Setlo hawliadau yswiriant cymhleth
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â setlo hawliadau yswiriant cymhleth. Mae hawliadau'n gymhleth pan na fyddant yn fater o drefn ac nad oes modd delio gyda nhw'n fecanyddol, er enghraifft, pan fydd hawliad yn galw am gyd-drafod neu'n dechnegol heriol. Byddwch yn mynd ar ôl unrhyw adenillion posibl ac yn rhoi diweddariad i bartïon eraill â diddordeb yn unol â'r gofyn. Byddwch yn cyd-drafod yr hawliad yn ôl y ffeithiau a'r amgylchiadau dan sylw. Byddwch yn cytuno ar ffigur setliad terfynol, gan sicrhau bod yr hawliad wedi'i ryddhau'n ffurfiol oddi wrth yr hawlydd, lle bo angen hynny, ac yn trefnu i dalu'r setliad terfynol. Bydd angen i chi roi sylw i fanylion sy'n hollbwysig i'ch gwaith.
Mae'n bosibl y bydd y safon hon yn addas i chi os ydych chi'n gweithio i yswiriwr, canolwr neu sefydliad arall sydd ag awdurdod i setlo hawliadau cymhleth.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Casglu'r holl wybodaeth angenrheidiol i asesu'r hawliad, yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
- Asesu atebolrwydd a chwantwm yr iawndal ar sail yr wybodaeth a gafwyd, yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
- Cyfeirio unrhyw sefyllfaoedd y tu allan i'ch awdurdod at y person neu'r adran sy'n briodol
- Cymryd camau lle ceir amheuon ynghylch twyll neu dwyll posibl, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Gwneud penderfyniadau hyd at derfyn eich awdurdod cytunedig
- Gwerthuso materion a gwneud penderfyniadau yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
- Gwneud cais am wybodaeth neu ddogfennau sydd ar goll, yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
- Darparu gwybodaeth gywir a chyfarwyddiadau i arbenigwyr priodol, yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
- Gwerthuso'r opsiynau o ran mynd ar ôl amnewidiad a hawliau adennill, a chymryd y camau priodol, yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
- Darparu gwybodaeth wedi'i diweddaru i bartïon â diddordeb, yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
- Cyd-drafod atebolrwydd neu gwantwm iawndal hyd at lefel eich awdurdod ac yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
- Prosesu setliad terfynol a rhoi gwybod i bartïon â diddordeb, yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
- Trefnu bod setliadau'n cael eu cwblhau o fewn yr amserau y cytunwyd arnynt, yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
- Cadw cofnodion cywir a chyflawn, yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
- Adolygu canlyniadau unrhyw ymchwiliadau ynghylch atebolrwydd a chwantwm hawliadau, ac asesu eu heffaith ar setlo hawliadau
- Ystyried a yw cyfryngu'n briodol a gwneud yr argymhellion yn sgîl hynny ynghylch unrhyw gamau cysylltiedig, lle bo hynny'n berthnasol
- Adolygu'r ffactorau sy'n creu'r gronfa a neilltuwyd ar gyfer hawliadau, gan gymryd camau i sicrhau bod cronfeydd cywir wrth gefn yn cael eu cynnal lle bo hynny'n berthnasol
- Cydymffurfio â gofynion cydymffurfio cyfreithiol a rheoliadol, rheoliadau'r diwydiant, polisïau sefydliadol a chodau ymarfer proffesiynol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Egwyddorion a rheoliadau yswiriant a chyfreithiol perthnasol sy'n effeithio ar eich gweithgareddau
- Strwythur y farchnad yswiriant a rolau a chyfrifoldebau'r amrywiol bartïon sy'n rhan ohoni sy'n effeithio ar eich gweithgareddau
- Cwmpas y polisi, y telerau a'r amodau sy'n berthnasol i'ch gwaith, gan gynnwys estyniadau neu gyfyngiadau safonol ac ansafonol
- Gweithdrefnau gwasanaeth cwsmeriaid eich sefydliad, gan gynnwys y rhai ar gyfer delio gyda chwynion
- Gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer cofnodi sut setlwyd hawliadau
- Arferion amcanbrisio eich sefydliad
- Rolau a swyddogaethau partïon eraill sy'n ymwneud â hawliadau
- Ffynonellau cyngor a gwybodaeth
- Terfynau eich awdurdod a'r camau sy'n ofynnol pan fydd hawliadau'n syrthio y tu allan i'r terfynau hynny
- Effaith llithriad wrth dalu hawliadau ar yswirwyr
- Dulliau o asesu ac ymchwilio i hawliadau, a'r adnoddau sydd gan eich sefydliad i gynnal y gweithgareddau hyn
- Gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer ymdrin â hawliadau brys
- Systemau a gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer cyrchu, cofnodi a newid gwybodaeth
- Gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer hawliadau yr adroddir amdanynt yn hwyr
- Gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer setlo hawliadau
- Y ffynonellau awdurdodedig y mae eu hangen o ran gwybodaeth, cyflenwi neu atgyweirio i setlo hawliadau
- Pwysigrwydd dyrannu codau achos cywir a dyddiadau digwyddiadau
- Yr opsiynau sydd ar gael ar gyfer setlo hawliadau
- Pwysigrwydd adolygu cynseiliau cyfreithiol a sut maen nhw'n effeithio ar ymdrin â hawliadau
- Egwyddorion cyd-drafod effeithiol a'r ffactorau allai fod yn destun cyd-drafod wrth setlo hawliadau yswiriant
- Gofynion eich sefydliad yng nghyswllt cymhwyso codau, cyfreithiau a gofynion rheoliadol sy'n cael effaith ar eich gweithgareddau
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
- Rydych yn defnyddio gwybodaeth yn effeithiol, yn effeithlon ac yn foesegol
- Rydych yn arddangos dealltwriaeth o bobl eraill ac yn delio gyda nhw mewn modd proffesiynol
- Rydych yn wyliadwrus ynghylch risgiau posibl
- Rydych yn cadw gwybodaeth yn gyfrinachol ac yn ddiogel, gan ei datgelu dim ond i'r rhai sydd wedi'u hawdurdodi i'w derbyn
- Rydych yn cyd-drafod yn effeithiol
- Rydych yn arddangos uniondeb, tegwch a chysondeb yn yr asesiadau a'r penderfyniadau a wnewch
- Rydych yn gwrando'n weithredol, yn gofyn cwestiynau, yn egluro pwyntiau, ac yn gwirio am ddealltwriaeth o'r ddeutu
- Rydych yn cyflwyno syniadau anodd a phroblemau mewn ffyrdd sy'n hybu dealltwriaeth
- Rydych yn canolbwyntio ar dystiolaeth ffeithiol wrth ystyried dadleuon