Prosesu busnes yswiriant uniongyrchol fel canolwr
URN: FSPGI11
Sectorau Busnes (Suites): Yswiriant Cyffredinol
Datblygwyd gan: Skills for Justice
Cymeradwy ar:
2017
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â phrosesu busnes yswiriant uniongyrchol fel canolwr. Bydd eich gwaith yn cynnwys prosesu ceisiadau am yswiriant a gwneud y trefniadau terfynol ar gyfer hynny. Ar ôl i ddyfynbris gael ei dderbyn, cyflwynir manylion i'r tansgrifenwyr, ac fel canolwr, chi sy'n rheoli'r broses busnes newydd. Yna gwneir trefniadau i dalu'r premiwm a chyflwyno'r dogfennau polisi i'r cwsmer.
Bydd y safon hon yn addas i chi dim ond os ydych chi'n gweithio i ganolwr ac yn delio gyda busnes newydd uniongyrchol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Lleoli risgiau o fewn lefel gytunedig eich cyfrifoldeb, yr awdurdod a roddwyd gan y cwsmer a chanllawiau eich cyflogwr
- Cyfeirio unrhyw sefyllfaoedd neu faterion y tu allan i lefel eich awdurdod at y bobl neu'r adrannau priodol, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Cyflwyno manylion i yswirwyr mewn modd a chan gadw at amserlen sy'n unol â gweithdrefnau sefydliadol
- Hysbysu cwsmeriaid ynghylch y telerau a'r yswiriant a ddarperir, yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
- Prosesu cynigion ar gyfer busnes newydd a chasglu unrhyw wybodaeth a dogfennaeth ategol perthnasol sy'n ofynnol
- Nodi a datrys unrhyw anghysondebau yn yr wybodaeth a ddarparwyd, yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
- Cadw gwybodaeth yn gyfrinachol, yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
- Prosesu taliadau'n gywir, yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
- Sicrhau bod y dogfennau yswirio yn gywir, yn ddarllenadwy ac yn bodloni gofynion cyfreithiol a rheoliadol
- Cyflwyno dogfennau yswiriant i gwsmeriaid, yn unol â pholisi eich cyflogwr
- Llunio cofnodion cywir a chyflawn ar hyd y broses, yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
- Cydymffurfio â gofynion cydymffurfio cyfreithiol a rheoliadol, rheoliadau'r diwydiant, polisïau sefydliadol a chodau ymarfer proffesiynol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Egwyddorion a rheoliadau yswiriant a chyfreithiol perthnasol sy'n effeithio ar eich gweithgareddau
- Strwythur y farchnad yswiriant a rolau a chyfrifoldebau'r amrywiol bartïon sy'n rhan ohoni sy'n effeithio ar eich gweithgareddau
- Gweithdrefnau gwasanaeth cwsmeriaid eich sefydliad, gan gynnwys y rhai ar gyfer delio gyda chwynion
- Polisi a gweithdrefnau eich sefydliad ynghylch cyfathrebu â chwsmeriaid
- Dulliau talu a gynigir gan eich sefydliad, gan gynnwys cyfleusterau credyd a rhandaliadau
- Gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer cysylltu â thansgrifenwyr
- Y gweithdrefnau priodol ar gyfer atgyfeirio a chyngor
- Cwmpas y polisi, y telerau a'r amodau sy'n berthnasol i'ch gwaith, gan gynnwys estyniadau neu gyfyngiadau safonol
- Terfynau eich awdurdod a'r camau sy'n ofynnol pan fydd sefyllfa'n syrthio y tu allan i'r terfynau hynny
- Systemau a gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer cyrchu, cofnodi a newid gwybodaeth
- Yr wybodaeth a ddylai gael ei chyflenwi gan gleientiaid i'ch galluogi i brosesu busnes newydd
- Nodweddion busnes newydd sy'n galw am ymchwilio gan yswirwyr
- Ffynonellau gwybodaeth a chyngor
- Gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer gwirio a chywiro polisïau a dogfenau cysylltiedig
- Gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer delio gyda busnes newydd lle mae'r yswiriant yn dibynnu ar dderbyn amodau
- Gofynion eich sefydliad yng nghyswllt cymhwyso codau, cyfreithiau a gofynion rheoliadol sy'n cael effaith ar eich gweithgareddau
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
- Rydych yn defnyddio gwybodaeth yn effeithiol, yn effeithlon ac er lles pennaf y cleient
- Rydych yn arddangos dealltwriaeth o bobl eraill ac yn delio gyda nhw mewn modd proffesiynol
- Rydych yn nodi anghenion gwybodaeth pobl eraill
- Rydych yn defnyddio arddulliau cyfathrebu sy'n briodol ar gyfer gwahanol bobl a sefyllfaoedd
- Rydych yn cyflawni tasgau gan roi sylw dyledus i bolisïau a gweithdrefnau eich sefydliad
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
2022
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Partneriaeth Sgiliau Ariannol
URN gwreiddiol
FSPGI11
Galwedigaethau Perthnasol
Cyllid
Cod SOC
Geiriau Allweddol
Hawliad yswiriant; polisi yswiriant; polisïau; hawliad; hawlydd; setliad; wedi'i yswirio; heb ei yswirio; hysbysiad