Prosesu gweinyddiaeth cefnogi gwerthu gwasanaethau ariannol ar gyfer asiantaethau
Trosolwg
Mae'r safon hon yn cynnwys y gwaith sy'n gysylltiedig â chymeradwyo asiantaethau newydd a gweinyddu asiantaethau presennol. Rydych yn gofalu bod y dogfennau a'r wybodaeth a dderbynnir i gefnogi cais gan asiantaeth (e.e., ffurflenni cais asiantaethau, geirdaon o swyddfeydd eraill, tystlythyron banc, ac ati) yn gywir, a'ch bod yn dilyn gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer penderfynu a ydych am dderbyn yr asiantaeth neu beidio. Rydych yn gwirio gwybodaeth ynghylch gweithrediad asiantaethau (e.e., gwybodaeth ynghylch perfformiad yn erbyn cynlluniau cynhyrchu, gwybodaeth ynghylch newidiadau i arddull fasnachu, gwybodaeth ynghylch materion cydymffurfio ac ati) a chymryd unrhyw gamau a nodir fel rhai gofynnol yn sgîl yr wybodaeth hon. Bydd angen i chi ddelio gyda staff asiantaethau mewn modd sy'n hybu ac yn cynnal ewyllys da.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Gwirio cywirdeb dogfennau a gwybodaeth a dderbyniwyd ar gyfer ceisiadau gan asiantaethau newydd, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Egluro gwybodaeth ar gyfer ceisiadau asiantaethau newydd sy'n anghyflawn neu'n aneglur, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Rhoi gwybod i'r bobl briodol am eich penderfyniad i benodi'r asiantaeth newydd neu i wrthod ceisiadau yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Nodi'r wybodaeth mae arnoch ei hangen o'r wybodaeth a gafwyd gan asiantaethau, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Nodi unrhyw gamau sy'n angenrheidiol ar sail yr wybodaeth a ddarparwyd, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Rhoi gwybod i'r bobl briodol pa gamau mae angen eu cymryd a'ch argymhellion yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Cyfeirio unrhyw gamau angenrheidiol sydd y tu allan i'ch awdurdod i bobl awdurdodedig, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Cydymffurfio â gofynion cyfreithiol, rheoliadau'r diwydiant, gan gynnwys safonau moesegol, polisïau sefydliadol a chodau ymarfer proffesiynol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer gwirio dogfennau a gwybodaeth
- Y cofnodion mae disgwyl i chi eu cadw
- Gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer cadw gwybodaeth yn ddiogel a diogelu cyfrinachedd
- Sut mae rheoliadau diogelu data yn berthnasol i'ch swydd
- Sut mae rheoliadau gwasanaethau ariannol yn berthnasol i'r gwaith rydych chi'n ei wneud
- Pwysigrwydd prosesu gwerthiant i'ch cleientiaid ac i'ch sefydliad
- Angen cleientiaid eich sefydliad am brosesu trafodion yn gywir
- Gofynion eich sefydliad yng nghyswllt cymhwyso codau, cyfreithiau a gofynion rheoliadol, gan gynnwys safonau moesegol sy'n cael effaith ar eich gweithgareddau
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
- Rydych yn cadw gwybodaeth a data yn ddiogel ac yn gyfrinachol
- Rydych yn cyflwyno gwybodaeth yn glir ac yn gryno
- Rydych yn rhoi sylw i fanylion sy'n hanfodol i'ch gwaith