Prosesu hysbysiadau uniongyrchol ynghylch hawliadau yswiriant
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â phrosesu hysbysiadau uniongyrchol ynghylch hawliadau yswiriant. Bydd eich gwaith yn cynnwys prosesu hawliadau newydd neu rai sydd eisoes yn bodoli. Bydd hyn yn galw am gofnodi manylion cywir ynghylch yr hawliad a chasglu unrhyw wybodaeth sydd ar goll. Bydd angen i chi nodi unrhyw hawliadau sydd heb eu cwmpasu gan y polisi a dangos eich bod wedi cymryd camau priodol pan fydd hawliad yn syrthio y tu allan i'ch awdurdod. Ar hyd yr amser, byddwch yn sicrhau bod yr hawlydd yn derbyn gwybodaeth yn rheolaidd ynghylch cynnydd yr hawliad. Bydd angen i chi weithredu oddi mewn i derfynau eich awdurdod a rhoi sylw i fanylion sy'n hollbwysig i'ch gwaith. Mae'n bosibl y bydd y safon hon yn addas i chi os ydych chi'n gweithio i yswiriwr, canolwr neu sefydliad arall sydd ag awdurdod i setlo hawliadau uniongyrchol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Cofnodi manylion hawliadau, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Hysbysu unrhyw barti sydd â diddordeb cyfreithlon ynghylch y gweithdrefnau a'r gofynion ar gyfer symud ymlaen gyda'r hawliad
- Casglu unrhyw wybodaeth neu ddogfennaeth bellach er mwyn symud hawliadau ymlaen, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Cyfeirio unrhyw sefyllfaoedd y tu allan i lefel eich awdurdod at bobl neu adrannau priodol, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Adnabod hawliadau nad ydynt yn ddilys, a chymryd camau yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Paratoi, adolygu a diweddaru cronfeydd wrth gefn ar gyfer hawliadau, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Gwirio bod systemau a ddefnyddir i fonitro cynnydd hawliadau yn cael eu diweddaru'n gyson, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Darparu gwybodaeth i hawlwyr neu eu cynrychiolwyr sy'n berthnasol i'w hanghenion, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Ymdrin â phroblemau neu gwynion sy'n gysylltiedig â hawliadau, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Cadw cofnodion cywir a chyflawn, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Cymryd camau lle ceir amheuon ynghylch twyll neu dwyll posibl, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Rhoi gwybodaeth reolaidd i'r sawl a yswiriwyd ynghylch cynnydd hawliadau, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Rhoi gwybod i dansgrifenwyr am unrhyw nodweddion niweidiol sy'n gysylltiedig â hawliadau neu wybodaeth a ddarparwyd
- Cydymffurfio â gofynion cydymffurfio cyfreithiol a rheoliadol, rheoliadau'r diwydiant, polisïau sefydliadol a chodau ymarfer proffesiynol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Egwyddorion a rheoliadau yswiriant a chyfreithiol perthnasol sy'n effeithio ar eich gweithgareddau
- Strwythur y farchnad yswiriant a rolau a chyfrifoldebau'r amrywiol bartïon sy'n rhan ohoni sy'n effeithio ar eich gweithgareddau
- Cwmpas y polisi, y telerau a'r amodau sy'n berthnasol i'ch gwaith, gan gynnwys estyniadau a chyfyngiadau safonol
- Ffynonellau gwybodaeth a chyngor
- Yr wybodaeth sy'n angenrheidiol i brosesu hawliadau
- Terfynau eich awdurdod a'r camau sy'n ofynnol pan fydd hawliadau'n syrthio y tu allan i'r terfynau hynny
- Safonau a gweithdrefnau gwasanaeth cwsmeriaid eich sefydliad, gan gynnwys y rhai ar gyfer delio gyda chwynion
- Systemau a gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer cyrchu, cofnodi a newid gwybodaeth
- Polisïau a gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer prosesu hawliadau
- Gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer ymdrin â hysbysiadau hwyr ynghylch hawliadau
- Gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer ymdrin â sefyllfaoedd hawliadau brys
- Pwysigrwydd codau achos cywir a dyddiadau digwyddiadau mewn cofnodion hawliadau
- Arwyddion twyll mewn hawliadau a'r camau sy'n ofynnol
- Protocolau cyn gweithredu, lle bo hynny'n briodol
- Yr angen am fynd ati i ddatgelu dogfennau pan gaiff hawliad ei ddiarddel neu ei wrthod
- Gofynion eich sefydliad yng nghyswllt cymhwyso codau, cyfreithiau a gofynion rheoliadol sy'n cael effaith ar eich gweithgareddau
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
- Rydych yn defnyddio gwybodaeth yn effeithiol, yn effeithlon ac yn foesegol
- Rydych yn cadw gwybodaeth yn gyfrinachol ac yn ddiogel, gan ei datgelu dim ond i'r rhai sydd wedi'u hawdurdodi i'w derbyn
- Rydych yn defnyddio arddulliau cyfathrebu sy'n briodol ar gyfer gwahanol bobl a sefyllfaoedd
- Rydych yn arddangos dealltwriaeth o bobl eraill ac yn delio gyda nhw mewn modd proffesiynol
- Rydych yn gallu cyfleu gwybodaeth yn glir ac mewn modd sy'n hybu dealltwriaeth
- Rydych yn gallu gweithio'n ddiwyd ac yn gywir
- Rydych yn ymdrechu i gyflawni a rhagori ar gytundebau lefel gwasanaeth a therfynau amser critigol
- Rydych yn gweithio i gynhyrchu sefyllfaoedd ennill/ennill gyda chwsmeriaid ac ar gyfer eich sefydliad