Prosesu newidiadau uniongyrchol ganol tymor i yswiriant
URN: FSPGI13
Sectorau Busnes (Suites): Yswiriant Cyffredinol
Datblygwyd gan: Skills for Justice
Cymeradwy ar:
01 Maw 2017
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â phrosesu trefniadau yswiriant uniongyrchol ganol tymor. Bydd eich gwaith yn cynnwys prosesu a chwblhau newidiadau uniongyrchol i yswiriant. Mae'r safon hon yn cwmpasu gwaith canolwr pan fydd cwsmer yn dymuno newid polisi. Ar ôl casglu'r wybodaeth, cyflwynir y manylion i'r tansgrifenwyr os bydd angen, a byddwch chi'n rheoli'r broses o newid. Yna gwneir trefniadau i addasu'r premiwm a chyflwyno dogfennau sy’n cynnwys y newidiadau i'r cwsmer. Bydd angen i chi gyflwyno gwybodaeth yn glir ac yn gryno.
Bydd y
safon hon yn addas i chi dim ond os ydych chi'n gweithio i ganolwr.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Casglu gwybodaeth sy'n ofynnol i symud ymlaen gyda newidiadau, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Egluro unrhyw wybodaeth sy'n aneglur a chasglu gwybodaeth ychwanegol lle bo angen
- Cyfeirio unrhyw sefyllfaoedd y tu allan i lefel eich awdurdod at y bobl neu'r adrannau priodol, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Cyfleu gwybodaeth gywir a chyflawn ynghylch addasiadau i yswirwyr neu dansgrifenwyr, yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
- Adnabod unrhyw nodweddion sy'n dangos y dylid tansgrifennu o'r newydd, a phenderfynu a ddylid ailfrocera'r risg
- Sicrhau eglurhad gan gwsmeriaid ynghylch unrhyw gwestiynau a godwyd gan yr yswirwyr a throsglwyddo'r wybodaeth yn ôl i'r yswirwyr
- Rhoi gwybodaeth gywir i gwsmeriaid sy'n diwallu eu gofynion ac yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
- Monitro cynnydd addasiadau a delio gydag unrhyw oedi lle bo hynny'n briodol, yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
- Gwneud trefniadau ar gyfer unrhyw addasiad i'r premiwm, yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
- Trefnu i gyfwyno dogfennau sy'n cynnwys y newidiadau i gwsmeriaid o fewn yr amser gofynnol, ar ôl gwirio am anghysondebau a'u cywiro
- Cadw cofnodion cywir a chyflawn ar gyfer pob cam, yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
- Cydymffurfio â gofynion cydymffurfio cyfreithiol a rheoliadol, rheoliadau'r diwydiant, polisïau sefydliadol a chodau ymarfer proffesiynol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Egwyddorion a rheoliadau yswiriant a chyfreithiol perthnasol sy'n effeithio ar eich gweithgareddau
- Strwythur y farchnad yswiriant a rolau a chyfrifoldebau'r amrywiol bartïon sy'n rhan ohoni sy'n effeithio ar eich gweithgareddau
- Cwmpas y polisi, y telerau a'r amodau sy'n berthnasol i'ch gwaith, gan gynnwys estyniadau neu gyfyngiadau safonol
- Safonau a gweithdrefnau gwasanaeth eich sefydliad, gan gynnwys delio gyda chwynion
- Polisi a gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer cyfathrebu â chwsmeriaid
- Sut mae defnyddio canllawiau graddio neu systemau cyfrifiadurol i gyfrifo premiymau
- Gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer addasu polisi safonol, gan gynnwys unrhyw wybodaeth hanfodol gysylltiedig sy'n ofynnol gan y cwsmer
- Terfynau eich awdurdod a'r camau sy'n ofynnol pan fydd newid yn syrthio y tu allan i'r terfynau hynny
- Terfynau eich awdurdod eich hun a'r camau sy'n ofynnol os bydd addasiad y tu hwnt i'r terfynau hynny
- Systemau a gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer cyrchu, cofnodi a newid gwybodaeth
- Gofynion eich sefydliad yng nghyswllt cymhwyso codau, cyfreithiau a gofynion rheoliadol sy'n cael effaith ar eich gweithgareddau
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
- Rydych yn defnyddio gwybodaeth yn effeithiol, yn effeithlon ac er lles pennaf eich cleient
- Rydych yn mabwysiadu agwedd ymchwilgar i gasglu manylion gofynnol sy'n hanfodol i'ch gwaith
- Rydych yn arddangos dealltwriaeth o bobl eraill ac yn delio gyda nhw mewn modd proffesiynol
- Rydych yn dangos dealltwriaeth glir o ofynion ac anghenion gwahanol gwsmeriaid
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
01 Maw 2022
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Partneriaeth Sgiliau Ariannol
URN gwreiddiol
FSPGI13
Galwedigaethau Perthnasol
Cyllid
Cod SOC
Geiriau Allweddol
Hawliad yswiriant; polisi yswiriant; polisïau; hawliad; hawlydd; setliad; wedi'i yswirio; heb ei yswirio; hysbysiad