Prosesu adnewyddiadau yswiriant uniongyrchol fel canolwr
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â phrosesu adnewyddiadau yswiriant uniongyrchol fel canolwr. Bydd eich gwaith yn cynnwys prosesu a chwblhau adnewyddiadau. Byddwch yn prosesu'r polisïau y mae'n bryd eu hadnewyddu, gan gydymffurfio â'r rheoliadau cyfredol. Byddwch yn asesu a oes angen chwilio am ddyfynbris amgen ar gyfer y cwsmer neu beidio. Anfonir y gwahoddiad i adnewyddu at y cwsmer unwaith y byddwch wedi derbyn unrhyw wybodaeth neu ddogfennaeth sy'n angenrheidiol i symud ymlaen gyda'r adnewyddiad. Yna byddwch yn monitro cynnydd yr adnewyddiad, gan sicrhau nad oes oedi yn y broses. Byddwch yn gwirio bod y dogfennau adnewyddu yn gywir ac yn eu rhyddhau ar ôl dod i gytundeb ynghylch taliad. Bydd angen i chi gyflwyno gwybodaeth yn glir ac yn gryno.
Bydd y safon hon yn addas i chi dim ond os ydych chi'n gweithio i gwmni sy'n ganolwr, sy'n delio gydag adnewyddiadau uniongyrchol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Delio gydag adnewyddiadau fel yr awdurdodwyd gan eich sefydliad
- Dechrau delio gydag adnewyddiadau sydd ar droed o fewn y terfynau amser sy'n ofynnol gan eich cyflogwr a'r rheoleiddiwr
- Casglu gwybodaeth sy'n ofynnol i symud ymlaen gydag adnewyddiadau, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Egluro unrhyw wybodaeth sy'n aneglur a chasglu gwybodaeth ychwanegol lle bo angen
- Adnabod unrhyw nodweddion sy'n dangos y dylid tansgrifennu o'r newydd, a phenderfynu a ddylid ailfrocera'r risg
- Cyfeirio sefyllfaoedd y tu allan i lefel eich awdurdod at y bobl neu'r adrannau priodol, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Datrys unrhyw gwestiynau ynghylch dogfennaeth adnewyddu, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Gwneud cais am unrhyw ddogfennaeth neu wybodaeth sy'n ofynnol a'u storio'n ddiogel, yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
- Trefnu bod dogfennau priodol yn cael eu dosbarthu i gwsmeriaid o fewn y terfynau amser sy'n ofynnol gan y rheoleiddwyr ac yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Gwneud cais am gyfarwyddiadau adnewyddu gan eich cwsmer
- Monitro cynnydd adnewyddiadau a delio gydag unrhyw oedi, yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
- Trefnu i ryddhau dogfennau adnewyddu pan gytunwyd ar y trefniadau ar gyfer talu
- Cadw cofnodion cywir a chyflawn, yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
- Cydymffurfio â gofynion cydymffurfio cyfreithiol a rheoliadol, rheoliadau'r diwydiant, polisïau sefydliadol a chodau proffesiynol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Egwyddorion yswiriant a chyfreithiol perthnasol a rheoliadau sy'n effeithio ar eich gweithgareddau
- Strwythur y farchnad yswiriant a rolau a chyfrifoldebau'r amrywiol bartïon sy'n rhan ohoni sy'n effeithio ar eich gweithgareddau
- Cwmpas y polisi, y telerau a'r amodau sy'n berthnasol i'ch gwaith, gan gynnwys estyniadau neu gyfyngiadau safonol
- Ffynonellau gwybodaeth a chyngor o fewn eich sefydliad sy'n berthnasol i adnewyddiadau
- Terfynau eich awdurdod a'r camau sy'n ofynnol pan fydd adnewyddiad yn syrthio y tu allan i'r terfynau hynny
- Safonau a gweithdrefnau gwasanaeth eich sefydliad, gan gynnwys y rhai ar gyfer delio gyda chwynion
- Systemau a gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer cyrchu, cofnodi a newid gwybodaeth
- Polisi a gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer cyfathrebu â chwsmeriaid
- Terfynau eich awdurdod eich hun a'r camau sy'n ofynnol os bydd adnewyddiad y tu hwnt i'r terfynau hynny
- Sut mae defnyddio canllawiau graddio a systemau cyfrifiadurol i gyfrifo premiymau
- Yr wybodaeth a ddylai gael ei chyflenwi gan gleientiaid i'ch galluogi i brosesu adnewyddiadau
- Gofynion eich sefydliad yng nghyswllt cymhwyso codau, cyfreithiau a gofynion rheoliadol sy'n cael effaith ar eich gweithgareddau
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
- Rydych yn defnyddio gwybodaeth yn effeithiol, yn effeithlon ac er lles pennaf y cleient
- Rydych yn mabwysiadu agwedd ymchwilgar i gasglu manylion gofynnol sy'n hanfodol i'ch gwaith