Cydymffurfio â rheoliadau yn eich amgylchedd gwasanaethau ariannol
URN: FSPFCC04
                    Sectorau Busnes (Cyfresi): Cymwyseddau Craidd Gwasanaethau Ariannol 
                    Datblygwyd gan: Skills for Justice
                    Cymeradwy ar: 
2017                        
                    
                Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â gweithio oddi mewn i amgylchedd rheoliadol y diwydiant gwasanaethau ariannol. Mae rhaid i'r mwyafrif o sefydliadau ym maes gwasanaethau ariannol weithredu oddi mewn i reoliadau penodol. Rhaid i'r rhai sy'n gweithio yn yr amgylchedd hwn gyflawni eu rôl gan gydymffurfio â'r rheoliadau hyn. I gyflawni'r uned hon, rhaid i chi wybod am y rheoliadau sy'n effeithio ar eich rôl, a gofalu eich bod yn cydymffurfio â nhw. Byddwch yn nodi ac yn cywiro unrhyw fethiannau i gydymffurfio, ac yn adrodd amdanynt yn ôl y galw. Byddwch hefyd yn sicrhau eich bod yn cynnal eich cymhwysedd o fewn eich rôl.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Nodi gwybodaeth reoleiddio berthnasol a gwerthuso effaith   
 hyn ar eich rôl
- Gwirio eich bod yn gweithio oddi mewn i'r fframwaith rheoliadol sy'n briodol ar gyfer rôl eich swydd, a'ch bod yn cydymffurfio â gofynion rheoliadol
- Dangos sut mae ymateb i unrhyw fethiannau i gydymffurfio â gofynion rheoliadol, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Ymateb i newidiadau ym mholisïau a gweithdrefnau eich sefydliad   
 sy'n deillio o ofynion rheoliadol
- Sicrhau bod gennych chi'r wybodaeth ddiweddaraf am newidiadau sy'n effeithio ar rôl eich swydd, yn unol â gofynion rheoliadol
- Cydymffurfio â gofynion cyfreithiol, rheoliadau'r diwydiant, gan gynnwys safonau moesegol, polisïau sefydliadol, a chodau ymarfer proffesiynol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Sut mae dysgu am y gofynion rheoliadol perthnasol sy'n effeithio ar eich rôl
- Gofynion cytunedig eich swydd, gan gynnwys terfynau eich cyfrifoldebau
- Polisïau a gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer sicrhau eich bod yn cydymffurfio â gofynion rheoliadol
- Wrth bwy dylech chi ofyn os bydd arnoch angen eglurhad ar y gofynion rheoliadol
- Sut mae adnabod achosion o ddiffyg cydymffurfio, a chanlyniadau diffyg cydymffurfio i chi, eich sefydliad a'ch cwsmeriaid
- Sut mae ymateb i unrhyw fethiannau i gydymffurfio â gofynion rheoliadol, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Y gweithdrefnau i'w dilyn os nad ydych yn cydymffurfio â gofynion rheoliadol
- Gofynion eich sefydliad yng nghyswllt cymhwyso codau, cyfreithiau a gofynion rheoliadol, gan gynnwys safonau moesegol sy'n cael effaith ar eich gweithgareddau
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
- Rydych yn defnyddio gwybodaeth yn effeithiol, yn
 effeithlon ac yn foesegol
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
2022        
    
Dilysrwydd
        Ar hyn o bryd
        
    
Statws
        Gwreiddiol
        
    
Sefydliad Cychwynnol
        Partneriaeth Sgiliau Ariannol
        
    
URN gwreiddiol
        FSPFCC04
        
    
Galwedigaethau Perthnasol
Cyllid        
    
Cod SOC
Geiriau Allweddol
            Hunan-ddatblygiad; amcanion gwaith; gwaith tîm; rôl gwaith; amcanion; perthnasoedd gwaith; cyfathrebu; cydweithwyr; rheoliadol; polisi; gweithdrefn; cydymffurfio; diffyg cydymffurfio