Delio gyda hawliadau uniongyrchol am golledion a yswiriwyd
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â delio gyda hawliadau uniongyrchol am golledion a yswiriwyd. Bydd eich gwaith yn cynnwys rhoi arweiniad i gwsmeriaid ynghylch hawliadau uniongyrchol a phrosesu setliadau hawliadau a dderbyniwyd gan yswirwyr. Yn aml mae angen rhoi arweiniad i gwsmeriaid ynghylch a fydd hawliad yn cael ei dalu'n llawn, a'r camau gorau iddynt eu cymryd, gan gadw mewn cof bod angen cyfyngu cymaint â phosibl ar y golled ac y gallai hawliad effeithio ar eu sefyllfa o ran yswiriant yn y dyfodol. Rhaid casglu manylion yr hawliad a'u cyflwyno i'r yswirwyr neu'r cynrychiolwyr a benodwyd ganddynt, gan gynnwys unrhyw ddogfennau ategol lle bo angen. Byddwch yn gwirio cynnydd yr hawliad, gan ddatrys unrhyw ymholiadau a godwyd gan yr yswiriwr. Byddwch yn hysbysu'r rhai dan sylw ynghylch y canlyniad. Bydd angen i chi weithredu oddi mewn i derfynau eich awdurdod a rhoi sylw i fanylion sy'n hollbwysig i'ch gwaith.
Mae'n bosibl y bydd y safon hon yn addas i chi os ydych chi'n gweithio mewn unrhyw fath o sefydliad yswiriant sydd heb awdurdod i setlo hawliadau.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Casglu gwybodaeth gyflawn sy'n ofynnol i symud ymlaen gyda hawliadau, ochr yn ochr â datrys unrhyw ymholiadau, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Cyfeirio unrhyw sefyllfaoedd y tu allan i lefel eich awdurdod at y bobl neu'r adrannau priodol, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Adnabod rhesymau pam na ellir gwneud setliad llawn, a rhoi gwybod i gwsmeriaid ynghylch y rhain, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Rhoi arweiniad clir i gwsmeriaid ynghylch unrhyw leddfu angenrheidiol ar golledion a'r camau mae angen iddynt eu cymryd i symud ymlaen gyda hawliadau, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Cyflwyno manylion i yswirwyr mewn modd a chan gadw at amserlen sy'n briodol ar gyfer yr hawliad, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Gwneud cais am wybodaeth neu ddogfennaeth sy'n ofynnol i gefnogi hawliadau, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Rhoi gwybod i gwsmeriaid am unrhyw arbenigwyr sy'n ymwneud â hawliadau lle bo hynny'n briodol, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Monitro cynnydd hawliadau a delio gydag unrhyw oedi, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Ymdrin â phroblemau neu gwynion sy'n gysylltiedig â hawliadau, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Trefnu i setlo hawliadau, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Cadw cofnodion cywir a chyflawn, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Cydymffurfio â gofynion cydymffurfio cyfreithiol a rheoliadol, rheoliadau'r diwydiant, polisïau sefydliadol a chodau ymarfer proffesiynol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Egwyddorion a rheoliadau yswiriant a chyfreithiol perthnasol sy'n effeithio ar eich gweithgareddau
- Strwythur y farchnad yswiriant a rolau a chyfrifoldebau'r amrywiol bartïon sy'n rhan ohoni sy'n effeithio ar eich gweithgareddau
- Cwmpas y polisi, y telerau a'r amodau sy'n berthnasol i'ch gwaith, gan gynnwys estyniadau neu gyfyngiadau safonol
- Ffynonellau gwybodaeth a chyngor
- Systemau a gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer cyrchu, cofnodi a newid gwybodaeth
- Gweithdrefnau gwasanaeth cwsmeriaid eich sefydliad, gan gynnwys y rhai ar gyfer delio gyda chwynion
- Terfynau eich awdurdod a'r camau sy'n ofynnol pan fydd hawliad yn syrthio y tu allan i'r terfynau hynny
- Gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer prosesu a chofnodi hawliadau a setlo hawliadau
- Yr amgylchiadau perthnasol i'ch gwaith sy'n golygu y gall hawliad gael ei ddiarddel neu ei gyflawni'n rhannol yn unig
- Y camau sydd i'w cymryd gan y sawl a yswiriwyd yn dilyn colled
- Rolau a swyddogaethau partïon eraill sy'n ymwneud â hawliadau
- Sut mae delio gyda hawliadau yr adroddir amdanynt yn hwyr
- Sut mae rhoi gwybod i gleientiaid pan fydd hawliadau wedi cael eu gwrthod yn llwyr neu'n rhannol
- Gofynion eich sefydliad yng nghyswllt cymhwyso codau, cyfreithiau a gofynion rheoliadol sy'n cael effaith ar eich gweithgareddau
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
- Rydych yn defnyddio gwybodaeth yn effeithiol, yn effeithlon ac yn foesegol
- Rydych yn arddangos dealltwriaeth o bobl eraill ac yn delio gyda nhw mewn modd proffesiynol
- Rydych yn cadw gwybodaeth yn gyfrinachol ac yn ddiogel, gan ei datgelu dim ond i'r rhai sydd wedi'u hawdurdodi i'w derbyn
- Rydych yn gallu cyfleu gwybodaeth sy'n hybu dealltwriaeth
- Rydych yn gweithio mewn modd sy'n gwella'r berthynas fusnes