Prosesu dogfennau ar gyfer cyfleusterau cyllid a chredyd
URN: FSPFC10
Sectorau Busnes (Suites): Cyllid a Chredyd
Datblygwyd gan: Skills for Justice
Cymeradwy ar:
01 Maw 2017
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â chi'n darparu dogfennau i gwsmeriaid yn dystiolaeth o'r cyfleuster cyllid neu gredyd. Ar ôl i'r cais gael ei dderbyn, byddwch yn paratoi ac yn cyflwyno'r dogfennau gofynnol i'r cwsmer, gan ddatrys unrhyw amwysder neu anghysondeb. Rhaid i chi ddatgelu gwybodaeth i'r rhai sydd ei hangen yn unig, a rhoi sylw i fanylion sy'n hanfodol i'ch gwaith.
Rhaid i chi sicrhau bod yr holl wybodaeth yn cael ei phrosesu'n gywir a bod y dogfennau a gynhyrchir o ganlyniad yn gywir.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Casglu'r holl wybodaeth angenrheidiol i brosesu dogfennaeth yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Nodi'r wybodaeth gywir yn y man priodol, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Cynhyrchu'r dogfennau cywir sy'n cynnwys y manylion cywir ac sy'n unol â gweithdrefnau eich cyflogwr
- Datrys unrhyw anghysondebau neu elfennau nad ydynt yn cyfateb yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Cadarnhau bod y dogfennau'n gywir, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Cyflwyno dogfennau i'r rhai sydd eu hangen yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Cadw cofnodion cyflawn wedi'u diweddaru yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Cydymffurfio â gofynion cyfreithiol, rheoliadau'r diwydiant, gan gynnwys safonau moesegol, polisïau sefydliadol a chodau ymarfer proffesiynol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Terfynau eich awdurdod
- Ffynonellau gwybodaeth a chyngor
- Safonau eich sefydliad o ran gwasanaeth ac amserlen
- Sut mae cael mynediad i gofnodion cwsmeriaid
- Systemau a gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer cofnodi gwybodaeth
- Sut mae delio gyda sefyllfaoedd lle mae'r wybodaeth a ddarparwyd yn datgelu anghysondebau neu elfennau nad ydynt yn cyfateb
- Polisi a gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer cyfathrebu â chwsmeriaid
- Gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer paratoi dogfennaeth yn dystiolaeth o gyfleusterau ariannu neu gredyd
- Gofynion eich sefydliad yng nghyswllt cymhwyso codau, cyfreithiau a gofynion rheoliadol, gan gynnwys safonau moesegol sy'n cael effaith ar eich gweithgareddau
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
- Rydych yn casglu ac yn rheoli gwybodaeth yn effeithiol, yn effeithlon, yn foesegol a chan barchu cyfrinachedd
- Rydych yn cyflwyno gwybodaeth yn glir ac yn gryno
- Rydych yn arddangos dealltwriaeth o bobl eraill ac yn delio gyda nhw mewn modd proffesiynol
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
01 Maw 2022
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Partneriaeth Sgiliau Ariannol
URN gwreiddiol
FSPFC10
Galwedigaethau Perthnasol
Cyllid
Cod SOC
Geiriau Allweddol
Benthyca; rhoi benthyg; penderfyniad benthyca; gostyngiad; cais am forgais; mandad; sicrwydd; hawl; mantolenni; telerau ac amodau; benthyciad; gorddrafft; wedi'i sicrhau; heb ei sicrhau; ôl-ddyledion; credyd