Cytuno ar setliad hawliadau uniongyrchol am golledion oedd heb eu hyswirio
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â chytuno ar setliad ar gyfer hawliadau uniongyrchol colledion heb eu hyswirio. Bydd eich gwaith yn cynnwys cwblhau colledion heb eu hyswirio. Byddwch yn cynorthwyo cwsmeriaid i adennill colledion heb eu hyswirio. Byddwch yn gwirio bod gennych chi'r holl ddogfennaeth neu wybodaeth ofynnol i ddelio gyda'r elfen o'r hawliad sy'n ymdrin â cholled heb ei yswirio. Byddwch yn mynd ar ôl eraill, fel sy'n angenrheidiol, i sicrhau bod adennill yn digwydd. Bydd angen hefyd i chi gyflwyno gwybodaeth yn glir ac yn gryno a rhoi sylw i fanylion sy'n hollbwysig i'ch gwaith.
Mae'n bosibl y bydd y safon hon yn addas i chi os ydych chi'n gweithio i yswiriwr costau cyfreithiol, neu unrhyw sefydliad sy'n ymwneud â chytuno ar setliad ar gyfer colledion uniongyrchol heb eu hyswirio.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Nodi a chasglu'r wybodaeth y bydd ei hangen arnoch i gytuno ar setliad ar gyfer yr hawliad
- Gwirio bod hawliadau yn cael eu llunio a'u cyflwyno i drydydd partïon yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
- Monitro cynnydd hawliadau a delio gydag unrhyw oedi, yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
- Cyfeirio problemau a hawliadau sydd y tu allan i lefelau eich awdurdod at y person neu'r adran yn eich sefydliad sy'n briodol
- Cyd-drafod ag eraill i ddatrys problemau a chwblhau hawliadau er lles pennaf eich cleient ac yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Trefnu i setlo hawliadau, yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
- Ymdrin ag unrhyw broblemau neu gwynion sy'n gysylltiedig â hawliadau, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Cadw cofnodion cywir a chyflawn, yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
- Cydymffurfio â gofynion cydymffurfio cyfreithiol a rheoliadol, rheoliadau'r diwydiant, polisïau sefydliadol a chodau ymarfer proffesiynol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Egwyddorion a rheoliadau yswiriant a chyfreithiol perthnasol sy'n effeithio ar eich gweithgareddau
- Strwythur y farchnad yswiriant a rolau a chyfrifoldebau'r amrywiol bartïon sy'n rhan ohoni sy'n effeithio ar eich gweithgareddau
- Cwmpas y polisi, y telerau a'r amodau sy'n berthnasol i'ch gwaith, gan gynnwys estyniadau, taliadau ychwanegol neu gyfyngiadau safonol
- Ffynonellau gwybodaeth a chyngor ar gyfer delio gyda hawliadau cymhleth a cholledion heb eu hyswirio
- Terfynau eich awdurdod a'r camau sy'n ofynnol pan fydd hawliadau'n syrthio y tu allan i'r terfynau hynny
- Gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer delio gyda cholledion heb eu hyswirio
- Gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer cofnodi sut setlwyd hawliadau
- Systemau a gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer cyrchu, cofnodi a newid gwybodaeth
- Gweithdrefnau gwasanaeth cwsmeriaid eich sefydliad, gan gynnwys y rhai ar gyfer delio gyda chwynion
- Rolau a swyddogaethau partïon eraill sy'n ymwneud â hawliadau
- Y dogfennau neu'r wybodaeth sy'n ofynnol i brosesu hawliad
- Gofynion eich sefydliad yng nghyswllt cymhwyso codau, cyfreithiau a gofynion rheoliadol sy'n cael effaith ar eich gweithgareddau
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
- Rydych yn gweithredu oddi mewn i derfynau eich cyfrifoldeb
- Rydych yn arddangos dealltwriaeth o bobl eraill ac yn delio gyda nhw mewn modd proffesiynol
- Rydych yn defnyddio arddulliau cyfathrebu sy'n briodol ar gyfer gwahanol bobl a sefyllfaoedd