Prosesu adnewyddiadau yswiriant cymhleth
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â phrosesu adnewyddiadau yswiriant cymhleth. Mae adnewyddu'n gymhleth lle nad yw'n fater o drefn ac nad oes modd ei wneud yn fecanyddol, h.y. mae angen cyd-drafod neu mae gofynion technegol o ran materion cyfreithiol neu dansgrifennu cymhleth neu oblygiadau ariannol sylweddol.
Byddwch yn penderfynu ar delerau adnewyddu trwy gymryd i ystyriaeth wybodaeth dansgrifennu ffres megis yr hanes o ran hawliadau - gan gymryd i ystyriaeth holl nodweddion y risg. Gall hyn gynnwys cynnig mesurau gwella risg. Byddwch yn ymgynghori â'r partïon eraill os yw hynny'n briodol ar gyfer yr amgylchiadau a rôl eich swydd. Byddwch yn awgrymu cynnyrch a gwasanaethau amgen pan fydd y rheiny'n briodol. Gallwch gyd-drafod telerau gyda'r cwsmer, gwahodd yr adnewyddiad, a threfnu bod y cwsmer yn derbyn y dogfennau gofynnol. Bydd angen i chi gyflwyno gwybodaeth yn glir ac yn gryno.
Bydd y safon hon yn addas i chi os ydych chi'n gweithio i yswiriwr neu ganolwr, neu sefydliad arall sydd ag awdurdod dirprwyedig.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Adolygu polisïau a nodi risgiau sy'n galw am dansgrifennu o'r newydd, oddi mewn i derfyn eich awdurdod, a throsglwyddo eraill at y person priodol
- Casglu gwybodaeth gywir yn ôl y gofyn, gan gynnwys unrhyw hanes o hawliadau a brasamcanion ar gyfer hawliadau sydd heb ddod i ben er mwyn penderfynu a ddylid derbyn neu wrthod adnewyddiadau
- Egluro unrhyw wybodaeth sy'n amwys neu'n aneglur, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Caniatáu ar gyfer holl nodweddion a hanes risgiau, a chynnig mesurau gwella risg priodol
- Penderfynu a ddylid derbyn neu wrthod risgiau, caniatáu ar gyfer holl nodweddion a hanes y risg, ac effaith eich penderfyniad ar fusnes arall
- Cymhwyso meini prawf tansgrifennu, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Hysbysu ac ymgynghori â phartïon eraill â diddordeb lle bo hynny'n briodol, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Cyfeirio unrhyw sefyllfaoedd y tu allan i lefel eich awdurdod at y bobl neu'r adrannau priodol, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Cadarnhau pan fydd yswiriant wedi'i roi ac esbonio'n glir unrhyw amodau arbennig, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Trefnu bod dogfennau a gohebiaeth cywir a chyflawn yn cael eu paratoi a'u cyflwyno, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Cadw cofnodion cywir a chyflawn, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Cydymffurfio â gofynion cydymffurfio cyfreithiol a rheoliadol, rheoliadau'r diwydiant, polisïau sefydliadol a chodau ymarfer proffesiynol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Egwyddorion a rheoliadau yswiriant a chyfreithiol perthnasol sy'n effeithio ar eich gweithgareddau
- Strwythur y farchnad yswiriant a rolau a chyfrifoldebau'r amrywiol bartïon sy'n rhan ohoni sy'n effeithio ar eich gweithgareddau
- Cwmpas y polisi, y telerau a'r amodau sy'n berthnasol i'ch gwaith, gan gynnwys estyniadau a/neu gyfyngiadau safonol ac ansafonol
- Ffynonellau gwybodaeth a chyngor
- Terfynau eich awdurdod a'r camau sy'n ofynnol pan fydd adnewyddiad yn syrthio y tu allan i'r terfynau hynny
- Safonau a gweithdrefnau gwasanaeth cwsmeriaid eich sefydliad, gan gynnwys y rhai ar gyfer delio gyda chwynion
- Polisi a gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer cyfathrebu â chwsmeriaid
- Gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer prosesu adnewyddiadau a'r dogfennau cysylltiedig
- Gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer cyflwyno atodlenni polisi diwygiedig
- Sut mae cael mynediad i gofnodion cwsmeriaid sydd eisoes yn bodoli
- Gweithdrefnau eich sefydliad a'r amgylchiadau ar gyfer rhoi yswiriant, cyhyd â bod yr amodau'n cael eu derbyn
- Sut mae cymhwyso meini prawf tansgrifennu
- Gofynion eich sefydliad yng nghyswllt cymhwyso codau, cyfreithiau a gofynion rheoliadol sy'n cael effaith ar eich gweithgareddau
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
- Rydych yn arddangos dealltwriaeth o bobl eraill ac yn delio gyda nhw mewn modd proffesiynol
- Rydych yn gwerthuso sefyllfaoedd a gwybodaeth yn effeithiol ac yn gwneud penderfyniadau priodol
- Rydych yn defnyddio gwybodaeth yn effeithiol, yn effeithlon ac er lles pennaf y cleient a'r yswiriwr
- Rydych yn mabwysiadu agwedd ymchwilgar i gasglu manylion gofynnol sy'n hanfodol i'ch gwaith
- Rydych yn cyd-drafod yn effeithiol