Adolygu a datblygu eich hunan er mwyn gwella a chynnal cymhwysedd yn y gweithle mewn amgylchedd gwasanaethau ariannol
URN: FSPFCC01
Sectorau Busnes (Suites): Cymwyseddau Craidd Gwasanaethau Ariannol
Datblygwyd gan: Skills for Justice
Cymeradwy ar:
01 Maw 2017
Trosolwg
Mae'r safon hon yn cwmpasu adolygu eich perfformiad yn erbyn amcanion cytunedig. Mae hefyd yn cynnwys nodi a chyflawni gweithgareddau i ddatblygu eich gwybodaeth, eich sgiliau a'ch dealltwriaeth lle nodwyd bod bylchau. Fe'i lluniwyd i sicrhau bod gennych yr adnoddau personol (yn arbennig gwybodaeth, dealltwriaeth, sgiliau ac amser) i wneud eich gwaith. Bydd angen i chi dderbyn cyfrifoldeb personol am wneud i bethau ddigwydd, ac ymfalchïo mewn cyflawni gwaith o safon uchel.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Cytuno ar amcanion a thasgau gwaith personol a sut byddwch chi'n mesur cynnydd, gyda'r rhai yr ydych chi'n adrodd iddyn nhw yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Nodi unrhyw fylchau rhwng gofynion eich swydd a'ch gwybodaeth gyfredol, dealltwriaeth a sgiliau
- Cytuno, gyda'r rhai rydych chi'n adrodd iddyn nhw, ar gynllun datblygiad personol ar gyfer gwella a datblygu eich gallu i gyflawni gofynion eich swydd
- Ymgymryd â'r gweithgareddau a nodwyd yn eich cynllun datblygu
- Adolygu, gyda'r rhai yr ydych yn adrodd iddynt, sut maent wedi cyfrannu at eich perfformiad, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Ceisio adborth rheolaidd ar eich perfformiad gan y rhai sydd mewn sefyllfa i'w farnu
- Gwirio sut rydych chi'n defnyddio eich amser yn y gwaith a nodi gwelliannau posibl
- Gwirio bod eich perfformiad yn bodloni neu'n mynd y tu hwnt i'r gofynion cytunedig, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Cydymffurfio â gofynion cyfreithiol, rheoliadau'r diwydiant, safonau moesegol, polisïau sefydliadol a chodau ymarfer proffesiynol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Pam mae rheoli eich adnoddau'n bwysig
- Sut mae pennu amcanion gwaith sy'n GAMPUS, yn gyflawnadwy, yn fesuradwy, yn benodol, yn ymarferol ac yn amserol
- Sut mae mesur cynnydd yn erbyn amcanion gwaith
- Sut mae adnabod eich anghenion datblygu
- Beth ddylai gael ei gynnwys mewn cynllun datblygu effeithiol
- Y math o weithgareddau datblygu y gellir eu cyflawni i lenwi bylchau a nodwyd o ran gwybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau
- Sut mae canfod a yw gweithgareddau datblygu wedi cyfrannu at eich perfformiad, neu sut
- Sut mae sicrhau adborth effeithiol ar eich perfformiad
- Sut mae cofnodi defnydd o'ch amser a chanfod gwelliannau posibl
- Gofynion cytunedig eich swydd, gan gynnwys terfynau eich cyfrifoldebau
- Eich amcanion gwaith personol cytunedig
- Llinellau adrodd yn eich sefydliad
- Eich gwybodaeth gyfredol, eich dealltwriaeth a'ch sgiliau
- Bylchau a nodwyd yn eich gwybodaeth gyfredol, eich dealltwriaeth a'ch sgiliau
- Eich cynllun datblygiad personol
- Polisi a gweithdrefnau eich sefydliad o ran datblygiad personol
- Cyfleoedd ac adnoddau datblygu sydd ar gael yn eich sefydliad
- Ffynonellau adborth posibl yn eich sefydliad
- Gofynion eich sefydliad yng nghyswllt cymhwyso codau, cyfreithiau a gofynion rheoliadol, gan gynnwys safonau moesegol, sy'n cael **effaith ar eich gweithgareddau
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
- Rydych yn cael hyd i ffyrdd ymarferol o oresgyn rhwystrau
- Rydych yn gwneud y defnydd gorau o'r adnoddau sydd ar gael ac yn mynd ati'n rhagweithiol i geisio ffynonellau cefnogaeth newydd pan fo angen
- Rydych yn adnabod newidiadau i amgylchiadau'n brydlon ac yn addasu cynlluniau a gweithgareddau'n unol â hynny
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
01 Maw 2022
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Partneriaeth Sgiliau Ariannol
URN gwreiddiol
FSPFCC01
Galwedigaethau Perthnasol
Cyllid
Cod SOC
Geiriau Allweddol
Hunan-ddatblygiad; amcanion gwaith; gwaith tîm; rôl gwaith; amcanion; perthnasoedd gwaith; cyfathrebu; cydweithwyr; rheoliadol; polisi; gweithdrefn; cydymffurfio; diffyg cydymffurfio