Prosesu ceisiadau am gyfleusterau cyllid a chredyd

URN: FSPFC09
Sectorau Busnes (Suites): Cyllid a Chredyd
Datblygwyd gan: Skills for Justice
Cymeradwy ar: 01 Maw 2017

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â delio gyda cheisiadau uniongyrchol am gyfleusterau cyllid neu gredyd. Gall y penderfyniad ynghylch darparu cyfleuster cyllid neu gredyd i'r cwsmer fod yn un a wneir yn awtomatig, a'ch cyfrifoldeb chi fydd casglu'r wybodaeth angenrheidiol a rhoi gwybod i'r cwsmer ynghylch y penderfyniad. Bydd angen i chi nodi gofynion cwsmeriaid a gwirio eu bod yn deall unrhyw wybodaeth rydych chi'n ei darparu. Bydd angen i chi roi sylw i fanylion sy'n hanfodol i'ch gwaith a chasglu a chofnodi gwybodaeth briodol, gan ei gwirio am unrhyw anghysondebau neu elfennau nad ydynt yn cyfateb. Mae'n bwysig eich bod yn cadw cofnodion cywir, wedi'u diweddaru, ar hyd yr amser. Wrth gyflawni eich gwaith, bydd angen i chi adnabod ceisiadau sy'n syrthio y tu allan i'ch awdurdod a'u cyfeirio ymlaen at y bobl briodol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. Nodi a chadarnhau gofynion eich cwsmer ar gyfer cyllid neu gredyd a'u paru â chyfleuster priodol, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  2. Darparu'r holl wybodaeth hanfodol ynghylch y cyfleuster arfaethedig i gwsmeriaid, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  3. Gwirio dealltwriaeth eich cwsmer a darparu cyfleoedd iddyn nhw ofyn cwestiynau a cheisio eglurhad
  4. Casglu a chofnodi'r holl wybodaeth angenrheidiol i wneud penderfyniadau ynghylch ceisiadau am gyfleusterau cyllid neu gredyd, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  5. Ceisio eglurhad gan gwsmeriaid pan fydd yr wybodaeth a ddarparwyd yn datgelu anghysondebau neu elfennau nad ydynt yn cyfateb
  6. Cyfeirio ceisiadau sydd y tu allan i'ch awdurdod at bobl briodol, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  7. Hysbysu cwsmeriaid ynghylch y penderfyniad o ran cyllid a'r telerau a'r amodau sy'n berthnasol
  8. Sicrhau cytundeb y cwsmer i'r cyfleuster, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  9. Hysbysu cwsmeriaid ynghylch proses rhyddhau arian, yn unol â'r cytundeb ariannu
  10. Cadw cofnodion cywir wedi'u diweddaru yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  11. Nodi risgiau posibl yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  12. Cydymffurfio â gofynion cyfreithiol, rheoliadau'r diwydiant, gan gynnwys safonau moesegol, polisïau sefydliadol a chodau ymarfer proffesiynol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. Y mathau o gyfleuster cyllid neu gredyd y mae gennych awdurdod i ddelio gyda nhw
  2. Yr amodau sy'n berthnasol i bob cyfleuster sydd oddi mewn i derfynau eich awdurdod eich hun
  3. Manteision a nodweddion pob cyfleuster sydd oddi mewn i derfynau eich awdurdod eich hun
  4. Meini prawf a gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer ymdrin â cheisiadau am gyfleusterau cyllid neu gredyd
  5. Y bobl y gallwch chi gyfeirio ymholiadau a cheisiadau atynt, ac y gallwch droi atynt am gyngor
  6. Prosesau canfod ffeithiau y gallwch eu defnyddio i ganfod gofynion cyllid neu gredyd
  7. Sut mae delio gyda sefyllfaoedd lle mae'r wybodaeth a ddarparwyd yn datgelu anghysondebau neu elfennau nad ydynt yn cyfateb
  8. Dulliau priodol o gyfleu penderfyniadau i gwsmeriaid
  9. Gofynion eich sefydliad yng nghyswllt cymhwyso codau, cyfreithiau a gofynion rheoliadol, gan gynnwys safonau moesegol sy'n cael effaith ar eich gweithgareddau

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau

  1. Rydych yn defnyddio gwybodaeth yn effeithiol, yn effeithlon ac yn foesegol
  2. Rydych yn arddangos uniondeb, tegwch a chysondeb

Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Maw 2022

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Partneriaeth Sgiliau Ariannol

URN gwreiddiol

FSPFC09

Galwedigaethau Perthnasol

Cyllid

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Benthyca; rhoi benthyg; penderfyniad benthyca; gostyngiad; cais am forgais; mandad; sicrwydd; hawl; mantolenni; telerau ac amodau; benthyciad; gorddrafft; wedi'i sicrhau; heb ei sicrhau; ôl-ddyledion; credyd