Prosesu addasiadau cymhleth i bolisi yswiriant
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â phrosesu addasiadau cymhleth i bolisi yswiriant. Gall y polisi fod yn un uniongyrchol; yr addasiad sy'n gymhleth. Addasiadau cymhleth yw rhai nad ydynt yn fater o drefn ac nad oes modd delio gyda nhw'n fecanyddol, h.y. mae angen cyd-drafod neu maent yn dechnegol heriol, ac yn ymwneud â materion cyfreithiol neu dansgrifennu cymhleth neu oblygiadau ariannol sylweddol.
Byddwch yn canfod gofynion y cwsmer, yn gofyn am wybodaeth bellach yn ôl y galw, yn penderfynu a oes modd derbyn yr addasiad, ac yn prosesu'r addasiad. Byddwch yn delio gyda cheisiadau am addasiadau canol tymor i fusnes sydd eisoes yn bodoli trwy ganfod pa newidiadau sy'n ofynnol i'r polisi a phenderfynu ar bremiwm diwygiedig lle bo angen hynny. Bydd angen i chi gyflwyno gwybodaeth yn glir ac yn gryno ac fel bod eraill yn ei deall.
Bydd y safon hon yn addas i chi os ydych chi'n gweithio i yswiriwr neu ganolwr, neu sefydliad arall sydd ag awdurdod dirprwyedig i wneud addasiadau i bolisïau.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Delio gyda cheisiadau am addasiadau, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Delio gydag unrhyw addasiadau lle mae gennych awdurdod i wneud hynny, a throsglwyddo eraill i'r person priodol, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Nodi'r manylion mae arnoch eu hangen i symud ymlaen gyda'r cais, a chadarnhau bod gennych yr holl fanylion hyn
- Egluro unrhyw wybodaeth sy'n aneglur a chasglu gwybodaeth ychwanegol lle bo angen i ddileu unrhyw amwysedd
- Nodi unrhyw fusnes presennol a'i gymryd i ystyriaeth, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Adnabod unrhyw nodweddion yn y cais sy'n dangos y dylid ei wrthod neu ei atgyfeirio, a symud ymlaen yn unol â hynny
- Cymhwyso meini prawf tansgrifennu, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Cyfeirio unrhyw sefyllfaoedd y tu allan i lefel eich awdurdod at y bobl neu'r adrannau priodol, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Darparu dyfynbris gyda thelerau priodol ar gyfer cwsmeriaid
- Gwirio bod yr holl ofynion wedi'u deall yn glir, a phan fo angen, byddwch yn sicrhau cadarnhad bod camau wedi'u cymryd ar eu sail
- Awgrymu cynnyrch neu gamau gweithredu amgen os bydd cwsmeriaid yn gwrthod y dyfynbris, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Egluro'n glir pan fydd yr yswiriant yn ei le, a chadarnhau unrhyw amodau arbennig
- Trefnu bod dogfennau cywir yn cael eu darparu i'r rhai sydd eu hangen, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Cadw cofnodion cywir a chyflawn ar gyfer pob cam, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Cydymffurfio â gofynion cydymffurfio cyfreithiol a rheoliadol, rheoliadau'r diwydiant, polisïau sefydliadol a chodau ymarfer proffesiynol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Egwyddorion a rheoliadau yswiriant a chyfreithiol perthnasol sy'n effeithio ar eich gweithgareddau
- Strwythur y farchnad yswiriant a rolau a chyfrifoldebau'r amrywiol bartïon sy'n rhan ohoni sy'n effeithio ar eich gweithgareddau
- Cwmpas y polisi, y telerau a'r amodau sy'n berthnasol i'ch gwaith, gan gynnwys estyniadau neu gyfyngiadau safonol ac ansafonol
- Ffynonellau gwybodaeth a chyngor
- Safonau a gweithdrefnau gwasanaeth cwsmeriaid eich sefydliad, gan gynnwys y rhai ar gyfer delio gyda chwynion
- Systemau a gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer cofnodi a newid gwybodaeth
- Sut mae cael mynediad i gofnodion cwsmeriaid busnes sydd eisoes yn bodoli
- Polisi a gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer cyfathrebu â chwsmeriaid
- Terfynau eich awdurdod a'r camau sy'n ofynnol pan fydd addasiad i'w weld yn mynd y tu hwnt i'ch awdurdod
- Sut mae cymhwyso meini prawf tansgrifennu
- Yr wybodaeth sy'n ofynnol i gyflawni'r addasiad arfaethedig
- Gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer prosesu addasiadau ganol tymor a dychwelyd dogfennaeth, lle bo hynny'n briodol
- Gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer rhoi yswiriant, cyhyd â bod yr amodau'n cael eu derbyn
- Gofynion eich sefydliad yng nghyswllt cymhwyso codau, cyfreithiau a gofynion rheoliadol sy'n cael effaith ar eich gweithgareddau
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
- Rydych yn defnyddio gwybodaeth yn effeithiol, yn effeithlon ac er lles pennaf y cwsmer
- Rydych yn mabwysiadu agwedd ymchwilgar i gasglu manylion gofynnol sy'n hanfodol i'ch gwaith
- Rydych yn arddangos dealltwriaeth o bobl eraill ac yn delio gyda nhw mewn modd proffesiynol
- Rydych yn datgelu gwybodaeth dim ond i'r rhai sydd ei hangen
- Rydych yn dangos ymwybyddiaeth o'r risgiau posibl sy'n gysylltiedig ag unrhyw gynnig