Setlo hawliadau yswiriant uniongyrchol
URN: FSPGI02
Sectorau Busnes (Suites): Yswiriant Cyffredinol
Datblygwyd gan: Skills for Justice
Cymeradwy ar:
01 Maw 2017
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â setlo hawliadau yswiriant uniongyrchol. Bydd eich gwaith yn cynnwys symud y cais am hawliad yn ei flaen, creu amcangyfrifon ar gyfer yr hawliad, cytuno ar swm y setliad, setlo'r hawliad a threfnu taliad. Byddwch yn cysylltu â chwsmeriaid ac yn eu hysbysu ynghylch statws eu cais am hawliad. Bydd angen i chi weithredu oddi mewn i derfynau eich awdurdod a chyflwyno gwybodaeth yn glir ac yn gryno. Bydd angen hefyd i chi roi sylw i fanylion sy'n hanfodol i'ch gwaith.
Mae'n bosibl y bydd y safon hon yn addas i chi os ydych chi'n gweithio i yswiriwr, canolwr neu sefydliad arall sydd ag awdurdod i setlo hawliadau uniongyrchol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Casglu'r wybodaeth sy'n anghenrheidiol i asesu atebolrwydd a chwantwm posibl, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Neilltuo'n briodol, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Darparu gwybodaeth ynghylch statws setlo hawliadau a'r gweithdrefnau ar gyfer gwneud hynny, i unrhyw barti sydd â diddordeb cyfreithlon
- Gwneud penderfyniadau oddi mewn i derfynau eich awdurdod, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Cyfeirio sefyllfaoedd nad ydych wedi'ch awdurdodi i ddelio gyda nhw at y person neu'r adran sy'n briodol, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Cymryd camau lle ceir amheuon ynghylch twyll neu dwyll posibl, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Diweddaru amcangyfrifon a chofnodi costau terfynol, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Cymhwyso unrhyw delerau, amodau a thaliadau ychwanegol yn gywir, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Nodi cyfleoedd i adennill a threfnu bod y rhain yn derbyn sylw, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Gwirio bod dogfennau'n ddilys cyn symud ymlaen i setliad, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Cytuno ar ddull y setliad, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Trefnu bod y setliad yn cael ei gwblhau yn y modd y cytunwyd arno, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Cadw cofnodion cywir a chyflawn, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Cydymffurfio â gofynion cydymffurfio cyfreithiol a rheoliadol, rheoliadau'r diwydiant, polisïau sefydliadol a chodau ymarfer proffesiynol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Egwyddorion a rheoliadau yswiriant a chyfreithiol perthnasol sy'n effeithio ar eich gweithgareddau
- Strwythur y farchnad yswiriant a rolau a chyfrifoldebau'r amrywiol bartïon sy'n rhan ohoni sy'n effeithio ar eich gweithgareddau
- Cwmpas y polisi, y telerau a'r amodau sy'n berthnasol i'ch gwaith, gan gynnwys estyniadau a chyfyngiadau safonol
- Arferion amcanbrisio eich sefydliad
- Safonau a gweithdrefnau gwasanaeth cwsmeriaid eich sefydliad, gan gynnwys y rhai ar gyfer delio gyda chwynion
- Systemau a gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer cyrchu, cofnodi a newid gwybodaeth
- Gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer talu hawliadau
- Terfynau eich awdurdod a'r camau sy'n ofynnol pan fydd hawliad yn syrthio y tu allan i'r terfynau hynny
- Gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer cofnodi sut setlwyd hawliadau
- Sut mae ymdrin â hawliadau yr hysbysir yn eu cylch yn hwyr
- Gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer ymdrin â sefyllfaoedd hawliadau brys
- Y ffynonellau awdurdodedig ynghylch gwybodaeth, cyflenwi neu atgyweirio y mae eich sefydliad yn eu defnyddio i setlo hawliadau
- Effaith llithriad yn symiau hawliadau ar yswirwyr
- Arwyddion twyll mewn hawliad a'r camau sy'n ofynnol
- Gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer mynd ar ôl adenillion
- Sut mae rhoi gwybod i dansgrifenwyr am unrhyw nodweddion niweidiol
- Gofynion eich sefydliad yng nghyswllt cymhwyso codau, cyfreithiau a gofynion rheoliadol sy'n cael effaith ar eich gweithgareddau
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
- Rydych yn defnyddio gwybodaeth yn effeithiol, yn effeithlon ac yn foesegol
- Rydych yn arddangos dealltwriaeth o bobl eraill ac yn delio gyda nhw mewn modd proffesiynol
- Rydych yn cadw gwybodaeth yn gyfrinachol ac yn ddiogel, gan ei datgelu dim ond i'r rhai sydd wedi'u hawdurdodi i'w derbyn
- Rydych yn dda am reoli amser
- Rydych yn ymdrechu i gyflawni a rhagori ar gytundebau lefel gwasanaeth a therfynau amser critigol
- Rydych yn gweithio i gynhyrchu sefyllfaoedd ennill/ennill gyda chwsmeriaid ac ar gyfer y sefydliad
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
01 Maw 2022
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Partneriaeth Sgiliau Ariannol
URN gwreiddiol
FSPGI02
Galwedigaethau Perthnasol
Cyllid
Cod SOC
Geiriau Allweddol
Hawliad yswiriant; polisi yswiriant; polisïau; hawliad; hawlydd; setliad; wedi'i yswirio; heb ei yswirio; hysbysiad