Prosesu dogfennau polisi yswiriant
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â phrosesu dogfennau polisi yswiriant. Gall eich gwaith olygu eich bod yn darparu polisi neu ddogfennau i gwsmeriaid yn dystiolaeth o'r addasiadau. Ar ôl i fusnes newydd ac addasiadau gael eu prosesu, caiff y dogfennau sy'n darparu tystiolaeth ynghylch y contract yswiriant, neu'r addasiad, eu paratoi a'u cyflwyno i'r cwsmer. Byddwch fel arfer yn delio gyda dogfennaeth ar gyfer polisïau sydd â chyfraddau a geiriad safonol, h.y. y polisïau neu'r cynnyrch hynny sy'n cael eu gyrru gan y system heb fawr ddim cyfle, os o gwbl, i ddyfarnu'n unigol ar gyfer amrywio'r telerau a'r amodau. Bydd angen hefyd i chi gyflwyno gwybodaeth yn glir ac yn gryno a rhoi sylw i fanylion sy'n hollbwysig i'ch gwaith.
Mae'n bosibl y bydd y safon hon yn addas i chi os ydych chi'n gweithio i yswiriwr neu ganolwr, neu sefydliad arall sydd ag awdurdod dirprwyedig.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Nodi'r wybodaeth gywir yn y man priodol, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Cynhyrchu'r dogfennau cywir, yn unol â gweithdrefnau eich cyflogwr
- Datrys unrhyw anghysondebau neu elfennau nad ydynt yn cyfateb yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Cyflwyno dogfennau'n brydlon i'r rhai sydd eu hangen, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Ymgorffori cymalau safonol a geiriad cyfyngiadau'n gywir
- Cyfeirio unrhyw sefyllfaoedd y tu allan i lefel eich awdurdod at y bobl neu'r adrannau priodol, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Cadw cofnodion cywir a chyflawn ar gyfer pob cam, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Gwirio bod y dogfennau'n gywir, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Cydymffurfio â gofynion cydymffurfio cyfreithiol a rheoliadol, rheoliadau'r diwydiant, polisïau sefydliadol a chodau ymarfer proffesiynol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Egwyddorion a rheoliadau yswiriant a chyfreithiol perthnasol sy'n effeithio ar eich gweithgareddau
- Strwythur y farchnad yswiriant a rolau a chyfrifoldebau'r amrywiol bartïon sy'n rhan ohoni sy'n effeithio ar eich gweithgareddau
- Cwmpas y polisi, y telerau a'r amodau sy'n berthnasol i'ch gwaith, gan gynnwys estyniadau neu gyfyngiadau safonol
- Ffynonellau gwybodaeth a chyngor
- Terfynau eich awdurdod a'r camau sy'n ofynnol ar gyfer sefyllfaoedd y tu allan i'ch awdurdod
- Egwyddorion a rheoliadau cyfreithiol perthnasol sy'n effeithio ar eich gweithgareddau
- Safonau gwasanaeth a therfynau amser eich sefydliad, gan gynnwys delio gyda chwynion
- Systemau a gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer cyrchu, cofnodi a newid gwybodaeth
- Polisi a gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer cyfathrebu â chwsmeriaid
- Gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer paratoi atodlenni ac atodiadau polisi perthnasol
- Gweithdrefnau a therfynau amser eich sefydliad ar gyfer cyflwyno atodlenni a chyfyngiadau polisi diwygiedig
- Gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer addasu polisi safonol, gan gynnwys unrhyw wybodaeth hanfodol gysylltiedig sy'n ofynnol gan y cwsmer
- Gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer canslo yng nghanol y cyfnod, gan gynnwys dychwelyd premiymau a dychwelyd y ddogfennaeth
- Gofynion eich sefydliad yng nghyswllt cymhwyso codau, cyfreithiau a gofynion rheoliadol sy'n cael effaith ar eich gweithgareddau
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
- Rydych yn defnyddio gwybodaeth yn effeithiol, yn effeithlon ac er lles pennaf eich cwsmer
- Rydych yn arddangos dealltwriaeth o bobl eraill ac yn delio gyda nhw mewn modd proffesiynol
- Rydych yn datgelu gwybodaeth dim ond i'r rhai sydd ei hangen ac sydd â hawl i'w derbyn