Prosesu adnewyddiadau yswiriant uniongyrchol
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â phrosesu adnewyddiadau yswiriant uniongyrchol. Bydd eich gwaith yn cynnwys prosesu adnewyddiadau uniongyrchol, sy'n syrthio o fewn eich awdurdod, gyda nodweddion sy'n dangos y gallai fod angen tansgrifennu o'r newydd. Gall hyn gynnwys rhai lle gwnaed hawliadau neu lle mae newidiadau o ran amgylchiadau. Byddwch yn casglu gwybodaeth gan y cwsmer ac yn sicrhau eglurhad yn ei chylch. Byddwch yn gwahodd adnewyddiadau ac yn cyflwyno'r dogfennau gofynnol i gydymffurfio â'r ddeddfwriaeth a'r rheoliadau. Bydd angen i chi gyflwyno gwybodaeth yn glir ac yn gryno.
Bydd y safon hon yn addas i chi os ydych chi'n gweithio i yswiriwr neu ganolwr, neu sefydliad arall sydd ag awdurdod dirprwyedig.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Delio gyda'r adnewyddiadau hynny sydd o fewn eich lefel chi o awdurdod, a throsglwyddo eraill i'r person priodol
- Delio gydag adnewyddiadau sydd i ddod o fewn y terfynau amser sy'n ofynnol gan eich sefydliad a'r rheoleiddiwr
- Adnabod unrhyw nodweddion sy'n dangos y dylid tansgrifennu o'r newydd, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Casglu gwybodaeth neu ddogfennaeth ddigonol sy'n ofynnol i symud ymlaen a phenderfynu a ddylid derbyn neu wrthod adnewyddiadau
- Egluro unrhyw wybodaeth sy'n aneglur a chasglu gwybodaeth ychwanegol lle bo angen, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Penderfynu ar effaith penderfyniad i wrthod adnewyddu ar eraill, a sicrhau bod rhybudd digonol yn cael ei roi
- Paratoi dogfennaeth neu ohebiaeth yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Cyfeirio unrhyw sefyllfaoedd y tu allan i lefel eich awdurdod at y bobl neu'r adrannau priodol, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Gwahodd adnewyddu risgiau a chadarnhau unrhyw newidiadau i'r telerau a'r amodau
- Cadw cofnodion cywir a chyflawn, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Diweddaru neu gwblhau unrhyw gofnodion neu gronfeydd data ychwanegol sy'n ofynnol, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Cydymffurfio â gofynion cydymffurfio cyfreithiol a rheoliadol, rheoliadau'r diwydiant, polisïau sefydliadol a chodau ymarfer proffesiynol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Egwyddorion a rheoliadau yswiriant a chyfreithiol perthnasol sy'n effeithio ar eich gweithgareddau
- Strwythur y farchnad yswiriant a rolau a chyfrifoldebau'r amrywiol bartïon sy'n rhan ohoni sy'n effeithio ar eich gweithgareddau
- Cwmpas y polisi, y telerau a'r amodau sy'n berthnasol i'ch gwaith, gan gynnwys estyniadau neu gyfyngiadau safonol
- Safonau a gweithdrefnau gwasanaeth cwsmeriaid eich sefydliad, gan gynnwys y rhai ar gyfer delio gyda chwynion
- Ffynonellau gwybodaeth a chyngor
- Terfynau eich awdurdod a'r camau sy'n ofynnol pan fydd adnewyddiad yn syrthio y tu allan i'r terfynau hynny
- Gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer rhoi yswiriant, cyhyd â bod yr amodau'n cael eu derbyn
- Sut mae cael mynediad i gofnodion cwsmeriaid sydd eisoes yn bodoli
- Polisi a gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer cyfathrebu â chwsmeriaid
- Sut mae cymhwyso meini prawf tansgrifennu gan ddefnyddio systemau wedi'u hawtomeiddio neu â llaw
- Gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer cyflwyno dogfennau adnewyddu
- Egwyddorion a rheoliadau cyfreithiol perthnasol sy'n effeithio ar eich gweithgareddau
- Gofynion eich sefydliad yng nghyswllt cymhwyso codau, cyfreithiau a gofynion rheoliadol sy'n cael effaith ar eich gweithgareddau
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
- Rydych yn defnyddio gwybodaeth yn effeithiol, yn effeithlon ac er lles pennaf y cleient a'r yswiriwr
- Rydych yn arddangos dealltwriaeth o bobl eraill ac yn delio gyda nhw mewn modd proffesiynol
- Rydych yn mabwysiadu agwedd ymchwilgar i gasglu manylion gofynnol sy'n hanfodol i'ch gwaith