Cynllunio a threfnu eich gwaith mewn amgylchedd gwasanaethau ariannol
URN: FSPFCC02
Sectorau Busnes (Suites): Cymwyseddau Craidd Gwasanaethau Ariannol
Datblygwyd gan: Skills for Justice
Cymeradwy ar:
01 Maw 2017
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â chynllunio a threfnu eich gwaith eich hun, yn ogystal â sut rydych chi'n gweithio gydag eraill. Byddwch yn cynllunio ac yn blaenoriaethu eich gwaith, ac yn sicrhau bod amcanion yn cael eu cyflawni. Bydd disgwyl i chi gyfranogi'n gadarnhaol ac yn adeiladol er mwyn cyflawni'r allbynnau angenrheidiol. Bydd rhaid i chi reoli eich gwaith yn effeithiol bob amser, a bydd angen i chi ryngweithio ag eraill er mwyn cyflawni canlyniadau.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Nodi a blaenoriaethu eich gwaith i sicrhau bod amcanion gwaith yn cael eu cyflawni
- Gwirio bod gennych chi'r holl adnoddau angenrheidiol i gwblhau gwaith a chynhyrchu'r allbynnau gofynnol
- Adrodd am unrhyw anawsterau o ran y gwaith a'u trafod gyda'r bobl briodol, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Ceisio cyngor yn ôl y galw i ymateb i ofynion gwaith a chwblhau gwaith at y safonau gofynnol
- Cydweithredu â chydweithwyr, a chynnig cymorth iddynt, i'w helpu i gyflawni amcanion gwaith
- Cyflawni ymrwymiadau gwaith a wnaed i gydweithwyr eraill lle bynnag y bo modd
- Rhoi gwybod i gydweithwyr am unrhyw anawsterau wrth gyflawni ymrwymiadau gwaith
- Gwirio sut rydych chi'n defnyddio eich amser yn y gwaith a nodi gwelliannau posibl yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Cefnogi cydweithwyr a delio gyda nhw mewn modd proffesiynol, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Defnyddio arddulliau cyfathrebu priodol ar gyfer gwahanol bobl a sefyllfaoedd
- Cydymffurfio â gofynion cyfreithiol, rheoliadau'r diwydiant, safonau moesegol, polisïau sefydliadol a chodau ymarfer proffesiynol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Y mathau o anawsterau y gallech eu hwynebu a allai effeithio ar eich cynlluniau gwaith
- Y bobl y dylech chi roi gwybod iddynt am broblemau wrth reoli gwaith neu faterion cysylltiedig â'r tîm
- Diben, gwerth a phwysigrwydd trefnu eich gwaith eich hun yn effeithiol
- Sut mae rheoli eich amser yn effeithiol
- Yr offer cynllunio gwaith sydd ar gael i chi eu defnyddio
- Yr adnoddau y mae arnoch eu hangen i reoli eich gwaith
- Y broses gynllunio ehangach y mae eich cynlluniau unigol yn gysylltiedig â hi
- Gan bwy mae ceisio help pan fydd angen
- Gofynion eich sefydliad yng nghyswllt cymhwyso codau, cyfreithiau a gofynion rheoliadol, gan gynnwys safonau moesegol sy'n cael effaith ar eich gweithgareddau
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
- Rydych yn gweithio'n effeithlon ac yn effeithiol
- Rydych yn ystyried pa effaith mae eich ymddygiad yn ei chael ar eraill
- Rydych yn ceisio deall anghenion pobl eraill
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
01 Maw 2022
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Partneriaeth Sgiliau Ariannol
URN gwreiddiol
FSPFCC02
Galwedigaethau Perthnasol
Cyllid
Cod SOC
Geiriau Allweddol
Hunan-ddatblygiad; amcanion gwaith; gwaith tîm; rôl gwaith; amcanion; perthnasoedd gwaith; cyfathrebu; cydweithwyr; rheoliadol; polisi; gweithdrefn; cydymffurfio; diffyg cydymffurfio