Hyrwyddo cynnyrch a gwasanaethau ariannol ychwanegol y sefydliad
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â diweddaru eich gwybodaeth am gynnyrch a gwasanaethau eich sefydliad yn rheolaidd er mwyn canfod cyfleoedd i hyrwyddo cynnyrch neu wasanaethau ychwanegol i'ch cwsmer. Byddwch yn sicrhau bod eich cwsmer yn derbyn gwybodaeth ddigonol, boed hynny dros y ffôn neu ar bapur, i'w galluogi i wneud penderfyniad gwybodus ynghylch y cynnyrch neu'r gwasanaethau rydych chi'n eu cynnig. Wrth hyrwyddo cynnyrch neu wasanaethau ychwanegol mae'n bwysig eich bod chi'n dilyn gofynion rheoliadol a gofynion eich sefydliad. Bydd angen i chi ddelio gyda chwsmeriaid yn effeithlon ac mewn modd sy'n hybu ewyllys da, a defnyddio ymholiadau gofalus a phriodol i gasglu gwybodaeth gan gwsmeriaid.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Diweddaru a datblygu eich gwybodaeth am gynnyrch neu wasanaethau ariannol eich sefydliad
- Nodi cynnyrch neu wasanaethau ariannol ychwanegol i'w hyrwyddo ymhlith eich cwsmeriaid, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Nodi cyfleoedd i gynnig cynnyrch neu wasanaethau ariannol ychwanegol i gwsmeriaid a fydd yn ymateb i'w gofynion a'u hanghenion.
- Darparu gwybodaeth i gwsmeriaid sydd wedi'i diweddaru ac yn ddigonol iddynt wneud penderfyniadau gwybodus ynghylch derbyn cynnyrch neu wasanaethau ariannol ychwanegol
- Rhoi cyfle i gwsmeriaid ofyn cwestiynau am y cynnyrch neu'r gwasanaethau ariannol ychwanegol a gynigir
- Cyfeirio ceisiadau am wybodaeth a chyngor sydd y tu allan i'ch awdurdod neu eich cymhwysedd at bobl berthnasol, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Rhoi gweithdrefnau eich sefydliad ar waith pan na fydd eich cwsmer yn dangos unrhyw ddiddordeb yn y cynnyrch neu'r gwasanaethau ariannol ychwanegol a gynigir
- Sicrhau cytundeb eich cwsmer pan fydd yn mynegi diddordeb mewn cynnyrch neu wasanaethau ariannol ychwanegol, a chymryd camau i sicrhau eu bod yn cael eu cyflwyno
- Adolygu eich targedau ar gyfer gwerthu cynnyrch neu wasanaethau ariannol yn rheolaidd
- Cydymffurfio â gofynion cyfreithiol, rheoliadau'r diwydiant, gan gynnwys safonau moesegol, polisïau sefydliadol a chodau ymarfer proffesiynol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Y nodweddion allweddol o ran prif gynnyrch a gwasanaethau eich sefydliad a rhai ychwanegol sydd o fewn eich maes cyfrifoldeb
- Proses gwerthiant eich sefydliad sy'n berthnasol i'ch maes cyfrifoldeb chi
- Sut mae cyrchu gwybodaeth berthnasol ynghylch cynnyrch neu wasanaethau eich sefydliad
- Terfynau eich awdurdod a'ch cyfrifoldeb wrth hyrwyddo cynnyrch a gwasanaethau eich sefydliad
- At bwy y dylid cyfeirio cwsmeriaid i gael gwybodaeth neu gyngor sydd y tu allan i'ch awdurdod neu eich cymhwysedd
- Gofynion eich sefydliad yng nghyswllt cymhwyso codau, cyfreithiau a gofynion rheoliadol, gan gynnwys safonau moesegol sy'n cael effaith ar eich gweithgareddau
- Sut mae hyrwyddo cynnyrch neu wasanaethau ariannol ychwanegol wrth gyfathrebu â chwsmeriaid
- Y gweithdrefnau a'r technegau ar gyfer cyfathrebu â chwsmeriaid newydd a phresennol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
- Rydych yn rhoi sylw i fanylion sy'n hanfodol i'ch
gwaith