Delio gyda hawliadau cymhleth am golledion oedd heb eu hyswirio
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â delio gyda hawliadau cymhleth am golledion oedd heb eu hyswirio. Bydd eich gwaith yn cynnwys prosesu a chwblhau hawliadau cymhleth am golledion heb eu hyswirio. Mae colled heb ei hyswirio yn gymhleth os nad yw'n fater o drefn ac os nad oes modd delio gyda hi'n fecanyddol, er enghraifft, hawliadau sy'n galw am gyd-drafod atebolrwydd, anghydfodau ynghylch lliniaru colled neu anaf personol, neu rai sy'n dechnegol heriol oherwydd materion cyfreithiol cymhleth neu oblygiadau ariannol sylweddol. Mae'r uned hon yn ymwneud â chasglu gwybodaeth ynghylch amgylchiadau a natur yr hawliad a rhoi arweiniad i'r cwsmer ynghylch yr ateb gorau, gan gymryd i ystyriaeth egwyddorion cyfreithiol a'r rhagolygon o ran adennill colled y cwsmer. Mae hefyd yn golygu cyd-drafod i setlo'r hawliad, er mwyn sicrhau'r canlyniad gorau i'ch cwsmer a rhoi arweiniad i'r cwsmer ynghylch y ffordd orau o symud ymlaen ymhellach petai angen hynny. Bydd angen i chi gyflwyno gwybodaeth yn glir ac yn gryno.
Mae'n bosibl y bydd y safon hon yn addas i chi os ydych chi'n gweithio i yswiriwr costau cyfreithiol, neu unrhyw sefydliad sy'n ymwneud â mynd ar ôl ac adennill colledion heb eu hyswirio.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Cofnodi gwybodaeth gywir ynghylch amgylchiadau hawliadau, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Cyfeirio unrhyw sefyllfaoedd nad ydych wedi'ch awdurdodi i ddelio gyda nhw at y bobl neu'r adrannau priodol, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Cynnig arweiniad a fydd yn darparu'r ateb gorau i'r cwsmer, o ystyried egwyddorion cyfreithiol, lleddfu colledion a rhagolygon adennill, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Casglu unrhyw ddogfennaeth neu wybodaeth sy'n ofynnol i sicrhau cynnydd hawliadau, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Delio gydag unrhyw anghysondebau yn yr wybodaeth neu'r dogfennau, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Gwirio bod hawliadau'n cael eu llunio a'u cyflwyno i'r trydydd parti yn gywir, ac yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Cyd-drafod setlo hawliadau er lles pennaf cleientiaid ac yn unol â chanllawiau a gweithdrefnau eich sefydliad
- Monitro a chynnal cynnydd yng nghyswllt hawliadau, gan gymryd camau perthnasol i sicrhau y cedwir at y terfynau amser gofynnol, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Rhoi gwybod i'r holl bartïon â diddordeb am ganlyniad hawliadau, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Cadw cofnodion cywir a chyflawn, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Monitro a chynnal cynnydd yng nghyswllt hawliadau, gan gymryd camau i sicrhau y cedwir at y terfynau amser gofynnol, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Cydymffurfio â gofynion cydymffurfio cyfreithiol a rheoliadol, rheoliadau'r diwydiant, polisïau sefydliadol a chodau ymarfer proffesiynol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Egwyddorion a rheoliadau yswiriant a chyfreithiol perthnasol sy'n effeithio ar eich gweithgareddau
- Strwythur y farchnad yswiriant a rolau a chyfrifoldebau'r amrywiol bartïon sy'n rhan ohoni sy'n effeithio ar eich gweithgareddau
- Cwmpas y polisi, y telerau a'r amodau sy'n berthnasol i'ch gwaith, gan gynnwys estyniadau, taliadau ychwanegol neu gyfyngiadau safonol ac ansafonol
- Ffynonellau gwybodaeth a chyngor
- Gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer delio gyda cholledion heb eu hyswirio
- Pwysigrwydd defnyddio a chyfarwyddo arbenigwyr allanol, a sut mae gwneud hynny
- Gweithdrefnau gwasanaeth cwsmeriaid eich sefydliad, gan gynnwys y rhai ar gyfer delio gyda chwynion
- Y systemau ar gyfer cyrchu, cofnodi a newid gwybodaeth
- Y dogfennau neu'r wybodaeth sy'n ofynnol i brosesu hawliad
- Rolau a swyddogaethau partïon eraill sy'n ymwneud â hawliadau
- Sut mae rhoi gwybod i'ch cleient os caiff yr hawliad ei wrthod yn llwyr neu'n rhannol
- Pwysigrwydd defnyddio a chyfarwyddo arbenigwyr allanol, a sut mae gwneud hynny
- Gofynion eich sefydliad yng nghyswllt cymhwyso codau, cyfreithiau a gofynion rheoliadol sy'n cael effaith ar eich gweithgareddau
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
- Rydych yn defnyddio gwybodaeth yn effeithiol, yn effeithlon ac yn foesegol
- Rydych yn dangos parch at eraill yn eich ymwneud â nhw
- Rydych yn canolbwyntio sylw personol ar fanylion penodol sy'n hollbwysig i sicrhau canlyniadau llwyddiannus
- Rydych yn cadw gwybodaeth yn gyfrinachol ac yn ddiogel, gan ei datgelu dim ond i'r rhai sydd wedi'u hawdurdodi i'w derbyn
- Rydych yn cyd-drafod yn effeithiol
- Rydych yn deall ac yn gallu ymdrin â materion cyfreithiol ac ariannol cymhleth
- Rydych yn nodi'r amrywiaeth o elfennau mewn sefyllfa a'r berthynas rhyngddynt a'i gilydd
- Rydych yn nodi goblygiadau neu ganlyniadau penderfyniad
- Rydych yn gallu cyfleu gwybodaeth sy'n hybu dealltwriaeth
- Rydych yn gweithio mewn modd sy'n gwella perthnasoedd busnes
- Rydych yn canolbwyntio sylw personol ar fanylion penodol sy'n hollbwysig i sicrhau canlyniadau llwyddiannus