Delio gyda chwsmeriaid dros y ffôn mewn amgylchedd gwasanaethau ariannol
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â'r sgiliau a'r cymwyseddau mae arnoch eu hangen wrth ddelio gyda'ch cwsmer dros y ffôn mewn amgylchedd gwasanaethau ariannol. Mae boddhad cwsmeriaid yn dibynnu ar y dull o ymdrin â'r alwad, yn ogystal â nodweddion a manteision y cynnyrch neu'r gwasanaethau ariannol a drafodir. Ym maes gwasanaethau ariannol, mae'n arbennig o bwysig bod cwsmeriaid yn teimlo'n hyderus bod yr wybodaeth a gânt dros y ffôn yn gywir ac yn gyflawn. Er bod cyfathrebu geiriol yn bwysig, bydd eich ffocws ar eich cwsmer a'r berthynas gyfforddus a ddatblygir hefyd yn dibynnu ar eich sgiliau gyda'r system ffôn ac unrhyw wybodaeth rydych chi'n ei chyrchu tra byddwch ar y ffôn i'ch cwsmer.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Defnyddio'r offer ffôn ac ategol yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Cyfarch cwsmeriaid gan ddilyn canllawiau eich sefydliad
- Agor y sgwrs yn gadarnhaol a meithrin perthynas gyfforddus gyda'ch cwsmeriaid yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Canfod diben galwadau mor gynnar â phosibl yn y sgwrs
- Rhoi gwybod i gwsmeriaid os bydd rhaid i chi roi'r alwad o'r neilltu dros dro i gael gafael ar wybodaeth
- Addasu eich arddull gyfathrebu i ddiwallu anghenion cwsmeriaid ac amgylchiadau galwadau, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Dilyn eich canllawiau sefydliadol wrth ddelio gyda galwyr sarhaus
- Rheoli hyd galwadau'n gost-effeithiol ar gyfer cwsmeriaid a'ch sefydliad, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Ymateb i gwestiynau neu wrthwynebiadau gan eich cwsmeriaid ynghylch cynnyrch neu wasanaethau ariannol, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Gwrando wrth gasglu gwybodaeth gan gwsmeriaid, fel nad ydych yn gwneud camgymeriadau nac yn gorfod ailadrodd cwestiynau
- Gwirio nad yw eich cwsmer yn gallu eich clywed pan fyddwch chi'n trafod eu hanghenion gydag eraill yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Nodi'r opsiynau o ran diwallu anghenion eich cwsmeriaid am gynnyrch neu wasanaethau ariannol
- Dewis yr opsiwn sy'n fwyaf tebygol o arwain at foddhad cwsmeriaid o ran cynnyrch neu wasanaethau ariannol y sefydliad, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Crynhoi canlyniad galwadau ac unrhyw gamau gweithredu sy'n ofynnol yn dilyn yr alwad
- Cofnodi gwybodaeth berthnasol yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Cydymffurfio â gofynion cyfreithiol, gan gynnwys safonau moesegol a rheoliadau'r diwydiant
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Sut mae defnyddio offer ffôn ac ategol y sefydliad
- Canllawiau a gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer defnyddio offer ffôn ac ategol
- Pwysigrwydd siarad yn glir wrth ddelio gyda chwsmeriaid dros y ffôn
- Effeithiau mynegiant yr wyneb y gall partïon eraill eu synhwyro dros y ffôn
- Pwysigrwydd rhoi gwybodaeth reolaidd i'ch cwsmer os byddwch wedi rhoi eu galwad o'r neilltu dros dro
- Pwysigrwydd peidio â siarad dros ffôn agored
- Sut mae addasu a defnyddio dulliau cyfathrebu effeithiol i helpu dealltwriaeth eich galwr
- Eich lefelau cyfrifoldeb, ac at bwy dylech chi gyfeirio pan eir dros ben y lefelau hynny
- Pwysigrwydd rheoli amser, a sut mae defnyddio amser yn effeithiol wrth gydbwyso anghenion galwyr â rhai eich sefydliad
- Safonau trafod galwadau eich sefydliad, yng nghyswllt ansawdd galwadau a'r gwasanaeth a ddarperir
- Canllawiau eich sefydliad ar gyfer trafod galwadau sarhaus
- Gofynion eich sefydliad yng nghyswllt cymhwyso codau, cyfreithiau a gofynion rheoliadol, gan gynnwys safonau moesegol sy'n cael effaith ar eich gweithgareddau
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
- Rydych yn defnyddio offer ffôn ac ategol yn effeithlon ac yn effeithiol
- Rydych yn cyfleu gwybodaeth yn glir ac yn gryno
- Rydych yn dangos parch at eraill yn eich ymwneud â nhw
- Rydych yn darparu gwybodaeth i'r rhai sydd ei hangen ac sydd â hawl i'w derbyn
- Rydych yn defnyddio arddulliau cyfathrebu sy'n briodol ar gyfer gwahanol bobl a sefyllfaoedd