Tansgrifennu risgiau newydd uniongyrchol
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â thansgrifennu risgiau newydd uniongyrchol. Bydd eich gwaith yn cynnwys asesu risgiau newydd uniongyrchol sydd o fewn eich awdurdod, a phenderfynu a ellir eu derbyn. Rhaid bod gennych chi'r awdurdod tansgrifennu i'w derbyn. Mae'r safon hon yn ymwneud â sicrhau'r wybodaeth ofynnol gan y cwsmer, paru gofynion cwsmeriaid â chwmpas y polisi sydd ar gael, a threfnu ymchwiliadau pellach i'r risg os bydd gofyn. Dylid defnyddio'r holl wybodaeth sydd ar gael i lunio asesiad o'r risg a phennu pris teg. Mae hefyd yn golygu penderfynu a ddylid derbyn neu wrthod y risg, awgrymu (lle bo hynny'n briodol) mesurau gwella risg, a chymhwyso meini prawf tansgrifennu cyfredol.
Mae'n bosibl y bydd y safon hon yn addas i chi os ydych chi'n gweithio i yswiriwr neu ganolwr, neu sefydliad arall sydd ag awdurdod dirprwyedig.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Derbyn risgiau newydd sy'n syrthio o fewn lefel gytunedig eich cyfrifoldeb yn unig, a throsglwyddo eraill i'r person priodol yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Casglu gwybodaeth ddigonol, gan ddatrys unrhyw anghysondebau, i'ch galluogi i asesu'r risg yn gywir
- Hysbysu cwsmeriaid ynghylch unrhyw welliannau sy'n ofynnol i'r risg fel sy'n briodol yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Cymhwyso meini prawf cyfredol tansgrifennu i adlewyrchu nodweddion y risg
- Nodi ac egluro unrhyw wahaniaethau rhwng yswiriant y polisi a gofynion y cwsmer
- Cyfeirio unrhyw sefyllfaoedd y tu allan i lefel eich awdurdod at y bobl neu'r adrannau priodol, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Hysbysu cwsmeriaid ynghylch eich penderfyniad yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Cytuno ar y telerau terfynol a'r premiwm, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Cadw cofnodion cywir a chyflawn bob cam, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Cydymffurfio â gofynion cydymffurfio cyfreithiol a rheoliadol, rheoliadau'r diwydiant, polisïau sefydliadol a chodau ymarfer proffesiynol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Egwyddorion a rheoliadau yswiriant a chyfreithiol perthnasol sy'n effeithio ar eich gweithgareddau
- Strwythur y farchnad yswiriant a rolau a chyfrifoldebau'r amrywiol bartïon sy'n rhan ohoni sy'n effeithio ar eich gweithgareddau
- Cwmpas y polisi, y telerau a'r amodau sy'n berthnasol i'ch gwaith, gan gynnwys estyniadau neu gyfyngiadau safonol
- Ffynonellau gwybodaeth a chyngor
- Polisi a gweithdrefnau eich sefydliad ynghylch cyfathrebu â chwsmeriaid
- Safonau a gweithdrefnau gwasanaeth cwsmeriaid eich sefydliad, gan gynnwys delio gyda chwynion
- Gweithdrefnau eich sefydliad a'r amgylchiadau ar gyfer rhoi yswiriant, cyhyd â bod yr amodau'n cael eu derbyn
- Terfynau eich awdurdod a'r camau sy'n ofynnol i dansgrifennu risg y tu allan i'ch awdurdod
- Sut mae cymhwyso meini prawf tansgrifennu
- Gofynion eich sefydliad yng nghyswllt cymhwyso codau, cyfreithiau a gofynion rheoliadol sy'n cael effaith ar eich gweithgareddau
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
- Rydych yn gwerthuso materion yn effeithiol er mwyn gwneud penderfyniadau priodol
- Rydych yn defnyddio gwybodaeth yn effeithiol, yn effeithlon ac er lles pennaf eich cwsmer
- Rydych yn arddangos dealltwriaeth o bobl eraill ac yn delio gyda nhw mewn modd proffesiynol
- Rydych yn datgelu gwybodaeth dim ond i'r rhai sydd ei hangen ac sydd â hawl i'w derbyn