Prosesu adnewyddiadau yswiriant cymhleth fel canolwr

URN: FSPGI15
Sectorau Busnes (Suites): Yswiriant Cyffredinol
Datblygwyd gan: Skills for Justice
Cymeradwy ar: 01 Maw 2017

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â phrosesu adnewyddiadau yswiriant cymhleth fel canolwr. Bydd eich gwaith yn cynnwys prosesu a chwblhau adnewyddiadau. Mae adnewyddu'n gymhleth lle nad yw'n fater o drefn ac nad oes modd ei wneud yn fecanyddol, h.y. mae angen cyd-drafod neu mae gofynion technegol heriol o ran materion cyfreithiol neu dansgrifennu cymhleth neu oblygiadau ariannol sylweddol.

Mae'r safon yn ymwneud â nodi polisïau y mae'n bryd eu hadnewyddu a gwirio'r dogfennau yn erbyn gwybodaeth a dderbyniwyd gan yr yswirwyr. Byddwch yn datrys unrhyw anawsterau sy'n gysylltiedig â'r adnewyddiad, megis lle bu newidiadau sylweddol i'r telerau neu'r premiymau, neu lle bu newidiadau i'r risg, a byddwch yn darparu'r opsiwn gorau i'ch cwsmer. Byddwch yn gofyn i'r cwsmer am unrhyw ddogfennaeth neu wybodaeth sy'n angenrheidiol i brosesu'r adnewyddiad. Byddwch yn anfon unrhyw ddogfennaeth neu wybodaeth ofynnol at yr yswirwyr i brosesu'r adnewyddiad, ac yn gwirio cynnydd yr adnewyddiad er mwyn sicrhau nad oes oedi. Byddwch yn gwirio cywirdeb y dogfennau adnewyddu ac yn datrys unrhyw elfennau sy'n anghywir neu'n amwys, gan ryddhau'r dogfennau ar ôl dod i gytundeb ynghylch taliad. Bydd angen i chi gyflwyno gwybodaeth yn glir ac yn gryno.

Bydd y safon hon yn addas i chi dim ond os ydych chi'n gweithio i gwmni sy'n ganolwr ac yn delio gydag adnewyddiadau cymhleth.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. Nodi adnewyddiadau sydd i ddod o fewn y terfynau amser sy'n ofynnol gan eich sefydliad a'r rheoleiddiwr
  2. Gwneud cais am dystiolaeth ddogfennol neu unrhyw wybodaeth sy'n ofynnol, a'i storio'n ddiogel yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  3. Datrys anawsterau sy'n gysylltiedig â'r adnewyddiad yn unol â chytundebau busnes, gofynion cyfreithiol, ac oddi mewn i derfynau eich awdurdod
  4. Cyfeirio unrhyw sefyllfaoedd y tu allan i lefel eich awdurdod at y bobl neu'r adrannau priodol, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  5. Adnabod unrhyw nodweddion sy'n dangos y dylid tansgrifennu o'r newydd, a phenderfynu a ddylid ailfrocera'r risgiau pan fo hynny'n briodol
  6. Monitro cynnydd adnewyddiadau a delio gydag unrhyw oedi, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  7. Datrys unrhyw elfennau anghywir neu amwys mewn dogfennau neu wybodaeth adnewyddu, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  8. Anfon y dogfennau adnewyddu at gwsmeriaid o fewn yr amser sy'n ofynnol, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  9. Gwneud cais am gyfarwyddiadau adnewyddu gan gwsmeriaid, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  10. Trefnu i ryddhau dogfennau adnewyddu pan gytunwyd ar y trefniadau ar gyfer talu
  11. Esbonio'n eglur unrhyw oedi wrth gwblhau'r adnewyddiad a chymryd camau priodol, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  12. Cadw cofnodion cywir a chyflawn ar gyfer pob cam, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  13. Cydymffurfio â gofynion cydymffurfio cyfreithiol a rheoliadol, rheoliadau'r diwydiant, polisïau sefydliadol a chodau ymarfer proffesiynol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. Egwyddorion a rheoliadau yswiriant a chyfreithiol perthnasol sy'n effeithio ar eich gweithgareddau
  2. Strwythur y farchnad yswiriant a rolau a chyfrifoldebau'r amrywiol bartïon sy'n rhan ohoni sy'n effeithio ar eich gweithgareddau
  3. Cwmpas y polisi, y telerau a'r amodau sy'n berthnasol i'ch gwaith, gan gynnwys estyniadau a chyfyngiadau safonol ac ansafonol
  4. Gweithdrefnau gwasanaeth cwsmeriaid eich sefydliad, gan gynnwys delio gyda chwynion
  5. Polisi a gweithdrefnau eich sefydliad ynghylch cyfathrebu â chwsmeriaid
  6. Dulliau talu a gynigir gan eich sefydliad, gan gynnwys cyfleusterau credyd a rhandaliadau
  7. Sut mae cyfrifo premiymau gan ddefnyddio systemau wedi'u hawtomeiddio ac â llaw
  8. Gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer cysylltu â thansgrifenwyr
  9. Terfynau eich awdurdod a'r camau sy'n ofynnol pan fydd adnewyddiad yn syrthio y tu allan i'r terfynau hynny
  10. Systemau a gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer cyrchu, cofnodi a newid gwybodaeth
  11. Yr wybodaeth a ddylai gael ei chyflenwi gan gleientiaid i'ch galluogi i brosesu adnewyddiadau
  12. Sut mae defnyddio canllawiau graddio neu systemau cyfrifiadurol i gyfrifo premiymau
  13. Gofynion eich sefydliad yng nghyswllt cymhwyso codau, cyfreithiau a gofynion rheoliadol sy'n cael effaith ar eich gweithgareddau

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau

  1. Rydych yn arddangos dealltwriaeth o bobl eraill ac yn delio gyda nhw mewn modd proffesiynol
  2. Rydych yn gwerthuso sefyllfaoedd a gwybodaeth yn effeithiol ac yn gwneud penderfyniadau priodol
  3. Rydych yn defnyddio gwybodaeth yn effeithiol, yn effeithlon ac er lles pennaf y cleient
  4. Rydych yn mabwysiadu agwedd ymchwilgar i gasglu manylion gofynnol sy'n hanfodol i'ch gwaith
  5. Rydych yn cyd-drafod yn effeithiol

Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Maw 2022

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Partneriaeth Sgiliau Ariannol

URN gwreiddiol

FSPGI15

Galwedigaethau Perthnasol

Cyllid

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Hawliad yswiriant; polisi yswiriant; polisïau; hawliad; hawlydd; setliad; wedi'i yswirio; heb ei yswirio; hysbysiad