Darparu cymorth arbenigol i alwyr mewn amgylchedd gwasanaethau ariannol
URN: FSPFCS01
Sectorau Busnes (Suites): Gofal Cwsmeriaid Gwasanaethau Ariannol
Datblygwyd gan: Skills for Justice
Cymeradwy ar:
01 Maw 2017
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â helpu galwyr sydd angen cymorth arbenigol. Gall hyn gynnwys cymorth TG technegol (e.e. wrth ddelio gyda bancio ar y rhyngrwyd) neu gymorth arbenigol ym maes gwasanaethau ariannol. Mae hyn yn cwmpasu darparu cymorth a threfnu bod arbenigwyr eraill yn cynorthwyo'r galwr petai angen. Bydd angen i chi ddefnyddio cwestiynau priodol i gasglu gwybodaeth a chynnal cyfrinachedd gwybodaeth pan fydd hynny'n ofynnol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Cadarnhau canfyddiadau'r cwsmer o'r cymorth arbenigol mae'n ei geisio, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Asesu'r wybodaeth a roddwyd gan gwsmeriaid yn ddigon manwl i benderfynu ar y camau mwyaf priodol i'w cymryd, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Rhoi gwybod i gwsmeriaid am gamau gweithredu posibl a'u goblygiadau lle bo hynny'n unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Cytuno gyda chwsmeriaid ar natur a chwmpas y cymorth arbenigol sy'n ofynnol i ddiwallu eu hanghenion
- Darparu cymorth arbenigol sy'n briodol ar gyfer anghenion cwsmeriaid ac o fewn eich awdurdod a'ch gwybodaeth, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Cyfeirio cwsmeriaid at bobl berthnasol i gael cymorth pellach pan na fydd y cymorth arbenigol sy'n ofynnol yn diwallu eu hanghenion, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Cysylltu â'r bobl berthnasol i benderfynu ar y camau nesaf pan fydd y cymorth arbenigol sy'n ofynnol y tu allan i'ch maes gwybodaeth neu eich awdurdod, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Gweithredu trwy roi gweithdrefnau cymeradwy ar waith lle deuir ar draws problemau wrth ddarparu'r cymorth angenrheidiol
- Cofnodi'r wybodaeth a gasglwyd a'r cymorth a gynigiwyd yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Cydymffurfio â gofynion cyfreithiol, rheoliadau'r diwydiant, safonau moesegol, polisïau sefydliadol a chodau ymarfer proffesiynol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Defnyddio cwestiynau agored a chaeedig a'r dulliau o gasglu gwybodaeth gan wahanol gleientiaid
- Sut mae asesu faint o wybodaeth sy'n ofynnol cyn bod modd darparu cymorth effeithiol
- Sut mae dadansoddi a blaenoriaethu'r wybodaeth a ddarperir gan gwsmeriaid, fel bod modd diwallu eu hanghenion o ran gwasanaethau ariannol
- Mathau nodweddiadol o gymorth a gynigir gan eich sefydliad ac y mae cwsmeriaid yn eu ceisio
- Pwysigrwydd sgiliau gwrando wrth ddelio gyda chwsmeriaid
- Sut mae addasu a defnyddio dulliau cyfathrebu effeithiol i helpu dealltwriaeth eich galwr
- Eich lefelau cyfrifoldeb, ac at bwy dylech chi gyfeirio pan eir dros ben y lefelau hynny
- Pwysigrwydd rheoli amser, a sut mae defnyddio amser yn effeithiol wrth gydbwyso anghenion cwsmeriaid â rhai eich sefydliad
- Safonau trafod galwadau eich sefydliad, yng nghyswllt ansawdd galwadau a'r gwasanaeth a ddarperir
- Gofynion eich sefydliad yng nghyswllt cymhwyso codau, cyfreithiau a gofynion rheoliadol, gan gynnwys safonau moesegol sy'n cael effaith ar eich gweithgareddau
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
- Rydych yn delio gyda chwsmeriaid mewn modd ac ar gyflymdra sy'n addas at anghenion y galwr
- Rydych yn cyflwyno gwybodaeth yn glir, yn gryno, yn gywir ac mewn ffyrdd sy'n hyrwyddo dealltwriaeth
- Rydych yn arddangos dealltwriaeth glir o wahanol gwsmeriaid a'u hanghenion gwirioneddol a chanfyddedig
- Rydych yn defnyddio sgiliau gwrando priodol wrth ddelio gyda galwyr
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
01 Maw 2022
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Partneriaeth Sgiliau Ariannol
URN gwreiddiol
FSPFCS01
Galwedigaethau Perthnasol
Cyllid
Cod SOC
Geiriau Allweddol
Cyfathrebu; awdurdod; polisi; gweithdrefn; rheoleiddio; rheoliadol; rheoli amser; galw; galwr