Cynnal asesiad cychwynnol ac ymchwilio i hawliadau yswiriant cymhleth
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â chynnal asesiadau cychwynol ac ymchwilio i hawliadau yswiriant cymhleth. Mae hawliadau'n gymhleth pan na fyddant yn fater o drefn ac nad oes modd delio gyda nhw'n fecanyddol, er enghraifft, pan fydd hawliad yn galw am gyd-drafod neu'n dechnegol heriol. Byddwch yn asesu a yw'r hawliad yn ddilys ac yn diarddel hawliadau na ddylid eu cyflawni. Byddwch yn nodi'r holl delerau, amodau a gwarantau polisi perthnasol. Byddwch yn nodi'r atebolrwydd posibl ac yn rhoi gwybod i unrhyw bartïon â diddordeb. Byddwch yn cychwyn ymholiadau ynghylch atebolrwydd, neu gwantwm iawndal, ac yn rhoi rhybudd i unrhyw bartïon y gellid adennill oddi wrthynt o bosibl. Bydd angen i chi roi sylw i fanylion sy'n hollbwysig i'ch gwaith a chyflwyno gwybodaeth yn glir ac yn gryno.
Mae'n bosibl y bydd y safon hon yn addas i chi os ydych chi'n gweithio i yswiriwr, canolwr neu sefydliad arall sydd ag awdurdod i setlo hawliadau cymhleth.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Llunio asesiad cychwynnol o ddilysrwydd hawliadau, hyd at derfyn eich awdurdod
- Cyfeirio unrhyw sefyllfaoedd y tu allan i'ch awdurdod at y person neu'r adran sy'n briodol
- Anfon yr ohebiaeth neu'r dogfennau priodol yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Nodi a gwneud cais am wybodaeth neu ddogfennau sydd ar goll, yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
- Casglu'r wybodaeth sy'n ofynnol i asesu atebolrwydd neu gwantwm posibl, gan ddefnyddio arbenigwyr lle bo hynny'n briodol, yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
- Paratoi, adolygu a diweddaru cronfeydd a neilltuwyd ar gyfer hawliadau, yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
- Hysbysu unrhyw bartïon â diddordeb ynghylch cynnydd hawliadau, yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
- Datrys anawsterau neu anghysondebau sy'n gysylltiedig â hawliadau er lles pennaf cwsmeriaid, yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
- Nodi'r holl delerau ac amodau a all fod yn berthnasol i hawliadau
- Cymryd camau lle byddwch yn canfod rheswm dros ddiarddel hawliad, gan gynnwys darparu dogfennau perthnasol yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
- Adnabod nodweddion a allai fod yn niweidiol mewn hawliadau, a'u hatgyfeirio i'r person priodol, yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
- Darparu cyfarwyddiadau manwl i'r partïon perthnasol ynghylch symud hawliadau ymlaen, yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
- Cymryd camau lle ceir amheuon ynghylch twyll neu dwyll posibl, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Cadw cofnodion cywir a chyflawn bob amser, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Monitro a chynnal cynnydd yng nghyswllt hawliadau, gan gymryd camau i sicrhau y cedwir at y terfynau amser gofynnol, yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
- Darparu gwybodaeth addas ynghylch symud hawliadau ymlaen i'r holl bartïon perthnasol, yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
- Cydymffurfio â gofynion cydymffurfio cyfreithiol a rheoliadol, rheoliadau'r diwydiant, polisïau sefydliadol a chodau ymarfer proffesiynol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Egwyddorion a rheoliadau yswiriant a chyfreithiol perthnasol sy'n effeithio ar eich gweithgareddau
- Strwythur y farchnad yswiriant a rolau a chyfrifoldebau'r amrywiol bartïon sy'n rhan ohoni sy'n effeithio ar eich gweithgareddau
- Cwmpas y polisi, y telerau a'r amodau sy'n berthnasol i'ch gwaith, gan gynnwys estyniadau neu gyfyngiadau safonol ac ansafonol
- Ffynonellau cyngor a gwybodaeth
- Terfynau eich awdurdod a'r camau sy'n ofynnol pan fydd hawliadau'n syrthio y tu allan i'r terfynau hynny
- Gweithdrefnau gwasanaeth cwsmeriaid eich sefydliad, gan gynnwys y rhai ar gyfer delio gyda chwynion
- Dulliau o asesu ac ymchwilio i hawliadau, a'r adnoddau sydd gan eich sefydliad i gynnal y gweithgareddau hyn
- Gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer ymdrin â hawliadau brys
- Yr egwyddorion a ddefnyddir gan eich sefydliad i amcangyfrif a phennu cronfeydd wrth gefn
- Systemau a gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer cyrchu, cofnodi a newid gwybodaeth
- Cyfraith achosion berthnasol a phrisiadau cwantwm
- Arferion amcanbrisio eich sefydliad
- Effaith llithriad yn symiau hawliadau ar yswirwyr
- Gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer hawliadau yr hysbysir yn eu cylch yn hwyr
- Rolau a swyddogaethau partïon eraill sy'n ymwneud â hawliadau
- Gweithdrefnau ar gyfer delio gyda nodweddion niweidiol y deuir ar eu traws yn ystod y broses hawliadau
- Y camau sydd i'w cymryd gan y sawl a yswiriwyd ar ôl colled
- Y partïon sy'n ymwneud â symud hawliadau yswiriant cymhleth ymlaen, yr wybodaeth mae arnynt ei hangen gennych chi i gyfrannu at sicrhau cynnydd effeithiol, a sut mae darparu'r wybodaeth honno
- Arwyddion twyll mewn hawliad a'r camau sy'n ofynnol
- Gofynion eich sefydliad yng nghyswllt cymhwyso codau, cyfreithiau a gofynion rheoliadol sy'n cael effaith ar eich gweithgareddau
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
- Rydych yn defnyddio gwybodaeth yn effeithiol, yn effeithlon ac yn foesegol
- Rydych yn cadw gwybodaeth yn gyfrinachol ac yn ddiogel, gan ei datgelu dim ond i'r rhai sydd wedi'u hawdurdodi i'w derbyn
- Rydych yn cyd-drafod yn effeithiol
- Rydych yn arddangos dealltwriaeth o bobl eraill ac yn delio gyda nhw mewn modd proffesiynol