol i'ch gwaith
- Rydych yn arddangos dealltwriaeth o bobl eraill ac yn delio gyda nhw mewn modd proffesiynol
- Rydych yn datgelu gwybodaeth dim ond i'r rhai sydd ei hangen