Rheoli ansawdd penderfyniadau i gynnig cyfleusterau cyllid a chredyd
URN: FSPFC07
Sectorau Busnes (Suites): Cyllid a Chredyd
Datblygwyd gan: Skills for Justice
Cymeradwy ar:
2017
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud ag adolygu neu awdurdodi penderfyniadau i gynnig cyfleusterau cyllid neu gredyd. Gall hyn fod mewn perthynas ag achosion unigol sydd angen atgyfeiriad, neu fel rhan o broses oruchwylio barhaus. Bydd angen i chi roi sylw i fanylion sy'n hanfodol i'ch gwaith, a bydd angen i chi asesu ceisiadau a baratowyd gan eraill yn eich tîm, gan sicrhau bod lefel y risg yn dderbyniol a bod sicrwydd priodol ar gael lle bo hynny'n addas. Rhaid i chi weithredu oddi mewn i lefel mandad eich awdurdod i gymeradwyo ac awdurdodi ceisiadau, a dangos eich bod yn cyflawni'r cyfrifoldeb hwn mewn modd cymwys.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Casglu'r holl wybodaeth a dogfennaeth angenrheidiol i chi gynnal adolygiadau, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Gwirio bod ffurflenni cais wedi'u cwblhau yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Canfod lefel y risg a gyflwynir gan geisiadau am gyfleusterau cyllid neu gredyd yn erbyn meini prawf a chanllawiau eich sefydliad
- Cyfiawnhau eich penderfyniad i symud ymlaen gyda cheisiadau am gyfleusterau cyllid neu gredyd, yn unol â'r awdurdod sy'n rhan o'ch mandad a chanllawiau eich sefydliad
- Gwirio bod sicrwydd ar gyfer y cyfleuster cyllid neu gredyd yn ei le os bydd angen, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Adolygu ac awdurdodi ceisiadau sy'n rhan o fandad eich awdurdod a meini prawf eich sefydliad ar gyfer cyfleusterau cyllid neu gredyd
- Cyfeirio ceisiadau sydd y tu allan i'ch awdurdod eich hun at bobl briodol i'w cymeradwyo, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Nodi risgiau posibl yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- Cydymffurfio â gofynion cyfreithiol, rheoliadau'r diwydiant, gan gynnwys safonau moesegol, polisïau sefydliadol a chodau ymarfer proffesiynol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Y cyfleusterau cyllid neu gredyd a gynigir gan eich sefydliad, a'r telerau a'r amodau sy'n berthnasol iddyn nhw
- Deddfwriaeth a rheoliadau perthnasol sy'n effeithio ar eich gwaith
- Meini prawf a gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer cymeradwyo neu awdurdodi ceisiadau am gyfleusterau cyllid neu gredyd
- Terfynau eich awdurdod wrth gymeradwyo neu awdurdodi ceisiadau am gyfleusterau cyllid neu gredyd
- At bwy y dylech chi gyfeirio ceisiadau nad oes gennych awdurdod i'w cymeradwyo
- Meini prawf a chanllawiau eich sefydliad ar gyfer canfod y risg sydd ynghlwm wrth geisiadau am gyfleusterau cyllid neu gredyd
- Canllawiau eich sefydliad ar gyfer delio gyda materion twyll a gwyngalchu arian
- Canllawiau eich sefydliad mewn perthynas â sicrwydd ar gyfer cyfleusterau cyllid neu gredyd
- Y dogfennau a'r wybodaeth sy'n ofynnol i gefnogi ceisiadau am gyfleusterau cyllid neu gredyd
- Gofynion eich sefydliad yng nghyswllt cymhwyso codau, cyfreithiau a gofynion rheoliadol, gan gynnwys safonau moesegol sy'n cael effaith ar eich gweithgareddau
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
- Rydych yn defnyddio gwybodaeth yn effeithiol, yn effeithlon ac yn foesegol
- Rydych yn arddangos uniondeb, tegwch a chysondeb yn y penderfyniadau a wnewch
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
2022
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Partneriaeth Sgiliau Ariannol
URN gwreiddiol
FSPFC07
Galwedigaethau Perthnasol
Cyllid
Cod SOC
Geiriau Allweddol
Benthyca; rhoi benthyg; penderfyniad benthyca; gostyngiad; cais am forgais; mandad; sicrwydd; hawl; mantolenni; telerau ac amodau; benthyciad; gorddrafft; wedi'i sicrhau; heb ei sicrhau; ôl-ddyledion; credyd