Tansgrifennu risgiau newydd cymhleth
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â thansgrifennu risgiau newydd cymhleth. Bydd eich gwaith yn cynnwys asesu risgiau newydd cymhleth o fewn eich awdurdod, a phenderfynu a ellir eu derbyn. Mae risg yn gymhleth lle nad yw'n fater o drefn ac nad oes modd ei wneud yn fecanyddol, h.y. mae angen cyd-drafod neu mae gofynion technegol o ran materion cyfreithiol neu dansgrifennu cymhleth neu oblygiadau ariannol sylweddol. Mae'r safon hon yn ymwneud â sicrhau'r wybodaeth ofynnol gan y cwsmer, paru gofynion cwsmeriaid a chwmpas y polisi sydd ar gael, a threfnu ymchwiliadau pellach i'r risg os bydd gofyn. Dylid defnyddio'r holl wybodaeth sydd ar gael i lunio asesiad o'r risg a phennu pris teg. Mae hefyd yn golygu penderfynu a ddylid derbyn neu wrthod y risg, awgrymu mesurau gwella risg (lle bo hynny'n briodol), a chymhwyso meini prawf tansgrifennu cyfredol cyn rhoi gwybod i'r cwsmer beth yw'r premiwm a'r telerau.
Bydd y safon hon yn addas i chi os ydych chi'n gweithio i yswiriwr neu ganolwr, neu sefydliad arall sydd ag awdurdod dirprwyedig.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Derbyn risgiau newydd sy'n syrthio o fewn lefel gytunedig eich cyfrifoldeb, a throsglwyddo eraill i'r person priodol
- Casglu gwybodaeth ddigonol, gan ddatrys unrhyw anghysondebau, i'ch galluogi i asesu'r risg yn gywir, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Rhoi gwybod i gwsmeriaid am unrhyw welliannau sy'n ofynnol i'r risg, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Penderfynu derbyn neu wrthod risgiau, caniatáu ar gyfer holl nodweddion a hanes y risg, ac effaith eich penderfyniad ar fusnes arall
- Cymhwyso cyfyngiadau priodol neu estyniadau i'r yswiriant i adlewyrchu nodweddion y risg, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Nodi ac egluro unrhyw wahaniaethau rhwng yswiriant y polisi a gofynion y cwsmer
- Cyfeirio unrhyw sefyllfaoedd y tu allan i lefel eich awdurdod at y person neu'r adran sy'n briodol
- Cymryd camau i osgoi unrhyw oedi diangen wrth dansgrifennu'r risg, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Hysbysu cwsmeriaid ynghylch eich penderfyniad yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Cytuno ar y telerau terfynol a'r premiwm, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Cadw cofnodion cywir a chyflawn ar gyfer pob cam, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Cydymffurfio â gofynion cydymffurfio cyfreithiol a rheoliadol, rheoliadau'r diwydiant, polisïau sefydliadol a chodau ymarfer proffesiynol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Egwyddorion a rheoliadau yswiriant a chyfreithiol perthnasol sy'n effeithio ar eich gweithgareddau
- Strwythur y farchnad yswiriant a rolau a chyfrifoldebau'r amrywiol bartïon sy'n rhan ohoni sy'n effeithio ar eich gweithgareddau
- Cwmpas y polisi, y telerau a'r amodau sy'n berthnasol i'ch gwaith, gan gynnwys estyniadau neu gyfyngiadau safonol ac ansafonol
- Ffynonellau gwybodaeth a chyngor
- Tueddiadau cyfredol y farchnad a datblygiad
- Terfynau eich awdurdod a'r camau sy'n ofynnol pan fydd tansgrifennu'n syrthio y tu allan i'r terfynau hynny
- Safonau a gweithdrefnau gwasanaeth cwsmeriaid eich sefydliad, gan gynnwys delio gyda chwynion
- Polisi a gweithdrefnau eich sefydliad ynghylch cyfathrebu â chwsmeriaid
- Sut mae penderfynu a yw cynnig yn cydweddu â phroffil arfaethedig eich sefydliad o ran risg dderbyniol
- Gweithdrefnau eich sefydliad a'r amgylchiadau ar gyfer rhoi yswiriant, cyhyd â bod yr amodau'n cael eu derbyn
- y camau sy'n ofynnol ar gyfer tansgrifennu risg sydd y tu allan i lefel gytunedig eich cyfrifoldeb
- Sut mae cymhwyso meini prawf tansgrifennu
- Gofynion eich sefydliad yng nghyswllt cymhwyso codau, cyfreithiau a gofynion rheoliadol sy'n cael effaith ar eich gweithgareddau
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
- Rydych yn gwerthuso materion yn effeithiol er mwyn gwneud penderfyniadau priodol
- Rydych yn defnyddio gwybodaeth yn effeithiol, yn effeithlon ac er lles pennaf eich cwsmer
- Rydych yn arddangos dealltwriaeth o bobl eraill ac yn delio gyda nhw mewn modd proffesiynol
- Rydych yn dangos ymwybyddiaeth o'r risgiau posibl sy'n gysylltiedig ag unrhyw gynnig
- Rydych yn datgelu gwybodaeth dim ond i'r rhai sydd ei hangen ac sydd â hawl i'w derbyn
- Rydych yn cyd-drafod yn effeithiol