Gwerthuso cynnyrch a gwasanaethau yswiriant
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â gwerthuso cynnyrch neu wasanaeth a gynigir gan eich sefydliad a chymharu hynny ag eraill sydd ar gael yn y farchnad. Mae hefyd yn golygu nodi yswiriant a phremiymau mae eich sefydliad yn eu cynnig a allai fod yn berthnasol neu beidio i anghenion cwsmeriaid, bylchau yn y cynnyrch a'r gwasanaethau a gynigir gan eich sefydliad, ac unrhyw newidiadau i'r farchnad neu i anghenion eich cwsmeriaid. Ar ôl gwneud eich gwerthusiad, byddwch chi'n paratoi eich argymhellion ar gyfer gwella cynnyrch neu wasanaeth a gynigir gan eich sefydliad, ac yn cyflwyno'r rhain i'r person priodol. Bydd angen i chi ymfalchïo mewn darparu gwaith o ansawdd uchel a chyflwyno gwybodaeth yn glir ac yn gryno.
Mae'n bosibl y bydd y safon hon yn addas i chi os yw'r cwmni yr ydych yn gweithio fel rhan ohono'n ganolwr, yn yswiriwr, neu'n sefydliad sy'n gweithio ar eu rhan.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Casglu ac asesu gwybodaeth briodol i werthuso cynnyrch neu wasanaeth, yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
- Nodi a gwerthuso nodweddion, manteision a phrisiau'r cynnyrch neu'r gwasanaethau a gynigir gan eich sefydliad o'u cymharu ag eraill sydd ar gael yn y farchnad
- Nodi unrhyw yswiriant a phremiymau y mae eich sefydliad yn eu cynnig nad ydynt o reidrwydd yn berthnasol i anghenion cwsmeriaid
- Nodi unrhyw newidiadau neu dueddiadau yn y farchnad neu anghenion eich cwsmeriaid sy'n galw am newidiadau i gynnyrch neu wasanaethau
- Nodi a gwerthuso bylchau yn y cynnyrch a'r gwasanaethau a gynigir gan eich sefydliad
- Dadansoddi gwybodaeth ynghylch cynnyrch a gwasanaethau a dod i gasgliadau ynghylch y cynnyrch a'r gwasanaethau rydych chi'n eu cynnig
- Paratoi argymhellion ar gyfer gwella cynnyrch a gwasanaethau a'u cefnogi â thystiolaeth ddigonol a dilys
- Cyflwyno eich argymhellion i'r bobl briodol, gan esbonio'r nodweddion, y manteision ac unrhyw anfanteision neu risgiau
- Cydymffurfio â gofynion cydymffurfio cyfreithiol a rheoliadol, rheoliadau'r diwydiant, polisïau sefydliadol a chodau ymarfer proffesiynol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Egwyddorion a rheoliadau yswiriant a chyfreithiol perthnasol sy'n effeithio ar eich gweithgareddau
- Strwythur y farchnad yswiriant a rolau a chyfrifoldebau'r amrywiol bartïon sy'n rhan ohoni sy'n effeithio ar eich gweithgareddau
- Ffynonellau gwybodaeth a chyngor
- Sut mae canfod tueddiadau a newidiadau posibl yn y farchnad neu yn anghenion cwsmeriaid
- Sut mae canfod bylchau yn y cynnyrch a'r gwasanaethau a gynigir gan eich sefydliad
- Sut mae dadansoddi gwybodaeth i ddod i gasgliadau a llunio argymhellion
- Terfynau eich awdurdod
- Eich rôl gwaith a'r cyfrifoldebau sydd arnoch yn sgîl hynny
- Gofynion eich sefydliad yng nghyswllt cymhwyso codau, cyfreithiau a gofynion rheoliadol sy'n cael effaith ar eich gweithgareddau
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
- Rydych yn adnabod newidiadau i amgylchiadau ac yn cymryd y rhain i ystyriaeth
- Rydych yn mabwysiadu agwedd ymchwilgar i gasglu manylion gofynnol sy'n hanfodol i'ch gwaith
- Rydych yn rheoli perthnasoedd busnes ac yn cynnal rhwydweithiau effeithiol
- Rydych yn gweithio mewn modd sy'n gwella ac yn hybu perthnasoedd gwaith proffesiynol
- Rydych yn gwrando'n weithredol ac yn gofyn cwestiynau i sicrhau dealltwriaeth ac eglurder