Delio gyda hawliadau cymhleth am golledion a yswiriwyd
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â delio gyda hawliadau cymhleth am golledion a yswiriwyd. Bydd eich gwaith yn cynnwys rhoi arweiniad i gwsmeriaid ynghylch hawliadau cymhleth a phrosesu setliadau hawliadau. Mae hawliadau'n gymhleth pan na fyddant yn fater o drefn ac nad oes modd delio gyda nhw'n fecanyddol, er enghraifft, pan fydd hawliad yn galw am gyd-drafod neu'n dechnegol heriol. Yn aml mae angen rhoi arweiniad i gwsmeriaid ynghylch a fydd hawliad yn cael ei dalu'n llawn, a'r camau gorau iddynt eu cymryd, gan gadw mewn cof bod angen cyfyngu cymaint â phosibl ar y golled ac y gallai hawliad effeithio ar eu sefyllfa o ran yswiriant yn y dyfodol. Rhaid casglu manylion yr hawliad a'u cyflwyno i'r yswirwyr neu'r cynrychiolwyr a benodwyd ganddynt, gan gynnwys unrhyw ddogfennau ategol lle bo angen. Byddwch yn gwirio cynnydd yr hawliad, gan ateb unrhyw gwestiynau a godwyd gan yr yswiriwr. Byddwch yn cyd-drafod setliad ac yn hysbysu'r rhai dan sylw ynghylch y canlyniad. Bydd angen i chi gyflwyno gwybodaeth yn glir ac yn gryno.
Mae'n bosibl y bydd y safon hon yn addas i chi os ydych chi'n gweithio mewn unrhyw fath o sefydliad yswiriant sydd heb awdurdod i setlo hawliadau.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Cadarnhau bod hysbysiad yr hawliad yn gywir, yn gyflawn ac wedi'i gofnodi'n gywir, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Gwerthuso amgylchiadau'r hawliad i asesu a yw'n ddilys, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Cyfeirio unrhyw sefyllfaoedd nad ydych wedi'ch awdurdodi i ddelio gyda nhw at y bobl neu'r adrannau priodol, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Esbonio canlyniadau tebygol hawliadau i gwsmeriaid, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Gwirio bod gennych chi ddigon o wybodaeth i gyflwyno hawliadau i yswirwyr, gan wneud cais am unrhyw wybodaeth neu ddogfennau sydd ar goll
- Anfon gohebiaeth neu ddogfennau priodol yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Casglu'r holl wybodaeth neu ddogfennau perthnasol y mae'r yswirwyr yn gofyn amdanynt, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Datrys anawsterau sy'n gysylltiedig â hawliadau yn unol â chytundebau busnes, gofynion cyfreithiol, arferion y farchnad a therfynau eich awdurdod
- Cyd-drafod setlo hawliadau er lles pennaf y cleient, ac yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Trefnu taliad interim lle bo hynny'n briodol, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Dod â hawliadau i ben a rhoi gwybod i'r holl bartïon â diddordeb, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Cadw cofnodion cyflawn a chywir, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Cydymffurfio â gofynion cydymffurfio cyfreithiol a rheoliadol, rheoliadau'r diwydiant, polisïau sefydliadol a chodau ymarfer proffesiynol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Egwyddorion a rheoliadau yswiriant a chyfreithiol perthnasol sy'n effeithio ar eich gweithgareddau
- Strwythur y farchnad yswiriant a rolau a chyfrifoldebau'r amrywiol bartïon sy'n rhan ohoni sy'n effeithio ar eich gweithgareddau
- Cwmpas y polisi, y telerau a'r amodau sy'n berthnasol i'ch gwaith, gan gynnwys estyniadau, taliadau ychwanegol neu gyfyngiadau safonol ac ansafonol
- Ffynonellau cyngor a gwybodaeth
- Terfynau eich awdurdod a'r camau sy'n ofynnol pan fydd hawliadau'n syrthio y tu allan i'r terfynau hynny
- Polisi a gweithdrefnau eich sefydliad ynghylch cyfathrebu â chwsmeriaid
- Gweithdrefnau gwasanaeth cwsmeriaid eich sefydliad, gan gynnwys y rhai ar gyfer delio gyda chwynion
- Sut mae cael mynediad i gofnodion cwsmeriaid a'u newid
- Sut mae ymdrin â hawliadau yr hysbysir yn eu cylch yn hwyr
- Gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer cofnodi sut setlwyd hawliadau
- Rolau a swyddogaethau partïon eraill sy'n ymwneud â hawliadau
- Y camau sydd i'w cymryd gan y sawl a yswiriwyd yn dilyn colled
- Y dogfennau neu'r wybodaeth sy'n ofynnol i brosesu hawliad
- Gofynion eich sefydliad yng nghyswllt cymhwyso codau, cyfreithiau a gofynion rheoliadol sy'n cael effaith ar eich gweithgareddau
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
- Rydych yn cadw gwybodaeth yn gyfrinachol ac yn ddiogel, gan ei datgelu dim ond i'r rhai sydd wedi'u hawdurdodi i'w derbyn
- Rydych yn arddangos uniondeb, tegwch a chysondeb yn yr asesiadau a'r penderfyniadau a wnewch
- Rydych yn defnyddio gwybodaeth yn effeithiol, yn effeithlon ac yn foesegol
- Rydych yn arddangos dealltwriaeth o bobl eraill ac yn delio gyda nhw mewn modd proffesiynol
- Rydych yn defnyddio arddulliau cyfathrebu sy'n briodol ar gyfer gwahanol bobl a sefyllfaoedd
- Rydych yn gallu cyfleu gwybodaeth sy'n hybu dealltwriaeth
- Rydych yn gweithio mewn modd sy'n gwella perthnasoedd busnes
- Rydych yn canolbwyntio sylw personol ar fanylion penodol sy'n hollbwysig i sicrhau canlyniadau llwyddiannus
- Rydych yn nodi'r amrywiaeth o elfennau mewn sefyllfa a'r berthynas rhyngddynt a'i gilydd
- Rydych yn nodi goblygiadau neu ganlyniadau penderfyniad
- Rydych yn deall ac yn gallu ymdrin â materion cyfreithiol ac ariannol cymhleth